RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Apelau i’r tribiwnlys
105Apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo GCC wedi gwneud penderfyniad—
(a)
(b)
o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â phrawf tueddfryd, neu gyfnod addasu, mewn cysylltiad â pherson yn cael caniatâd, yn rhinwedd y Rhan honno, i gael mynediad at broffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig F4neu broffesiwn rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw F5, neu
F6(c)
o dan reoliad 67 o'r Rheoliadau hynny i anfon rhybudd ynglŷn â pherson.
(2)
Caiff y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.
(3)
Rhaid i apêl o dan is-adran (2) gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr hysbyswyd y person gan GCC am y penderfyniad.
(4)
Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).
(5)
Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—
(a)
cadarnhau’r penderfyniad,
(b)
rhoi penderfyniad arall y gallai GCC fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn F7neu, yn achos apêl yn erbyn penderfyniad sy'n dod o fewn is-adran (1)(c), cyfarwyddo bod y rhybudd yn cael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio., neu
(c)
anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.