Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

105Apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau CyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo GCC wedi gwneud penderfyniad—

(a)o dan reoliad [F113(2)] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol o ran a yw person yn darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig [F2neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig] ar sail dros dro ac achlysurol, F3...

(b)o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â phrawf tueddfryd, neu gyfnod addasu, mewn cysylltiad â pherson yn cael caniatâd, yn rhinwedd y Rhan honno, i gael mynediad at broffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig [F4neu broffesiwn rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ] ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw [F5, neu]

[F6(c)o dan reoliad 67 o'r Rheoliadau hynny i anfon rhybudd ynglŷn â pherson.]

(2)Caiff y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl o dan is-adran (2) gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr hysbyswyd y person gan GCC am y penderfyniad.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai GCC fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn [F7neu, yn achos apêl yn erbyn penderfyniad sy'n dod o fewn is-adran (1)(c), cyfarwyddo bod y rhybudd yn cael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio.], neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 105 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)