RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Apelau i banel apelau cofrestru
103Penderfyniadau ar apêl i’r panel apelau cofrestru
F1(1)
F2Yn ddarostyngedig i is-adran (2), Ar apêl o dan adran 101, caiff panel apelau cofrestru—
(a)
cadarnhau penderfyniad y cofrestrydd,
(b)
rhoi penderfyniad arall o fath y gallai’r cofrestrydd fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu
(c)
anfon yr achos yn ôl at y cofrestrydd i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r panel.
F3(2)
Pan wneir apêl o dan adran 101(1A), rhaid i banel apelau cofrestru anfon yr achos yn ôl at y cofrestrydd i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r panel.