RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i banel apelau cofrestru

103Penderfyniadau ar apêl i’r panel apelau cofrestru

Ar apêl o dan adran 101, caiff panel apelau cofrestru—

(a)

cadarnhau penderfyniad y cofrestrydd,

(b)

rhoi penderfyniad arall o fath y gallai’r cofrestrydd fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

(c)

anfon yr achos yn ôl at y cofrestrydd i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r panel.