RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Apelau i banel apelau cofrestru
101Apelau yn erbyn penderfyniadau’r cofrestrydd
1
Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—
a
o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;
b
o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;
c
i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;
d
o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.
2
Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—
a
â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,
b
â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu
c
â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.