xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—
(a)o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;
(b)o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;
(c)i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;
(d)o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.
(2)Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—
(a)â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,
(b)â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu
(c)â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.
[F1(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—
(a)penderfyniad gan y cofrestrydd i wrthod cofrestru person o dan adran 83A, neu
(b)penderfyniad gan y cofrestrydd i ddirymu cofrestriad person o dan yr adran honno.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 101(3) wedi ei fewnosod (dd.) (25.3.2020) yn rhinwedd Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(1), Atod. 5 para. 2(4)(b) (ynghyd ag aau. 89, 90) (subject to expiry yn unol â a. 89(1)(2)(d) of the modifying Deddf)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 101 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)