RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i banel apelau cofrestru

101Apelau yn erbyn penderfyniadau’r cofrestrydd

(1)

Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—

(a)

o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;

(b)

o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;

(c)

i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;

(d)

o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.

(2)

Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—

(a)

â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,

(b)

â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu

(c)

â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.

F1(3)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)

penderfyniad gan y cofrestrydd i wrthod cofrestru person o dan adran 83A, neu

(b)

penderfyniad gan y cofrestrydd i ddirymu cofrestriad person o dan yr adran honno.