xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i banel apelau cofrestruLL+C

101Apelau yn erbyn penderfyniadau’r cofrestryddLL+C

(1)Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—

(a)o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;

(b)o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;

(c)i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;

(d)o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.

(2)Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—

(a)â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,

(b)â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu

(c)â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 101 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)