RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Adfer cofnod i’r gofrestr
100Rheolau ynghylch ceisiadau o dan adran 96 ac 97
(1)
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn mewn cysylltiad â chais—
(a)
i adfer o dan adran 96 neu 97;
(b)
i adolygu cyfarwyddyd a roddir o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o hawl i wneud cais i adfer).
(2)
Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ar ba ffurf ac ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;
(b)
yr wybodaeth sydd i’w darparu i ategu cais;
(c)
y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo;
(d)
y cyfnod y mae rhaid darparu ynddo unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei roi;
(e)
yr amgylchiadau pan ganiateir i gais i adfer o dan adran 96 gael ei atgyfeirio i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno;
(f)
y meini prawf y mae panel apelau cofrestru i gyfeirio atynt i ddyfarnu pa un a yw cofnod i gael ei adfer ai peidio neu a yw cyfarwyddyd i gael ei gadarnhau neu ei ddirymu;
(g)
yr amgylchiadau pan godir ffi ar gyfer gwneud cais i adfer cofnod i’r gofrestr a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.