Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

100Rheolau ynghylch ceisiadau o dan adran 96 ac 97LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn mewn cysylltiad â chais—

(a)i adfer o dan adran 96 neu 97;

(b)i adolygu cyfarwyddyd a roddir o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o hawl i wneud cais i adfer).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ar ba ffurf ac ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu i ategu cais;

(c)y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo;

(d)y cyfnod y mae rhaid darparu ynddo unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei roi;

(e)yr amgylchiadau pan ganiateir i gais i adfer o dan adran 96 gael ei atgyfeirio i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno;

(f)y meini prawf y mae panel apelau cofrestru i gyfeirio atynt i ddyfarnu pa un a yw cofnod i gael ei adfer ai peidio neu a yw cyfarwyddyd i gael ei gadarnhau neu ei ddirymu;

(g)yr amgylchiadau pan godir ffi ar gyfer gwneud cais i adfer cofnod i’r gofrestr a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 100 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)