RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
10Datganiad blynyddol
(1)
Rhaid i ddarparwr gwasanaeth F1, ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi—
(a)
cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru;
(b)
cyhoeddi’r datganiad hwnnw ar ei wefan.
F2(1A)
Rhaid i ddarparwr gwasanaeth roi ar gael, ar gais, gopi o ddatganiad blynyddol sydd wedi ei gyhoeddi ar ei wefan.
(2)
Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys—
(a)
yr wybodaeth a ganlyn—
(i)
y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;
(ii)
y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;
(iii)
enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;
(iv)
y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig a phob man o’r fath;
(v)
manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;
(vi)
manylion am nifer y personau y darparodd y darparwr ofal a chymorth iddynt yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu pob gwasanaeth o’r fath;
(vii)
unrhyw wybodaeth a ragnodir am hyfforddiant a gynigir neu a gyflawnir mewn perthynas â phob gwasanaeth o’r fath;
(viii)
unrhyw wybodaeth am gynllunio’r gweithlu a ragnodir;
F3(viiia)
unrhyw wybodaeth a ragnodir am dystiolaeth sy’n berthnasol i’r prawf person addas a phriodol;
(ix)
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir, a
(b)
datganiad sy’n nodi sut y mae’r darparwr gwasanaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 27(1) sy’n pennu safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei darparu (gweler adran 27(2)).
F4(2A)
Yn achos darparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i ddatganiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
(2B)
Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr nad yw adran 6A yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2(4) o Atodlen 1A.
(3)
Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar y ffurf ragnodedig.
(4)
Rhaid cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser rhagnodedig.
F5(4A)
Rhaid cyhoeddi datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser rhagnodedig.
(4B)
Ond os yw datgelu gwybodaeth a gynhwysir yn y datganiad blynyddol wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall, rhaid cuddio’r wybodaeth honno yn y datganiad blynyddol cyn ei gyhoeddi.
F6(5)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(6)
Er gwaethaf adran 187(3), ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(vii),
(b)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viii), F7...
F8(ba)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viiia),
(c)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(ix), F9neu
F10(d)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2A),
oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F11Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.