Search Legislation

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Adran 10 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 11 Awst 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

10Datganiad blynyddolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i ddarparwr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi.

(2)Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys—

(a)yr wybodaeth a ganlyn—

(i)y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;

(ii)y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;

(iii)enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;

(iv)y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig a phob man o’r fath;

(v)manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;

(vi)manylion am nifer y personau y darparodd y darparwr ofal a chymorth iddynt yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu pob gwasanaeth o’r fath;

(vii)unrhyw wybodaeth a ragnodir am hyfforddiant a gynigir neu a gyflawnir mewn perthynas â phob gwasanaeth o’r fath;

(viii)unrhyw wybodaeth am gynllunio’r gweithlu a ragnodir;

(ix)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir, a

(b)datganiad sy’n nodi sut y mae’r darparwr gwasanaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 27(1) sy’n pennu safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei darparu (gweler adran 27(2)).

(3)Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar y ffurf ragnodedig.

(4)Rhaid cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser rhagnodedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob datganiad blynyddol a gyflwynir o dan is-adran (1).

(6)Er gwaethaf adran 187(3), ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(vii),

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viii), neu

(c)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(ix),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 10 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?