RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad

10Datganiad blynyddol

(1)

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi.

(2)

Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys—

(a)

yr wybodaeth a ganlyn—

(i)

y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;

(ii)

y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;

(iii)

enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;

(iv)

y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig a phob man o’r fath;

(v)

manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;

(vi)

manylion am nifer y personau y darparodd y darparwr ofal a chymorth iddynt yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu pob gwasanaeth o’r fath;

(vii)

unrhyw wybodaeth a ragnodir am hyfforddiant a gynigir neu a gyflawnir mewn perthynas â phob gwasanaeth o’r fath;

(viii)

unrhyw wybodaeth am gynllunio’r gweithlu a ragnodir;

(ix)

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir, a

(b)

datganiad sy’n nodi sut y mae’r darparwr gwasanaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 27(1) sy’n pennu safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei darparu (gweler adran 27(2)).

(3)

Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar y ffurf ragnodedig.

(4)

Rhaid cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser rhagnodedig.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob datganiad blynyddol a gyflwynir o dan is-adran (1).

(6)

Er gwaethaf adran 187(3), ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(vii),

(b)

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viii), neu

(c)

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(ix),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.