ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU
Deddf Safonau Gofal 2000
4
Yn adran 4—
(a)
yn is-adran (2), ar ôl “establishment” mewnosoder “in England”;
(b)
yn is-adran (3), ar ôl “persons” mewnosoder “in England”;
(c)
yn is-adran (4)—
(i)
ym mharagraff (a), ar ôl “authorities” mewnosoder “in England”;
(ii)
ym mharagraff (b), ar ôl “organisation” mewnosoder “in England”;
(d)
mae is-adran (5) wedi ei diddymu;
(e)
yn is-adran (7), ar y diwedd mewnosoder “whose principal office is in England”;
(f)
yn is-adran (7A), yn lle “has” rhodder “means an undertaking in England which is an adoption support agency within”;
(g)
yn is-adran (8)(a)—
(i)
yn is-baragraff (i), ar y diwedd mewnosoder “in England”;
(ii)
yn is-baragraff (ii), ar ôl “home” mewnosoder “in England”;
(iii)
mae is-baragraff (vi) wedi ei diddymu;
(iv)
yn is-baragraff (vii), ar y diwedd mewnosoder “in England”;
(h)
yn is-adran (9)(a), mae is-baragraffau (ii) a (iii) wedi eu diddymu;
(i)
yn is-adran (10), ar ôl “services” lle y mae’n digwydd yn gyntaf mewnosoder “in England”.