xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10(1)Mae GCC i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm); ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2)Mae GCC i reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm)—
(a)ei bwyllgorau, a
(b)ei is-bwyllgorau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
11(1)Caiff GCC fod â sêl.
(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—
(a)unrhyw aelod o GCC, neu
(b)unrhyw berson arall a awdurdodir gan GCC at y diben hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
12Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl GCC neu wedi ei llofnodi ar ei ran i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei chymryd fel ei bod wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)