ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

Dehongli

9

Yn yr Atodlen hon—

mae i “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yr ystyr a roddir gan Ddeddf 2014;

ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw—

(a)

ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn yr ystyr a roddir i “health service hosptial” gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),

(b)

ysbyty annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent hosptial” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14), a

(c)

clinig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent clinic” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.