ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU
Gwasanaethau eirioli
7
(1)
Mae “gwasanaeth eirioli” yn wasanaeth a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)
Ni chaniateir i wasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli oni bai bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth, ac i’r graddau y maent wedi eu bodloni felly.
(3)
Y gofyniad cyntaf yw bod y gwasanaeth yn wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion, neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu pa un a yw’r anghenion hynny’n bodoli).
(4)
Yr ail ofyniad yw nad yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan berson sydd, yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol (o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29))—
(a)
yn berson awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu
(b)
yn Gyfreithiwr Ewropeaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “European lawyer” yng Ngorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) (O.S. 1978/1910)).
(5)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(6)
Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)
sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-baragraff hwnnw, a
(b)
nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i‘w diwygio.