xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CGWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

Gwasanaethau lleoli oedolionLL+C

6(1)Ystyr “gwasanaeth lleoli oedolion” yw gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “cytundeb gofalwr” yw cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)