ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

Gwasanaethau mabwysiadu

4

Mae “gwasanaeth mabwysiadu” yn wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan—

(a)

cymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr “adoption society” yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) sy’n sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr y Ddeddf honno F1(ond gweler adran 2(4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) (dim cais i gofrestru i gael ei wneud o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon os yw cymdeithas fabwysiadu yn gorff anghorfforedig), neu

(b)

asiantaeth cymorth mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption support agency” gan adran 8 o’r Ddeddf honno.