ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

Gwasanaethau mabwysiadu

4

Mae “gwasanaeth mabwysiadu” yn wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan—

(a)

cymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr “adoption society” yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) sy’n sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr y Ddeddf honno, neu

(b)

asiantaeth cymorth mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption support agency” gan adran 8 o’r Ddeddf honno.