xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 2LL+CGWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.LL+C

118Atgyfeirio honiadau etc. o amhariad ar addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo honiad yn cael ei wneud i GCC bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, neu

(b)pan fo gan GCC reswm fel arall dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)O ran GCC—

(a)rhaid iddo atgyfeirio am ystyriaeth ragarweiniol y mater sy’n destun yr honiad neu ei reswm dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a

(b)caiff atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim (gweler Pennod 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 118 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

119Ystyriaeth ragarweiniolLL+C

(1)Rhaid i’r person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater a atgyfeirir gan GCC atgyfeirio’r mater hwnnw i ymchwilio iddo o dan adran 125 oni bai—

(a)bod y person yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120, neu

(b)ei bod yn ofynnol i’r person drwy adran 121 atgyfeirio’r mater yn uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater atgyfeirio’r mater, ar unrhyw adeg, i banel gorchmynion interim (yn ychwanegol at wneud atgyfeiriad neu ddyfarniad o dan is-adran (1)).

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ragarweiniol a gaiff, yn benodol, ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—

(a)un neu ragor o bersonau a benodir at y diben hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys tâl) y mae GCC yn penderfynu arnynt;

(b)un neu ragor o aelodau o staff GCC.

(4)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—

(a)person sy’n aelod o—

(i)GCC,

(ii)[F1Gwaith Cymdeithasol Lloegr] ,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;

(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;

(d)person rhagnodedig.

(5)Rhaid i GCC wneud unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn ef i hwyluso cydweithredu rhwng—

(a)person sydd wedi gwneud honiad bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, a

(b)y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r honiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 119 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

120Cymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaenLL+C

(1)Mae mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen oni bai—

(a)bod y mater yn ymwneud ag ymddygiad neu ddigwyddiad a ddigwyddodd 5 mlynedd neu ragor cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes unrhyw un o’r eithriadau yn is-adran (4) yn gymwys,

(b)bod y person a benodir i roi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater yn meddwl bod yr honiad yn flinderus, neu

(c)pan fo honiad wedi ei wneud yn ddienw, neu gan berson sy’n methu â chydymffurfio â’r weithdrefn ystyriaeth ragarweiniol, na all y person a benodir i roi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater ei wirio.

(2)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at atgyfeirio ymlaen yn gyfeiriad at—

(a)atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(3)Yn is-adran (1)(a) ystyr “dyddiad perthnasol” yw—

(a)dyddiad yr honiad o dan adran 118(1)(a), neu

(b)pan na fo honiad wedi ei wneud o dan yr adran honno, y dyddiad y daeth GCC yn ymwybodol o’r mater yn gyntaf.

(4)At ddibenion is-adran (1)(a) yr eithriadau yw—

(a)bod y mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol;

(b)bod y mater yn ymwneud â chynnwys y person cofrestredig ar restr wahardd (fel y’i diffinnir yn adran 117);

(c)bod y mater yn ymwneud â dyfarniad gan gorff perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 117) i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer;

(d)bod y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i’r mater gael ei atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad.

(5)At ddibenion is-adran (4)(a) ac adran 121, trosedd berthnasol yw—

(a)yn achos collfarn gan lys yn y Deyrnas Unedig, trosedd y gosodwyd dedfryd o garchar, neu y gellid bod wedi gosod dedfryd o garchar, mewn cysylltiad â hi, neu

(b)yn achos collfarn gan lys yn rhywle arall, trosedd y gallai dedfryd o garchar fod wedi ei gosod mewn cysylltiad â hi, pe bai’r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru neu Loegr.

(6)Yn is-adran (5), mae i “dedfryd o garchar” yr ystyr a roddir i “custodial sentence” gan adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 120 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

121Atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarferLL+C

Rhaid i berson sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater ei atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer—

(a)os yw’r mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol (gweler adran 120(5)), a

(b)o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir gan GCC mewn rheolau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 121 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

122Hysbysiad: anghymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120(1).

(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad o’r dyfarniad i’r personau perthnasol, oni bai bod GCC yn meddwl nad yw er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(3)At ddibenion is-adran (2) “y personau perthnasol” yw—

(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.

(4)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall nad yw mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen pan fo wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cynnwys hysbysiad o dan yr adran hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 122 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

123Hysbysiad: atgyfeirio ymlaenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 ddod i ben, pan fo mater yn cael ei atgyfeirio—

(a)i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad—

(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef;

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad;

(c)i bob person y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(d)i bob person sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(e)i unrhyw bersonau eraill a ragnodir.

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad o dan is-adran (2).

(4)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cynnwys hysbysiad;

(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad;

(c)y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 123 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

124Hysbysiad: atgyfeirio i banel gorchmynion interimLL+C

Pan fo person yn atgyfeirio mater i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)(b) neu 119(2), o ran GCC—

(a)rhaid iddo roi hysbysiad o’r atgyfeirio—

(i)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(ii)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad, a

(b)caiff roi hysbysiad o’r atgyfeirio i unrhyw berson arall os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14A. 124 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)