Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

RHAN 5LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

112Codau ymarferLL+C

(1)Rhaid i GCC lunio, a chyhoeddi o dro i dro, godau ymarfer sy’n pennu—

(a)safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol;

(b)safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.

(2)Caiff y codau wneud darpariaeth wahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o weithiwr gofal cymdeithasol.

(3)Caiff y codau hefyd bennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd (o fewn ystyr “approved mental health professional” yn adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)).

(4)Rhaid i GCC—

(a)cadw’r codau o dan adolygiad, a

(b)amrywio eu darpariaethau pa bryd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Pan honnir bod person sydd wedi ei gofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw safon sydd wedi ei chynnwys mewn cod a wneir o dan yr adran hon—

(a)nid yw’r methiant hwnnw, ynddo’i hun, i’w gymryd fel pe bai’n berfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu gamymddwyn difrifol at ddibenion adran 117 (addasrwydd i ymarfer), ond

(b)caniateir i’r methiant hwnnw gael ei ystyried mewn achosion o dan y Ddeddf hon sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer.

(6)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymddygiad unrhyw weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n eu cyflogi, os y’i cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i wneud hynny, ystyried unrhyw god a gyhoeddir gan GCC o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 112 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(d) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

113Datblygiad proffesiynol parhausLL+C

(1)Caiff GCC wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr gyflawni hyfforddiant pellach.

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â phersonau sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheolau a wneir gan GCC o dan is-adran (1), gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeiriadau i banel addasrwydd i ymarfer.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 113 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(d) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

114Cymeradwyo cyrsiau etc.LL+C

(1)Caiff GCC, yn unol â rheolau a wneir ganddo—

(a)cymeradwyo cyrsiau mewn gwaith cymdeithasol perthnasol ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr;

(b)cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr;

(c)cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad nad yw wedi ei bennu yn adran 80(1) neu odani.

(2)Caiff cymeradwyaeth a roddir o dan yr adran hon fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol ym marn GCC.

(3)Caiff rheolau a wneir yn rhinwedd yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch cynnwys cyrsiau a’r dulliau ar gyfer cwblhau cyrsiau;

(b)o ran y ddarpariaeth o wybodaeth am gyrsiau i GCC;

(c)o ran y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau, neu rannau o gyrsiau a bennir yn y rheolau;

(d)o ran niferoedd y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau;

(e)o ran dyfarnu tystysgrifau gan GCC o gwblhau cyrsiau yn llwyddiannus;

(f)ynghylch darfodiad ac adnewyddiad cymeradwyaethau;

(g)ynghylch tynnu cymeradwyaethau yn ôl.

(4)Caiff GCC—

(a)cynnal, neu wneud trefniadau ar gyfer cynnal, archwiliadau mewn cysylltiad â chyrsiau a grybwyllir yn yr adran hon neu yn adran 116;

(b)gwneud gwaith ymchwil, neu helpu personau eraill i wneud gwaith ymchwil, i faterion sy’n berthnasol i hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.

(5)Ni chaniateir i gwrs gael ei gymeradwyo gan GCC o dan yr adran hon oni bai bod GCC yn meddwl y bydd y cwrs yn galluogi personau sy’n ei gwblhau i gyrraedd y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol.

(6)Yn is-adran (5) ystyr “y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol” yw’r safon a ddisgrifir mewn rheolau a wneir gan GCC.

(7)Rhaid i GCC gynnal a chyhoeddi rhestr o’r cyrsiau y mae wedi eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 114 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(d) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

115Arolygiadau mewn cysylltiad â chyrsiau penodolLL+C

(1)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer arolygu mannau lle y gwneir y canlynol neu ar gyfer arolygu sefydliadau y gwneir y canlynol ganddynt neu o dan eu cyfarwyddyd—

(a)y rhoddir, neu y bwriedir rhoi, unrhyw gwrs perthnasol (neu ran o gwrs o’r fath), neu

(b)y cynhelir unrhyw archwiliad, neu y bwriedir cynnal unrhyw archwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs perthnasol.

(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer penodi personau i gynnal arolygiadau (“arolygwyr”);

(b)i adroddiadau gael eu gwneud gan arolygwyr—

(i)ar natur ac ansawdd y cyfarwyddyd a roddir, neu sydd i’w roi, a’r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i’w darparu, yn y man neu gan y sefydliad yr ymwelir ag ef;

(ii)ar unrhyw faterion eraill a bennir yn y rheolau;

(c)i GCC dalu ffioedd, lwfansau a threuliau i bersonau a benodir yn arolygwyr;

(d)i bersonau o’r fath gael eu trin, at ddibenion Atodlen 2, fel aelodau o staff GCC.

(3)Yn is-adran (1) ystyr “cwrs perthnasol”, mewn perthynas â GCC, yw—

(a)unrhyw gwrs y rhoddwyd cymeradwyaeth ar ei gyfer gan GCC, neu y ceisir cymeradwyaeth o’r fath, o dan adran 114, neu

(b)unrhyw hyfforddiant y caiff fod yn ofynnol, yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 113(1), i berson sydd wedi ei dderbyn i ran o’r gofrestr ei gwblhau ar ôl cofrestru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 115 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(d) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

116Swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiantLL+C

(1)Os ymddengys i GCC nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer hyfforddi personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad, caiff GCC ddarparu cyrsiau at y diben hwnnw neu sicrhau bod cyrsiau o’r fath yn cael eu darparu.

(2)Caiff GCC hefyd, ar unrhyw delerau ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)gwneud grantiau, a thalu lwfansau teithio a lwfansau eraill, i bersonau sy’n preswylio yng Nghymru er mwyn sicrhau eu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad;

(b)gwneud grantiau i sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 116 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(d) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)