RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” etc.
79Ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” etc.
1
Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” yw person—
a
sy’n ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol (y cyfeirir ato yn y Rhannau hynny fel “gweithiwr cymdeithasol”);
b
sy’n rheoli man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono;
c
sydd, yn ystod ei gyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr hwnnw;
d
sydd, o dan gontract am wasanaethau, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.
2
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
a
eithrio personau o ddisgrifiad penodedig o’r diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol yn is-adran (1);
b
darparu bod personau o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau yn is-adran (3), neu gategorïau o berson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau hynny, i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
3
Y disgrifiadau o bersonau yw—
a
person sydd wedi ei ddynodi o dan Bennod 2 o Ran 1 (cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau) yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;
b
person sy’n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (o fewn ystyr Deddf 2014), neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau sy’n debyg i wasanaethau y caniateir iddynt gael, neu y mae rhaid iddynt gael, eu darparu gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny;
c
person sy’n darparu gofal a chymorth a fyddai, oni bai am baragraff 8(2)(a) o Atodlen 1, yn gyfystyr â darparu gwasanaeth cymorth cartref;
d
person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) fel—
i
gwarchodwr plant, neu
ii
darparwr gofal dydd i blant;
e
person sy’n rheoli ymgymeriad, neu sydd wedi ei gyflogi mewn ymgymeriad, sy’n cynnal busnes cyflogi (o fewn ystyr “employment business” yn adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)) sy’n cyflenwi personau i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru;
f
person sy’n rheoli ymgymeriad, neu sydd wedi ei gyflogi mewn ymgymeriad, sy’n cynnal asiantaeth gyflogi (o fewn ystyr “employment agency” yn yr adran a grybwyllir ym mharagraff (e)) sy’n darparu gwasanaethau at ddiben cyflenwi personau i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru;
g
person sy’n ymgymryd â chwrs a gymeradwyir gan GCC o dan adran 114 (cyrsiau ar gyfer personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol);
h
arolygydd sy’n cynnal arolygiadau o wasanaethau rheoleiddiedig ar ran Gweinidogion Cymru o dan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf hon (gwybodaeth ac arolygiadau);
i
arolygydd sy’n cynnal arolygiadau o dan adran 161 o Ddeddf 2014 (arolygiadau mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol);
j
person a gyflogir mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Plant 1989 (p.41) (arolygu cartrefi plant etc.);
k
staff Llywodraeth Cymru sy’n arolygu mangreoedd o dan—
i
adran 87 o Ddeddf Plant 1989 (lles plant sydd wedi eu lletya mewn ysgolion annibynnol a cholegau), neu
ii
adran 40 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (arolygu gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru);
l
person sy’n rheoli staff a grybwyllir ym mharagraff (j) neu (k).
4
At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon ystyr “gwaith cymdeithasol perthnasol” yw gwaith cymdeithasol sy’n ofynnol mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.
5
Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “darparwr gwasanaeth” a “gofal a chymorth”.