xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 03/04/2017

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i’r tribiwnlysLL+C

104Apelau yn erbyn penderfyniadau panel apelau cofrestruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel apelau cofrestru—

(a)yn gwneud dyfarniad o dan adran 98(1)(b) na ddylai cofnod yn y gofrestr gael ei adfer am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)yn cyfarwyddo o dan adran 98(4) na chaiff person gyflwyno ceisiadau pellach i adfer i ran o’r gofrestr, neu’n cadarnhau cyfarwyddyd o’r fath o dan adran 99(2);

(c)yn gwneud dyfarniad mewn cysylltiad â chais i adfer a atgyfeirir iddo yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 100(2)(e) am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(d)yn gwneud dyfarniad o dan adran 103 mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd.

(2)Caiff y person y mae penderfyniad y panel yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y panel.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel fod wedi ei wneud yn lle penderfyniad y panel, neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

105Apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau CyffredinolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo GCC wedi gwneud penderfyniad—

(a)o dan reoliad [13(2)] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol o ran a yw person yn darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig [neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig] ar sail dros dro ac achlysurol, F1...

(b)o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â phrawf tueddfryd, neu gyfnod addasu, mewn cysylltiad â pherson yn cael caniatâd, yn rhinwedd y Rhan honno, i gael mynediad at broffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig [neu broffesiwn rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ] ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw [, neu]

[(c)o dan reoliad 67 o'r Rheoliadau hynny i anfon rhybudd ynglŷn â pherson.]

(2)Caiff y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl o dan is-adran (2) gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr hysbyswyd y person gan GCC am y penderfyniad.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai GCC fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn [neu, yn achos apêl yn erbyn penderfyniad sy'n dod o fewn is-adran (1)(c), cyfarwyddo bod y rhybudd yn cael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio.], neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I3A. 105 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)