RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Parhad Cyngor Gofal Cymru a’i ailenwi

I1I13I1867Gofal Cymdeithasol Cymru

1

Mae adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diddymu.

2

Mae’r corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan yr adran honno i barhau i fodoli.

3

Ond mae wedi ei ailenwi, a’i enw yw Gofal Cymdeithasol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “GCC”).

4

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch GCC.

Amcanion GCC

I2I14I1968Amcanion GCC

1

Prif amcan GCC wrth gyflawni ei swyddogaethau yw diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru.

2

Wrth gyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i GCC arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal—

a

safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth,

b

safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol,

c

safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol, a

d

hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.

3

Gweler adran 69 am ystyr “gwasanaethau gofal a chymorth” ac adran 79 am ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol”.

Cyngor a chynhorthwy

I3I2069Cyngor a chynhorthwy mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth

1

Caiff GCC roi cyngor neu gynhorthwy arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gofal a chymorth at ddiben annog gwelliant yn y ddarpariaeth o’r gwasanaeth hwnnw.

2

Caiff GCC atodi unrhyw amodau i grant a roddir o dan is-adran (1) sy’n briodol yn ei farn ef.

3

Ystyr “gwasanaeth gofal a chymorth” yw—

a

gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

b

unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol.

4

Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “gofal a chymorth”.

I4I2170Astudiaethau o ran darbodaeth, effeithlonrwydd etc.

Caiff GCC hybu neu gynnal astudiaethau cymharol neu astudiaethau eraill sydd wedi eu dylunio er mwyn ei alluogi i wneud argymhellion o dan adran 69 ar gyfer gwella darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y ddarpariaeth o wasanaeth gofal a chymorth.

Ymgysylltu â’r cyhoedd etc.

I5I2271Ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol

1

Rhaid i GCC

a

rhoi gwybodaeth am GCC a’r arferiad o’i swyddogaethau ar gael i—

i

y cyhoedd, a

ii

gweithwyr gofal cymdeithasol;

b

llunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol yn yr arferiad o’r swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).

2

O ran GCC

a

caiff ddiwygio ei ddatganiad polisi a rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

b

caiff gyhoeddi datganiad polisi newydd.

3

Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol

I6I2372Datganiad polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol

1

Rhaid i GCC lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol ganddo.

2

Caiff GCC

a

diwygio ei ddatganiad polisi a chyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

b

cyhoeddi datganiad polisi newydd.

3

Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf hon

I773Rheolau: cyffredinol

I15I241

Rhaid i unrhyw bŵer a roddir i GCC gan neu o dan y Ddeddf hon i wneud rheolau gael ei arfer yn ysgrifenedig drwy offeryn.

I15I242

Rhaid i offeryn sy’n cynnwys rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani.

I173

I’r graddau nad yw offeryn sy’n cynnwys rheolau yn cydymffurfio ag is-adran (2) mae’n ddi-rym.

I174

Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan GCC i wneud rheolau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon gael ei arfer—

a

er mwyn gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

b

er mwyn gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol a throsiannol.

I175

Rhaid i GCC

a

cyhoeddi rheolau a wneir ganddo, a

b

sicrhau bod y rheolau ar gael yn gyhoeddus hyd nes y byddant yn peidio â chael effaith.

I176

Caiff GCC godi ffi am ddarparu i berson gopi o’r rheolau a wneir ganddo.

I8I2574Rheolau: ffioedd

1

Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—

a

GCC;

b

y cofrestrydd (gweler adran 81).

2

Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag⁠—

a

darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;

b

cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);

c

cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);

d

darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);

e

darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.

F13

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.

I9I16I2675Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.

1

Rhaid i GCC gydymffurfio â gofynion is-adran (2)—

a

cyn gwneud unrhyw reolau o dan y Ddeddf hon;

b

cyn cyhoeddi cod ymarfer o dan adran 112 (codau sy’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr);

c

cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 162 (canllawiau i baneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim mewn cysylltiad ag achosion o dan Ran 6),

oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

2

Cyn gwneud y rheolau neu gyhoeddi’r cod neu ganllawiau rhaid i GCC

a

cyhoeddi drafft o’r rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig yn ogystal ag—

i

esboniad o ddiben y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig a chrynodeb o effaith fwriadedig y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig;

ii

hysbysiad sy’n pennu’r cyfnod ar gyfer caniatáu i sylwadau gael eu cyflwyno i GCC ynghylch y cynnig, a

b

cymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r cynnig a’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i—

i

gweithwyr gofal cymdeithasol y mae GCC yn meddwl y gall y cynnig effeithio arnynt,

ii

Gweinidogion Cymru, a

iii

unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn GCC.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw GCC

a

wedi ei fodloni bod natur y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig o’r fath fel y byddai ymgynghori yn amhriodol neu’n anghymesur, a

b

wedi cael cytundeb Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen heb ymgynghori.

4

Nid yw adran 184 (cyflwyno dogfennau etc.) yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan GCC o dan is-adran (2).

Canllawiau a chyfarwyddydau

I10I2776Canllawiau

1

Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i GCC roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddant i GCC.

I11I2877Cyfarwyddydau

1

Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i GCC gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

2

O ran cyfarwyddyd—

a

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

b

caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru

I12I2978Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru

1

Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn arferadwy gan Weinidogion Cymru os ydynt wedi eu bodloni bod GCC

a

wedi methu heb esgus rhesymol â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu

b

wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 77 mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

2

Caiff Gweinidogion Cymru—

a

cyhoeddi datganiad sy’n datgan bod GCC wedi methu, a

b

cyfarwyddo GCC i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, mewn unrhyw fodd ac o fewn unrhyw gyfnod neu gyfnodau, a bennir yn y cyfarwyddyd.

3

Os yw GCC yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru—

a

cyflawni’r swyddogaethau y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy eu hunain, neu

b

gwneud trefniadau i unrhyw berson arall gyflawni’r swyddogaethau hynny ar eu rhan.

4

O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b)—

a

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

b

caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.