xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i unrhyw bŵer a roddir i GCC gan neu o dan y Ddeddf hon i wneud rheolau gael ei arfer yn ysgrifenedig drwy offeryn.
(2)Rhaid i offeryn sy’n cynnwys rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani.
(3)I’r graddau nad yw offeryn sy’n cynnwys rheolau yn cydymffurfio ag is-adran (2) mae’n ddi-rym.
(4)Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan GCC i wneud rheolau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon gael ei arfer—
(a)er mwyn gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(b)er mwyn gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol a throsiannol.
(5)Rhaid i GCC—
(a)cyhoeddi rheolau a wneir ganddo, a
(b)sicrhau bod y rheolau ar gael yn gyhoeddus hyd nes y byddant yn peidio â chael effaith.
(6)Caiff GCC godi ffi am ddarparu i berson gopi o’r rheolau a wneir ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 73(1)(2) mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2
I3A. 73(1)(2) mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
I4A. 73(3)-(6) mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—
(a)GCC;
(b)y cofrestrydd (gweler adran 81).
(2)Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag—
(a)darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;
(b)cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);
(c)cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);
(d)darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);
(e)darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.
F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 74(3) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/761), rhlau. 1(2), 4 (ynghyd â rhlau. 15A-19) (as diwygio gan O.S. 2020/1626, rhlau. 1(2), 6-13); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6A. 74 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)