xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

2016 dccc 2

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cofrestru a rheoleiddio personau sy’n darparu gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau cymorth cartref; sy’n diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn cysylltiad â rheoleiddio swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol; ar gyfer ailenwi Cyngor Gofal Cymru yn Ofal Cymdeithasol Cymru; i Ofal Cymdeithasol Cymru ddarparu cyngor a chynhorthwy arall i bersonau sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â gofal a chymorth; ar gyfer cofrestru, rheoleiddio a hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol; ac at ddibenion cysylltiedig.

[18 Ionawr 2016]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg o Ran 1

Yn y Rhan hon—

(a)mae’r Bennod hon yn diffinio rhai termau allweddol gan gynnwys yr hyn a olygir wrth “gwasanaeth rheoleiddiedig” yn y Ddeddf hon ac yn nodi amcanion cyffredinol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rheoleiddio gwasanaethau o’r fath;

(b)mae Pennod 2 yn nodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chofrestru personau sy’n darparu gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys darpariaeth ynghylch amrywio a chanslo cofrestriadau a darpariaeth ynghylch hysbysiadau ac apelau;

(c)mae Pennod 3 yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu a’u pwerau i gynnal arolygiadau;

(d)mae Pennod 4 yn rhoi rhai swyddogaethau cyffredinol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig;

(e)mae Pennod 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a chosbau;

(f)mae Pennod 6 yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (gweler Atodlen 2 i Ddeddf 2014 am hyn) gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—

(i)adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol;

(ii)pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau o’r ffordd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer;

(iii)pwerau sy’n caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd a ddefnyddir mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny;

(iv)pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaethau hynny gael ei darparu;

(v)troseddau mewn cysylltiad ag arolygiadau neu ofynion i ddarparu gwybodaeth;

(vi)pwerau i Weinidogion Cymru i reoleiddio’r arferiad o’r swyddogaethau awdurdod lleol hynny sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;

(g)mae Pennod 7 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru fonitro cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaethau penodol a llunio a chyhoeddi adroddiadau ynghylch sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

2Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” yw—

(a)gwasanaeth cartref gofal,

(b)gwasanaeth llety diogel,

(c)gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

(d)gwasanaeth mabwysiadu,

(e)gwasanaeth maethu,

(f)gwasanaeth lleoli oedolion,

(g)gwasanaeth eirioli,

(h)gwasanaeth cymorth cartref, ac

(i)unrhyw wasanaeth arall sy’n cynnwys y ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr termau a ddefnyddir yn is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1, i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

3Termau allweddol eraill

(1)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr “gofal” yw gofal sy’n ymwneud ag—

(i)tasgau ac anghenion corfforol beunyddiol y person y gofelir amdano (er enghraifft, bwyta ac ymolchi), a

(ii)y prosesau meddyliol sy’n ymwneud â’r tasgau a’r anghenion hynny (er enghraifft, y broses feddyliol o gofio bwyta ac ymolchi);

(b)ystyr “swyddogaethau rheoleiddiol” yw swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan—

(i)y Rhan hon,

(ii)adrannau 94A a 149A i 161B o Ddeddf 2014, a

(iii)adran 15 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) (arolygu mangreoedd sy’n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu),

ond nid yw unrhyw swyddogaeth o wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth (fel y’i diffinnir gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)) yn swyddogaeth reoleiddiol;

(c)ystyr “darparwr gwasanaeth” yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig;

(d)ystyr “cymorth” yw cwnsela, cyngor neu help arall, a ddarperir fel rhan o gynllun a luniwyd ar gyfer y person sy’n cael cymorth gan—

(i)ddarparwr gwasanaeth neu berson arall sy’n darparu gofal a chymorth i’r person, neu

(ii)awdurdod lleol (hyd yn oed os nad yw’r awdurdod yn darparu gofal a chymorth i’r person).

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “gofal a chymorth” i’w darllen fel cyfeiriadau at—

(a)gofal,

(b)cymorth, neu

(c)gofal a chymorth.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf is-adran (1)(a) a (d), i’w trin fel gofal a chymorth at ddibenion y Ddeddf hon.

4Amcanion cyffredinol

Amcanion cyffredinol Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon yw—

(a)diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig, a

(b)hybu a chynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig.

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Gofyniad i gofrestru

5Gofyniad i gofrestru

Mae’n drosedd i berson ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru yn unol â’r Bennod hon mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad

6Cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth

(1)Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais ar gyfer cofrestru i Weinidogion Cymru—

(a)sy’n pennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu,

(b)sy’n pennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy,

(c)sy’n dynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob un o’r mannau hynny ac sy’n datgan enw a chyfeiriad pob unigolyn o’r fath (mae adran 21 yn nodi pwy y caniateir iddo gael ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol), a

(d)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(2)Rhaid i gais fod ar y ffurf ragnodedig.

(3)Caiff person sy’n dymuno cael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig wneud un cais mewn cysylltiad â hwy.

7Caniatáu neu wrthod cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan adran 6 os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y cais—

(i)yn cynnwys popeth sy’n ofynnol gan neu o dan is-adran (1) o’r adran honno,

(ii)yn achos cais sy’n ymwneud â gwasanaeth cymorth cartref, yn cynnwys yr ymgymeriad yn adran 8, a

(iii)yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan adran 6(2);

(b)bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);

(c)o ran pob unigolyn sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol—

(i)ei fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol yn unol ag adran 21(2),

(ii)ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), a

(iii)y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheoliadau o dan adran 28 (i’r graddau y bônt yn gymwys);

(d)y bydd cydymffurfedd â gofynion—

(i)unrhyw reoliadau o dan adran 27 (gan gynnwys unrhyw ofynion o ran safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid eu darparu), a

(ii)unrhyw ddeddfiad arall yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod yn berthnasol,

(i’r graddau y bônt yn gymwys) mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig.

(2)Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais.

(3)O ran caniatáu cais—

(a)rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu—

(i)y mannau y mae’r darparwr gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy, a

(ii)yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer pob un o’r mannau hynny, a

(b)caiff fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau pellach sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Pan fo person wedi gwneud un cais mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais ar wahân mewn cysylltiad â phob gwasanaeth.

(5)Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae caniatâd i gais yn cymryd effaith.

8Hyd ymweliadau cymorth cartref

(1)Yr ymgymeriad a grybwyllir yn adran 7(1)(a)(ii) ac 11(3)(a)(ii) yw na fydd gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad sy’n fyrrach na 30 munud oni bai bod naill ai amod A, B neu C wedi ei fodloni.

(2)Mae Amod A yn gymwys pan—

(a)fo’n ofynnol i awdurdod lleol—

(i)yn rhinwedd adran 35 neu 37 o Ddeddf 2014, ddiwallu anghenion y person yr ymwelir ag ef, neu

(ii)yn rhinwedd adran 40 neu 42 o’r Ddeddf honno, ddiwallu anghenion gofalwr y person hwnnw, a

(b)fo’r awdurdod yn diwallu’r anghenion hynny drwy ddarparu gwasanaeth cymorth cartref neu drwy drefnu bod gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu i’r person yr ymwelir ag ef.

(3)Amod A yw—

(a)bod yr unigolyn sy’n cynnal yr ymweliad wedi cynnal ymweliad blaenorol yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn cynnal—

(i)cynllun gofal a chymorth o dan adran 54(1) o Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â’r person yr ymwelir ag ef, neu

(ii)cynllun cymorth o dan yr adran honno mewn cysylltiad â gofalwr y person, a

(b)naill ai—

(i)y cynhelir yr ymweliad at yr unig ddiben o gadarnhau a yw’r person yn ddiogel ac yn iach, neu

(ii)y gall y tasgau sydd i gael eu cwblhau yn ystod yr ymweliad gael eu cwblhau’n rhesymol, a’u bod yn cael eu cwblhau, i safon sy’n bodloni unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 sy’n berthnasol i’r ymweliad.

(4)Mae Amod B yn gymwys pan fo gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu o dan amgylchiadau pan na fo Amod A yn gymwys.

(5)Amod B yw—

(a)bod ymweliad sy’n llai na 30 munud yn gyson â thelerau unrhyw drefniant i ddarparu’r gwasanaeth a wneir rhwng y darparwr gwasanaeth a’r person yr ymwelir ag ef (neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y person yr ymwelir ag ef),

(b)y cynhelir yr ymweliad at yr unig ddiben o gadarnhau a yw’r person yn ddiogel ac yn iach, neu

(c)y gall y tasgau sydd i gael eu cwblhau yn ystod yr ymweliad gael eu cwblhau’n rhesymol, a’u bod yn cael eu cwblhau, i safon sy’n bodloni unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 sy’n berthnasol i’r ymweliad.

(6)Mae Amod C yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad â pherson.

(7)Amod C yw bod yr ymweliad yn cael ei gwtogi ar gais y person yr ymwelir ag ef.

9Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru o ran a yw⁠—

(a)darparwr gwasanaeth,

(b)person sy’n gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth,

(c)unigolyn cyfrifol, neu

(d)person sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol,

yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, unigolyn cyfrifol.

(2)Wrth wneud penderfyniad o’r fath rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r holl faterion sy’n briodol yn eu barn hwy.

(3)Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw dystiolaeth sy’n dod o fewn is-adrannau (4) i (8).

(4)Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi—

(a)cyflawni—

(i)unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd sydd wedi ei rhestru yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42) (troseddau sydd â gofynion hysbysu),

(ii)trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani,

(iii)trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani, neu

(iv)unrhyw drosedd arall sy’n berthnasol ym marn Gweinidogion Cymru, neu

(b)aflonyddu ar rywun, neu wahaniaethu’n anghyfreithlon, ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15), neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny.

(5)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n dangos bod unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r person neu a oedd yn gysylltiedig â’r person gynt (pa un ai ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (4), a

(b)os ymddengys i Weinidogion Cymru fod y dystiolaeth yn berthnasol wrth ystyried a yw’r person yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, yn unigolyn cyfrifol.

(6)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu—

(a)gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth a ddarperir y tu allan i Gymru a fyddai’n wasanaeth rheoleiddiedig pe bai’n cael ei ddarparu yng Nghymru;

(b)gwasanaeth a fyddai wedi dod o fewn paragraff (a) pe bai’r system reoleiddiol sydd wedi ei sefydlu gan y Rhan hon wedi bod yn weithredol ar yr adeg pan oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

(7)Wrth roi sylw i dystiolaeth o fewn is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru, ymhlith pethau eraill, ystyried—

(a)pa mor ddifrifol yw’r camymddwyn neu’r camreoli ac am ba hyd y bu’n digwydd;

(b)niwed a achoswyd i unrhyw berson, neu unrhyw dystiolaeth o fwriad i achosi niwed;

(c)unrhyw fantais ariannol a enillwyd gan y person;

(d)unrhyw gamau a gymerwyd gan y person i unioni’r camymddwyn neu’r camreoli.

(8)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi methu’n flaenorol â chydymffurfio—

(a)ag ymgymeriad a roddir o dan adran 7(1)(a)(ii) neu 11(3)(a)(ii),

(b)ag amod a osodir o dan y Rhan hon, neu

(c)â gofyniad a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) neu 28(1).

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio’r dystiolaeth y mae rhaid iddynt roi sylw iddi.

10Datganiad blynyddol

(1)Rhaid i ddarparwr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi.

(2)Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys—

(a)yr wybodaeth a ganlyn—

(i)y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;

(ii)y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;

(iii)enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;

(iv)y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig a phob man o’r fath;

(v)manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;

(vi)manylion am nifer y personau y darparodd y darparwr ofal a chymorth iddynt yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu pob gwasanaeth o’r fath;

(vii)unrhyw wybodaeth a ragnodir am hyfforddiant a gynigir neu a gyflawnir mewn perthynas â phob gwasanaeth o’r fath;

(viii)unrhyw wybodaeth am gynllunio’r gweithlu a ragnodir;

(ix)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir, a

(b)datganiad sy’n nodi sut y mae’r darparwr gwasanaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 27(1) sy’n pennu safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei darparu (gweler adran 27(2)).

(3)Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar y ffurf ragnodedig.

(4)Rhaid cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser rhagnodedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob datganiad blynyddol a gyflwynir o dan is-adran (1).

(6)Er gwaethaf adran 187(3), ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(vii),

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viii), neu

(c)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(ix),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

11Cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

(1)Rhaid i ddarparwr gwasanaeth wneud cais i Weinidogion Cymru ar gyfer amrywio cofrestriad y darparwr—

(a)os yw’r darparwr yn dymuno—

(i)darparu gwasanaeth rheoleiddiedig nad yw’r darparwr eisoes wedi ei gofrestru i’w ddarparu,

(ii)darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw,

(iii)peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(iv)peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man;

(b)os yw’r darparwr yn dymuno i amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu 13(1) gael ei amrywio neu ei ddileu;

(c)os yw’r darparwr yn dymuno dynodi unigolyn cyfrifol gwahanol mewn cysylltiad â man neu y mae’n ofynnol iddo ddynodi unigolyn cyfrifol oherwydd nad oes unigolyn o’r fath wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi terfyn amser y mae rhaid cyflwyno cais i amrywio cofrestriad darparwr ynddo o dan amgylchiadau pan na fo unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(3)Rhaid i gais o dan is-adran (1)—

(a)cynnwys—

(i)manylion yr amrywiad y mae’r darparwr yn gofyn amdano,

(ii)yn achos cais o dan is-adran (1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, yr ymgymeriad yn adran 8, a

(iii)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir;

(b)bod ar y ffurf ragnodedig.

12Caniatáu neu wrthod cais am amrywiad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod cais o dan adran 11 (ond gweler is-adran (2)).

(2)Yn achos cais o dan adran 11(1)(b), caiff Gweinidogion Cymru (yn lle caniatáu neu wrthod y cais)—

(a)amrywio amod ar delerau gwahanol i’r rhai a bennir yn y cais, neu

(b)gosod amod arall ar gofrestriad y darparwr (pa un ai yn lle’r amod y gwnaeth y darparwr gais i’w amrywio neu ei ddileu neu’n ychwanegol at yr amod hwnnw).

(3)Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae amrywiad o dan yr adran hon yn cymryd effaith.

13Amrywio heb gais

(1)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)amrywio unrhyw amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu baragraff (b) o’r is-adran hon, neu

(b)gosod amod pellach ar gofrestriad darparwr gwasanaeth.

(2)Ni chaniateir amrywio cofrestriad darparwr o dan is-adran (1) oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 25).

(3)Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu mwy nag un gwasanaeth rheoleiddiedig, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig—

(a)os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu’r gwasanaeth hwnnw, neu

(b)os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.

(4)Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn mwy nag un man, o fwy nag un man neu mewn perthynas â mwy nag un man, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu man os ydynt wedi eu bodloni—

(a)nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,

(b)nad yw’r gwasanaeth a ddarperir yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw, neu

(c)nad oes unrhyw unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw (a bod y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben).

(5)Ni chaniateir i amrywiad gael ei wneud o dan is-adran (3) neu (4) oni bai bod gofynion adrannau 16 ac 17 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 23).

14Cais i ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

(1)Os yw darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru i ganslo ei gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu’r cais oni bai eu bod wedi cymryd camau gyda golwg ar ganslo’r cofrestriad o dan adran 15 neu 23.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch caniatáu cais i ganslo o dan yr adran hon i’r darparwr gwasanaeth.

(3)Mae canslo o dan yr adran hon yn cymryd effaith—

(a)ar y diwrnod sydd 3 mis ar ôl y diwrnod y mae’r darparwr gwasanaeth yn cael yr hysbysiad, neu

(b)ar unrhyw ddiwrnod cynharach a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad.

15Canslo heb gais

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nid yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig;

(b)nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bellach fod y darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);

(c)nid oes unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â phob man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef (ac mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais i amrywio’r cofrestriad a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11(2) wedi dod i ben);

(d)mae’r darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;

(e)mae unrhyw berson arall wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;

(f)nid yw gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.

(2)At ddibenion is-adran (1)(d) ac (e), mae’r canlynol yn droseddau perthnasol—

(a)trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani;

(b)trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani;

(c)unrhyw drosedd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn briodol i’r cofrestriad gael ei ganslo (gan gynnwys tramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr).

(3)Ni chaniateir i gofrestriad gael ei ganslo o dan yr adran hon oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23).

Gofynion hysbysiadau

16Hysbysiadau gwella

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—

(a)canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth o dan adran 15, neu

(b)amrywio cofrestriad darparwr o dan adran 13(3) neu (4).

(2)Cyn canslo neu amrywio’r cofrestriad rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad gwella i’r darparwr gwasanaeth.

(3)Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (2) bennu—

(a)ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo neu amrywio’r cofrestriad ac, yn achos amrywiad, y modd y gwneir yr amrywiad,

(b)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y mae rhaid i’r darparwr eu cymryd, neu’r wybodaeth y mae rhaid i’r darparwr ei darparu, er mwyn eu bodloni nad yw canslo neu amrywio ar y sail honno yn briodol, ac

(c)terfyn amser—

(i)ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth, a

(ii)i’r darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau.

(4)Caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru cyn i’r terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad gwella ddod i ben a rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r sylwadau hynny wrth benderfynu beth i’w wneud o dan adran 17.

17Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad gwella

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd, neu

(b)bod yr wybodaeth a bennir felly wedi ei darparu,

o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt hysbysu’r darparwr gwasanaeth eu bod wedi penderfynu peidio â chanslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

(2)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr wybodaeth a bennir mewn hysbysiad gwella wedi ei darparu o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

(3)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt naill ai—

(a)rhoi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella, neu

(b)hysbysu’r darparwr—

(i)nad yw’r camau wedi eu cymryd,

(ii)am ddyddiad newydd erbyn pryd y mae rhaid cymryd y camau,

(iii)y bydd arolygiad o dan adran 33 o’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y mae’r hysbysiad gwella yn ymwneud ag ef yn cael ei gynnal ar ôl y dyddiad hwnnw, a

(iv)y byddant, ar ôl yr arolygiad hwnnw, os nad yw’r camau wedi eu cymryd, yn bwrw ymlaen i ganslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl yr arolygiad, fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd, rhaid iddynt hysbysu’r darparwr gwasanaeth eu bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i ganslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

(5)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni o hyd, ar ôl yr arolygiad, fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd, rhaid iddynt roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.

(6)Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (2), (3)(a) neu (5)—

(a)datgan y rhesymau dros y penderfyniad (gan gynnwys y seiliau dros ganslo neu amrywio), a

(b)esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

(7)Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (2), (3)(a) neu (5) yn cymryd effaith—

(a)os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, ar y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn adran 26(2), neu

(b)os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y tribiwnlys wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.

18Hysbysiad o gynnig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu—

(a)caniatáu cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn ddarostyngedig i amod na chytunwyd arno’n ysgrifenedig â’r ymgeisydd,

(b)gwrthod cais i gofrestru neu i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth, neu

(c)amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth ac eithrio—

(i) yn unol â chais am amrywiad a wneir o dan adran 11, neu

(ii)o dan adran 13(3) neu (4), 23(1)(b) neu 25(2)(a).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r cynnig i’r darparwr gwasanaeth—

(a)sy’n pennu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd,

(b)sy’n rhoi rhesymau dros y cynnig, ac

(c)sy’n pennu terfyn amser o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y caiff y darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynddo.

(3)Caiff hysbysiad o gynnig bennu’r camau a fyddai’n arwain, pe baent yn cael eu cymryd gan ddarparwr o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, at Weinidogion Cymru yn peidio â chymryd y camau y maent yn eu cynnig yn yr hysbysiad.

(4)Yn achos gwrthod cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mae cyfeiriadau yn yr adran hon ac adran 19 at “darparwr gwasanaeth” i’w trin fel cyfeiriadau at y person a wnaeth gais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth.

19Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad o gynnig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o gynnig.

(2)Wrth wneud penderfyniad am y cynnig, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt (pa un ai gan y darparwr gwasanaeth neu gan unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ganddo fuddiant).

(3)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwr gwasanaeth wedi cymryd unrhyw gamau a bennir o dan adran 18(3) o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad o gynnig, rhaid iddynt beidio â chymryd y camau a gynigir yn yr hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl i’r diweddaraf o’r canlynol ddod i ben—

(a)y terfyn amser a bennir o dan is-adran (2)(c) o adran 18, neu

(b)unrhyw derfyn amser a bennir o dan is-adran (3) o’r adran honno.

(5)Er gwaethaf is-adran (4), mae hysbysiad o benderfyniad a roddir ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno yn ddilys os yw’r hysbysiad—

(a)yn rhoi’r rhesymau dros yr oedi cyn gwneud y penderfyniad, a

(b)yn cael ei roi heb fod yn hwyrach na 56 o ddiwrnodau ar ôl i’r diweddaraf o’r terfynau amser a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (4) ddod i ben.

(6)Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (4)—

(a)datgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o gynnig,

(b)rhoi rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o gynnig, esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

(7)Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (4) i gymryd camau a bennir mewn hysbysiad o gynnig yn cymryd effaith—

(a)os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, ar y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn adran 26(2), neu

(b)os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y tribiwnlys wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio—

(a)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (4);

(b)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (5)(b).

20Hysbysiad o benderfyniad heb hysbysiad o gynnig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu—

(a)caniatáu cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig â’r ymgeisydd, neu

(b)amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth yn unol â chais am amrywiad a wneir o dan adran 11.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth.

(3)Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) yn cymryd effaith ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Unigolion cyfrifol

21Unigolion cyfrifol

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “unigolyn cyfrifol” yw unigolyn—

(a)sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol o dan is-adran (2),

(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), ac

(c)sydd wedi ei ddynodi gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac a bennir felly yng nghofrestriad y darparwr gwasanaeth.

(2)I fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol rhaid i’r unigolyn—

(a)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, fod y darparwr gwasanaeth;

(b)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, fod yn un o’r partneriaid;

(c)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol—

(i)bod yn gyfarwyddwr neu’n swyddog tebyg yn y corff,

(ii)yn achos cwmni cyfyngedig cyhoeddus, fod yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd yn y cwmni, neu

(iii)yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, fod yn aelod o’r corff;

(d)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig, fod yn aelod o’r corff;

(e)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn awdurdod lleol, fod yn swyddog yn yr awdurdod lleol a ddynodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.

(3)At ddibenion is-adran (2)(e), dim ond os yw cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn meddwl bod gan swyddog y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i fod yn unigolyn cyfrifol y caiff ddynodi’r swyddog hwnnw.

(4)Caniateir i’r un unigolyn cyfrifol gael ei ddynodi mewn cysylltiad â mwy nag un man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, a

(b)gwneud darpariaeth i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i unigolyn cyfrifol o’r fath.

22Canslo dynodiad unigolyn cyfrifol

(1)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn y caiff Gweinidogion Cymru ganslo dynodiad unigolyn cyfrifol—

(a)bod rheswm ganddynt dros gredu nad yw’r unigolyn bellach yn bodloni gofynion adran 21(2);

(b)bod rheswm ganddynt dros gredu bod yr unigolyn wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;

(c)nad ydynt bellach wedi eu bodloni bod yr unigolyn yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9);

(d)bod rheswm ganddynt dros gredu nad yw’r unigolyn wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir ar yr unigolyn gan reoliadau o dan adran 28(1).

(2)Yn is-adran (1)(b), mae i “trosedd berthnasol” yr un ystyr ag yn adran 15.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo dynodiad unigolyn cyfrifol rhaid iddynt roi hysbysiad gwella i’r unigolyn.

(4)Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (3) bennu—

(a)y rheswm pam y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol,

(b)naill ai—

(i)y camau y maent yn meddwl y mae rhaid i’r unigolyn eu cymryd, neu

(ii)yr wybodaeth y maent yn meddwl y mae rhaid i’r unigolyn ei darparu,

er mwyn eu bodloni na ddylid canslo dynodiad yr unigolyn, ac

(c)terfyn amser ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth.

(5)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd, neu

(b)bod yr wybodaeth a bennir felly wedi ei darparu,

o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad cânt roi hysbysiad canslo.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad canslo dynodiad unigolyn cyfrifol heb gymryd y camau a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (5) os oes ganddynt sail resymol dros gredu y bydd person, neu y gall person fod, yn agored i berygl o niwed oni bai bod y dynodiad yn cael ei ganslo.

(7)Rhaid rhoi hysbysiad canslo—

(a)i’r unigolyn cyfrifol, a

(b)i’r darparwr gwasanaeth a ddynododd yr unigolyn.

(8)Mae unigolyn yn peidio â bod wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol pan roddir yr hysbysiad canslo i’r darparwr gwasanaeth.

(9)Rhaid i hysbysiad canslo—

(a)rhoi rhesymau dros y penderfyniad,

(b)esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26,

(c)esbonio’r gofyniad ar y darparwr gwasanaeth i wneud cais am amrywiad i’r cofrestriad (gweler adran 11(1)(c)), a

(d)datgan y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) (terfyn amser rhagnodedig ar gyfer gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol newydd).

(10)Yn is-adran (6), ystyr “niwed” yw cam-drin neu amharu ar—

(a)iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu

(b)datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol,

ac mewn achos pan fo’r niwed yn ymwneud ag amhariad ar iechyd neu ddatblygiad plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i’w gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol oddi wrth blentyn tebyg.

Gweithredu ar frys

23Canslo neu amrywio gwasanaethau neu fannau ar frys

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i ynad heddwch am orchymyn sy’n eu hawdurdodi—

(a)i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth, neu

(b)i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad—

(i)gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(ii)man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cais am orchymyn o dan is-adran (1) ond ar y sail, oni bai bod y cofrestriad yn cael ei ganslo neu ei amrywio—

(a) bod perygl difrifol i—

(i)bywyd person, neu

(ii)iechyd corfforol neu iechyd meddwl person, neu

(b)bod perygl difrifol bod person yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

(3)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud cais o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu—

(a)pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn ei ardal, a

(b)unrhyw berson arall y mae’n briodol ei hysbysu ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Dim ond os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni o ran y sail y gwnaeth Gweinidogion Cymru y cais arni y caiff yr ynad wneud y gorchymyn.

(5)Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon gael ei wneud yn absenoldeb y darparwr gwasanaeth y mae’n ymwneud ag ef os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd pob cam rhesymol i hysbysu’r darparwr gwasanaeth am eu bwriad i wneud cais am orchymyn o dan yr adran hon, neu

(b)nad yw’n briodol cymryd unrhyw gamau o’r fath.

(6)Mae gorchymyn a wneir o dan yr adran hon yn cael effaith—

(a)cyn gynted ag y caiff y gorchymyn ei wneud, neu

(b)ar unrhyw adeg arall sy’n briodol ym marn yr ynad heddwch.

(7)Yn benodol, caiff yr ynad heddwch bennu bod y gorchymyn i beidio â chymryd effaith hyd nes yr adeg ar ôl rhoi’r hysbysiad o dan adran 24(1) sy’n briodol ym marn yr ynad heddwch.

24Canslo neu amrywio ar frys: hysbysiadau ac apelau

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i orchymyn gael ei wneud o dan adran 23 rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef sy’n esbonio—

(a)telerau’r gorchymyn, a

(b)yr hawl i apelio a roddir gan is-adran (2).

(2)Heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (1), caiff y darparwr gwasanaeth apelio i’r tribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.

(3)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 14 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi wrth wneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(4)Ar apêl o dan is-adran (2), caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r gorchymyn;

(b)dirymu’r gorchymyn;

(c)gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

(5)Caiff gorchymyn interim gan y tribiwnlys, ymhlith pethau eraill, atal dros dro effaith gorchymyn a wneir o dan adran 23 am gyfnod a bennir gan y tribiwnlys.

25Amrywio cofrestriad ar frys: amodau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn meddwl oni bai eu bod yn gweithredu o dan yr adran hon—

(a)bod perygl, neu y gall fod perygl, i—

(i)bywyd person, neu

(ii)iechyd corfforol neu iechyd meddwl person, neu

(b)bod perygl, neu y gall fod perygl, bod person yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o benderfyniad i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sy’n amrywio amod a osodwyd o dan adran 7(3)(b), 12(2), 13(1) neu a osodwyd o’r blaen o dan yr adran hon, neu

(b)sy’n gosod amod y gellid bod wedi ei osod o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau hynny.

(3)Mae hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (2) yn cymryd effaith ar y dyddiad y’i rhoddir.

(4)Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan is-adran (2)—

(a)datgan ei fod wedi ei roi o dan yr adran hon,

(b)pennu’r amod sydd i’w amrywio neu ei osod,

(c)rhoi rhesymau dros osod neu amrywio’r amod,

(d)esbonio’r hawl i gyflwyno sylwadau a roddir gan is-adran (5), ac

(e)esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddileu amod a amrywir neu a osodir o dan is-adran (2) drwy roi hysbysiad pellach o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth, ond cyn gwneud hynny rhaid iddynt roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddynt gan y darparwr gwasanaeth ynghylch y hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (2).

(6)Mae hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (5) yn cymryd effaith ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(7)Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (5)—

(a)datgan ei fod wedi ei roi o dan yr adran hon,

(b)pennu’r amod sydd i’w amrywio neu ei ddileu,

(c)rhoi rhesymau dros y penderfyniad, a

(d)esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.

Apelau

26Apelau

(1)Mae apêl yn erbyn penderfyniad sydd wedi ei gynnwys mewn hysbysiad a roddir o dan adran 17(2), (3)(a) neu (5), 19(4), 22(5) neu (6) neu 25(2) neu (5) i’w gwneud i’r tribiwnlys.

(2)Rhaid i apêl o dan is-adran (1) gael ei gwneud heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o benderfyniad.

(3)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 28 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi wrth wneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(4)Ar apêl o dan is-adran (1), caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad;

(b)cyfarwyddo nad yw’r penderfyniad i gymryd effaith (neu, os yw’r penderfyniad wedi cymryd effaith, cyfarwyddo bod y penderfyniad i beidio â chael effaith);

(c)rhoi penderfyniad arall y gallai Gweinidogion Cymru fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn;

(d)gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

(5)Caiff gorchymyn interim, ymhlith pethau eraill, atal dros dro effaith penderfyniad am gyfnod a bennir gan y tribiwnlys.

Rheoliadau a chanllawiau

27Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig.

(2)Rhaid i ofynion a osodir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion o’r math a grybwyllir yn is-adran (2), roi sylw—

(a)i bwysigrwydd llesiant unrhyw unigolion y bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu iddynt, a

(b)i’r safonau ansawdd sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw god a ddyroddir o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau a bennir mewn datganiadau llesiant).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, a

(b)cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4)(b) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori a chyhoeddi datganiad yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

28Rheoliadau ynghylch unigolion cyfrifol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar unigolyn cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn cyfrifol benodi unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig i reoli’r man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

(3)Caniateir i reoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth i swyddogaeth a roddir i unigolyn cyfrifol gan y rheoliadau gael ei dirprwyo i berson arall o dan amgylchiadau rhagnodedig yn unig ond ni chaiff darpariaeth o’r fath effeithio ar atebolrwydd neu gyfrifoldeb yr unigolyn cyfrifol am arfer y swyddogaeth.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

29Canllawiau ynghylch rheoliadau o dan adrannau 27 a 28

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)sut y caiff darparwyr gwasanaethau gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 27(1) (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig a bennir drwy reoliadau o’r fath);

(b)sut y caiff unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 28(1).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) a rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

(3)Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan yr adran hon.

30Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu diddymu etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson a benodir eu hysbysu am y penodiad hwnnw;

(b)i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i ddarparwyr gwasanaethau y mae person o’r fath wedi ei benodi mewn perthynas â hwy.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “person a benodir” yw person a benodir—

(a)yn dderbynnydd neu’n dderbynnydd gweinyddol o eiddo darparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;

(b)yn ddiddymwr, yn ddiddymwr dros dro neu’n weinyddwr i ddarparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;

(c)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn neu’n bartneriaeth.

31Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi marw

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw;

(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr personol unigolyn o’r fath hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol ddarparu i berson rhagnodedig nad yw’n ddarparwr gwasanaeth weithredu yn y rhinwedd honno am gyfnod rhagnodedig ac i’r cyfnod hwnnw gael ei estyn o dan amgylchiadau rhagnodedig.

PENNOD 3GWYBODAETH AC AROLYGIADAU

32Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt sy’n ymwneud â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus ei chael at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Bennod 2 a’r Bennod hon o’r Rhan hon neu o dan adrannau 38 i 40.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)At ddibenion is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—

(a)darparwr gwasanaeth,

(b)unigolyn cyfrifol,

(c)person a gyflogir gan ddarparwr gwasanaeth neu sydd fel arall yn gweithio i ddarparwr gwasanaeth, a

(d)unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.

(4)Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) yn cynnwys—

(a)pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a

(b)pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.

33Arolygiadau ac arolygwyr

(1)Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “arolygiad” yn gyfeiriad at arolygiad—

(a)o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu;

(b)o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.

(2)Dim ond unigolyn sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “arolygydd”) a gaiff gynnal arolygiad.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.

(6)Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod wrth gynnal arolygiad.

34Pwerau arolygydd i fynd i mewn ac arolygu mangreoedd

(1)At ddibenion cynnal arolygiad, caiff arolygydd fynd i mewn ac arolygu unrhyw fangre y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu ei bod yn cael ei defnyddio (neu wedi ei defnyddio)—

(a)fel man y darperir (neu y darparwyd) gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono, neu

(b)mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig.

(2)Ond ni chaiff arolygydd fynd i mewn ac arolygu mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod y meddiannydd yn cydsynio.

(3)Pan fo arolygydd yn mynd i mewn i fangre at ddibenion cynnal arolygiad, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson yn y fangre, gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan adran 33.

(4)Caiff yr arolygydd—

(a)edrych ar gyflwr y fangre a sut y caiff ei rheoli ac asesu llesiant unrhyw bersonau sy’n cael eu lletya yno neu sy’n cael gofal a chymorth yno;

(b)ei gwneud yn ofynnol—

(i)i’r rheolwr neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd y gwasanaeth yn y fangre neu ohoni, neu

(ii)pan na fo’r gwasanaeth bellach yn cael ei ddarparu, i berson yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo gyfrifoldeb am reoli’r fangre o ddydd i ddydd,

gyflwyno unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn meddwl y gallant fod yn berthnasol i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth rheoleiddiedig;

(c)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn meddwl y gallant fod yn berthnasol i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth rheoleiddiedig a mynd â chopïau ohonynt;

(d)ymafael yn unrhyw ddogfen neu unrhyw beth arall y deuir o hyd iddo yn y fangre ac y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad arall a osodir yn rhinwedd y Rhan hon, a symud y ddogfen neu’r peth arall o dan sylw oddi yno;

(e)ei gwneud yn ofynnol—

(i)i’r rheolwr neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd y gwasanaeth yn y fangre neu ohoni, neu

(ii)pan na fo’r gwasanaeth bellach yn cael ei ddarparu, i berson yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo gyfrifoldeb am reoli’r fangre o ddydd i ddydd,

roi i’r arolygydd unrhyw gyfleusterau a chymorth y mae eu hangen er mwyn ei alluogi i gynnal yr arolygiad;

(f)cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r arolygydd yn meddwl eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal yr arolygiad.

(5)Mae’r pwerau yn is-adran (4)(b) i (d) yn cynnwys y pŵer—

(a)i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu eu bod yn cael eu defnyddio (neu wedi cael eu defnyddio) mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig o’r fath, a

(b)i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

(6)Mae “mangre” yn cynnwys cerbyd.

35Pwerau arolygydd i gyf-weld â phersonau a chynnal archwiliad ohonynt

(1)Os yw arolygydd yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion cynnal arolygiad, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael ei gyf-weld yn breifat gan yr arolygydd.

(2)Ond ni chaiff arolygydd gyf-weld yn breifat â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person.

(3)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)person y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo;

(b)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y person;

(c)perthynas i’r person;

(d)gofalwr y person;

(e)rhoddai atwrneiaeth arhosol dros y person.

(4)Caiff arolygydd gynnal archwiliad preifat o berson y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu (neu wedi darparu) gofal a chymorth iddo—

(a)os yw’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig,

(b)os yw’r arolygydd yn meddwl bod yr archwiliad yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion asesu effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant y person, ac

(c)os yw’r person yn cydsynio i’r archwiliad.

(5)At ddibenion is-adrannau (1) a (4), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—

(a)os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu

(b)os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.

(6)Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—

(a)y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu

(b)unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,

gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan adran 33 ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.

(7)Yn yr adran hon—

36Adroddiadau arolygu

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar yr arolygiad ac anfon copi ohono at y darparwr gwasanaeth.

(2)Rhaid i adroddiad gynnwys—

(a)asesiad o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu,

(b)asesiad o effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant personau y darperir (neu y darparwyd) y gofal a’r cymorth iddynt,

(c)asesiad o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, a

(d)os gwneir rheoliadau o dan adran 37, y radd sydd wedi ei rhoi i’r darparwr gwasanaeth.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi pob adroddiad a lunnir o dan is-adran (1);

(b)sicrhau bod copïau yn cael eu rhoi ar gael i’w harolygu yn y mannau ac yn y modd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;

(c)anfon copi o adroddiad a lunnir o dan is-adran (1) at unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

37Graddau arolygu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi cael ei arolygu.

(2)O ran rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)cânt wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth arddangos gradd sydd wedi ei chynnwys mewn adroddiad a lunnir o dan adran 36(1) yn y modd, ac yn y man, a bennir gan y rheoliadau,

(b)caniateir iddynt bennu meini prawf i’w cymhwyso wrth benderfynu ar radd, ac

(c)rhaid iddynt gynnwys darpariaeth i ddarparwr gwasanaeth apelio yn erbyn gradd sydd wedi ei chynnwys mewn adroddiad a lunnir o dan is-adran 36(1).

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

PENNOD 4SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

38Cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau.

(2)Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth ddangos yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;

(b)y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;

(c)enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;

(d)y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig o’r fath a phob man o’r fath;

(e)manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;

(f)crynodeb o unrhyw adroddiad arolygu sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth sydd wedi ei gyhoeddi o dan adran 36(3)(a);

(g)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr a’i rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn rhad ac am ddim, yn y modd, ac ar yr adegau, sy’n briodol yn eu barn hwy (ond gweler is-adran (5)(a)).

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol a wneir gan berson i gael copi o’r gofrestr neu ddarn ohoni (ond gweler is-adran (5)(b)).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)hepgor gwybodaeth ragnodedig o’r gofrestr a gyhoeddwyd mewn amgylchiadau rhagnodedig;

(b)gwrthod cydymffurfio â chais a wneir o dan is-adran (4) mewn amgylchiadau rhagnodedig.

39Hysbysu awdurdodau lleol am gamau penodol a gymerir o dan y Rhan hon

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol am—

(a)canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth;

(b)amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad—

(i)gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(ii)man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;

(c)gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 (canslo ar frys neu amrywio ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan);

(d)canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22;

(e)achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir odani;

(f)hysbysiad cosb a roddir o dan adran 52;

(g)unrhyw beth arall a all ddigwydd yn rhinwedd y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani a ragnodir.

(2)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(3)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at “awdurdod lleol” yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)cyngor sir yn Lloegr,

(b)cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,

(c)cyngor bwrdeistref yn Llundain,

(d)Cyngor Cyffredin Dinas Llundain, ac

(e)Cyngor Ynysoedd Scilly.

40Codi ffioedd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu gan berson—

(a)sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth (gweler adran 6);

(b)sy’n gwneud cais i amrywio cofrestriad (gweler adran 11);

(c)er mwyn ei ganiatáu i barhau i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth am gyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(d)i gael copi o adroddiad arolygu (gweler adran 36(3)(c));

(e)i gael copi o’r gofrestr a gyhoeddir o dan adran 38(3), neu ddarn ohoni.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu swm unrhyw ffi neu sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw ffi (yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu ffactorau eraill a bennir yn y rheoliadau);

(b)sy’n pennu amgylchiadau pan na fo ffi, a fyddai fel arall yn daladwy o dan y rheoliadau, yn daladwy;

(c)sy’n pennu’r amser ar gyfer talu ffi neu sy’n pennu’r ffactorau ar gyfer penderfynu ar yr amser hwnnw gan Weinidogion Cymru;

(d)ynghylch canlyniadau methu â thalu ffi (a gaiff gynnwys gwrthod cofrestriad, neu ganslo cofrestriad).

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i ymgynghori—

(a)â phersonau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y gall fod yn ofynnol iddynt dalu ffi yn rhinwedd y rheoliadau, a

(b)ag unrhyw bersonau arall sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Caniateir i ffi sy’n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan is-adran (1), heb ragfarnu unrhyw fodd arall o adennill, gael ei hadennill yn ddiannod fel dyled sifil.

41Ymgysylltu â’r cyhoedd

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi gwybodaeth am arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol ar gael ar gyfer y cyhoedd, a

(b)llunio a chyhoeddi datganiad am eu polisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd wrth arfer y swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio datganiad polisi a rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)cânt gyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), yn benodol, ymdrin—

(a)â chynnwys y cyhoedd mewn arolygiadau a gynhelir o dan Bennod 3, a

(b)â chynnwys gofalwyr (o fewn ystyr adran 3 o Ddeddf 2014) yn yr arferiad o swyddogaethau rheoleiddiol Gweinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad polisi a gyhoeddwyd (neu ddatganiad diwygiedig) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol.

42Adroddiad blynyddol ar swyddogaethau rheoleiddiol

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys manylion am y canlynol—

(a)sut y mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn,

(b)y graddau y maent, wrth arfer y swyddogaethau hynny—

(i)wedi cyflawni’r amcanion y cyfeirir atynt yn adran 4, a

(ii)wedi rhoi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 41, ac

(c)sut yr effeithiodd y dyletswyddau a grybwyllir yn is-adran (4) ar arfer y swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn.

(3)Caiff yr adroddiad blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Y dyletswyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(c) yw dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan—

(a)adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15) (dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus),

(b)adran 1(1) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2) (dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn),

(c)adran 7(1) o Ddeddf 2014 (dyletswydd i roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol i oedolion), a

(d)Rhan 4 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (safonau).

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

43Methiant i gydymffurfio ag amod

(1)Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod sy’n ymwneud â chofrestriad y darparwr sydd mewn grym am y tro yn rhinwedd y Rhan hon.

(2)Ond nid yw darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) drwy fethu â chael unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn cysylltiad ag ef—

(a)os nad yw’r terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben (terfyn amser rhagnodedig ar gyfer gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol newydd), neu

(b)os yw’r terfyn amser hwnnw wedi dod i ben ond gwnaeth y darparwr gwasanaeth y cais am amrywiad o fewn y terfyn amser ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno.

44Disgrifiadau anwir

(1)Mae’n drosedd i berson, gyda’r bwriad o dwyllo person arall—

(a)esgus bod yn ddarparwr gwasanaeth,

(b)esgus bod man yn un y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef, neu

(c)esgus bod yn unigolyn cyfrifol.

(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r canlynol (ymhlith pethau eraill) fod yn weithred sy’n gyfystyr â throsedd o dan is-adran (1)—

(a)cymhwyso enw at wasanaeth neu fan i roi’r argraff ei fod wedi ei bennu yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;

(b)disgrifio gwasanaeth neu fan mewn modd sy’n bwriadu rhoi’r argraff honno;

(c)honni bod gwasanaeth yn wasanaeth rheoleiddiedig a bennir yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;

(d)honni bod man yn fan a bennir yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;

(e)gweithredu mewn modd sy’n rhoi’r argraff o fod yn unigolyn cyfrifol pan nad yw wedi ei ddynodi’n unigolyn o’r fath.

45Methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 neu 37(2)(a).

46Methiant gan unigolyn cyfrifol i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 28.

47Datganiadau anwir

Mae’n drosedd i berson wneud datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol mewn—

(a)cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth,

(b)cais i amrywio neu i ganslo cofrestriad,

(c)datganiad blynyddol a gyflwynir o dan adran 10, neu

(d)ymateb i ofyniad a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth).

48Methiant i gyflwyno datganiad blynyddol

Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a ragnodir o dan adran 10(4).

49Methiant i ddarparu gwybodaeth

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1).

(2)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.

50Troseddau sy’n gysylltiedig ag arolygiadau

(1)Mae’n drosedd i berson—

(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro arolygydd rhag arfer unrhyw swyddogaeth a roddir i arolygydd gan Bennod 3, neu

(b)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n arfer swyddogaeth o’r fath.

(2)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.

51Cosbau ar gollfarn

(1)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 5, 43, 44, 47, 49 neu 50 neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 45 neu 46 yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 48 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

52Hysbysiadau cosb

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i berson os ydynt wedi eu bodloni bod y person wedi cyflawni trosedd ragnodedig.

(2)Dim ond troseddau o dan adrannau 47, 48 neu 49 neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 45 neu 46 y caniateir iddynt gael eu rhagnodi felly.

(3)Mae hysbysiad cosb yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person i ryddhau unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu i Weinidogion Cymru swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad.

(4)Pan fo person yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei ddwyn cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(5)Os yw person sy’n cael hysbysiad cosb yn talu’r swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad, ni all y person gael ei gollfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)o ran ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb;

(b)o ran y swm sy’n daladwy o dan hysbysiad cosb a’r amser y mae’r swm i gael ei dalu ynddo (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i swm gwahanol fod yn daladwy mewn perthynas â throseddau gwahanol ac yn unol â’r amser erbyn pryd y caiff y swm ei dalu);

(c)sy’n penderfynu ar y ffyrdd y caniateir i swm gael ei dalu ynddynt;

(d)o ran y cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â hysbysiadau cosb;

(e)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(i)ad-dalu unrhyw swm a delir cyn y tynnir hysbysiad yn ôl, a

(ii)yr amgylchiadau pan na chaniateir i achos am drosedd gael ei ddwyn er bod hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) wneud darpariaeth i swm fod yn daladwy o dan hysbysiad cosb sy’n fwy na dwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol.

53Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir odani wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2)Mae person a grybwyllir yn is-adran (3) hefyd yn cyflawni’r drosedd os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y person hwnnw neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw.

(3)Y personau hynny yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol,

(b)pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod, neu

(c)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.

(4)Pan fo corff corfforaethol yn awdurdod lleol, mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd yn y corff i’w ddarllen fel cyfeiriad at swyddog neu aelod o’r awdurdod.

54Troseddau gan gyrff anghorfforedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i droseddau o dan y Rhan hon ac o dan reoliadau a wneir odani.

(2)Caniateir i achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw’r corff yn lle yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforaethol.

(3)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ar ei gollfarnu o drosedd i’w thalu o gronfeydd y corff hwnnw.

(4)Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p.86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) yn cael effaith fel pe bai corff corfforaethol wedi ei gyhuddo.

55Achosion am droseddau

(1)Ni chaniateir i achos mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani, heb gydsyniad ysgrifenedig Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gael ei ddwyn gan unrhyw berson ac eithrio’r Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i achos diannod mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos.

(3)Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn fwy na tair blynedd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni.

PENNOD 6GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

56Adroddiadau gan awdurdodau lleol a dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru

(1)Ar ôl adran 144 o Ddeddf 2014 (cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol) mewnosoder—

144AAdroddiadau blynyddol

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)manylion am sut y mae’r awdurdod wedi arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi—

(i)gweithredu yn unol â gofynion a osodir ar awdurdodau lleol gan god a ddyroddir o dan adran 9 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau mewn perthynas â llesiant),

(ii)gweithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 (codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), a

(iii)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol mewn cod a ddyroddir o dan adran 145, a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.

(3)Rhaid i’r manylion a ddarperir o dan is-adran (2)(a)(ii) ddatgan sut y mae’r awrdurdod wedi bodloni unrhyw ofynion a gynhwysir mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion o dan Ran 4.

(4)Rhaid i adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

144BAdroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol

(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol ar unrhyw adegau a ragnodir drwy reoliadau.

(2)Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol gynnwys—

(a)asesiad o—

(i)digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir drwy reoliadau;

(ii)y graddau y darparwyd gwasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod rhagnodedig hwnnw gan ddarparwyr gwasanaethau y mae adran 61 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth gan Weinidogion Cymru) yn gymwys iddynt;

(iii)unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol a ragnodir drwy reoliadau;

(iv)effaith comisiynu unrhyw wasanaethau gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol ar arferiad y swyddogaethau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir drwy reoliadau;

(b)adroddiad ar unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod a ragnodir o dan baragraff (a)(i) yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 189(2) (dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion yn achos methiant darparwr).

(3)Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.

(4)Wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol, rhaid i awdurdod lleol—

(a)ystyried—

(i)yr asesiad y mae wedi ei gyhoeddi’n ddiweddaraf o dan adran 14 (asesiadau o anghenion), a

(ii)y cynllun y mae wedi ei gyhoeddi’n ddiweddaraf o dan adran 14A ar ôl yr asesiad, a

(b)ymgynghori â phob Bwrdd Iechyd Lleol y cynhaliodd yr asesiad gydag ef.

(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2)(a)(iii) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran o 3(1)(c) Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(b)mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan adran 2(1) o’r Ddeddf honno.

Dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru
144CDyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru

Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i Weinidogion Cymru geisio hyrwyddo a chynnal safonau uchel yn y ddarpariaeth o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

(2)Yn adran 196(6) o Ddeddf 2014 (rheoliadau nas gwneir ond os yw drafft wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 144A(2)(b);.

57Adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau

(1)Ar ôl adran 149 o Ddeddf 2014 (cyfarwyddiadau i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chodau ymarfer) mewnosoder—

Adolygiadau
149AAdolygiadau o astudiaethau ac ymchwil

(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu—

(a)astudiaethau ac ymchwil a wneir gan eraill mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru,

(b)y dulliau a ddefnyddir mewn astudiaethau ac ymchwil o’r fath, ac

(c)dilysrwydd casgliadau astudiaethau ac ymchwil o’r fath.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

149BAdolygiadau o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu harfer.

(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)adolygu’r arferiad cyffredinol o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru;

(b)adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol penodol eu harfer;

(c)adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol o ddisgrifiad penodol (pa un a yw wedi ei harfer gan un awdurdod lleol neu gan ddau neu ragor o awdurdodau yn cydweithio);

(d)adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan berson neu bersonau penodol.

(3)Mae cyfeiriad yn is-adran (2) at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan awdurdod lleol yn cynnwys cyfeiriad at gomisiynu unrhyw wasanaethau mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas â’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol benodedig.

(6)Os gwneir rheoliadau o dan is-adran (5) mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)wrth gynnal adolygiad o’r arferiad o’r swyddogaeth honno, roi gradd yn unol â’r rheoliadau, a

(b)cynnwys y radd yn eu hadroddiad ar yr adolygiad.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(8)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

149CFfioedd

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i awdurdod lleol dalu ffi mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B(1).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu swm unrhyw ffi neu sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw ffi (yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu ffactorau eraill a bennir yn y rheoliadau);

(b)sy’n pennu’r amser ar gyfer talu ffi neu sy’n pennu ffactorau y mae Gweinidogion Cymru i benderfynu ar yr amser hwnnw yn unol â hwy.

149DYstyriaethau cyffredinol

Wrth gynnal adolygiad o dan adran 149A neu 149B, rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy’n cael eu hadolygu, roi sylw i—

(a)argaeledd a hygyrchedd y gwasanaethau;

(b)ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau;

(c)y ffordd y caiff y gwasanaethau eu rheoli;

(d)darbodaeth ac effeithlonrwydd eu darpariaeth a’u gwerth am arian;

(e)argaeledd ac ansawdd yr wybodaeth a ddarperir i bobl yn ardal yr awdurdod lleol ynghylch y gwasanaethau;

(f)y dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 5 (dyletswydd i hyrwyddo llesiant), 6 (dyletswyddau hollgyffredinol eraill) a 7 (dyletswyddau sy’n ymwneud ag Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig) i’r graddau y bônt yn berthnasol i’r gwasanaethau ac effeithiolrwydd y camau a gymerir gan awdurdod lleol i gyflawni’r dyletswyddau hynny;

(g)effeithiolrwydd y camau a gymerir gan awdurdod lleol i sicrhau’r canlyniadau a bennir mewn datganiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 (datganiad o ganlyniadau sy’n ymwneud â llesiant) i’r graddau y bônt yn berthnasol i’r gwasanaethau;

(h)unrhyw fesurau perfformiad a thargedau perfformiad a nodir mewn cod a ddyroddir o dan adran 9 sy’n berthnasol yn eu barn hwy;

(i)unrhyw ofynion neu ganllawiau sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 sy’n berthnasol yn eu barn hwy;

(j)y graddau y mae awdurdod lleol wedi cynnwys pobl o ardal yr awdurdod lleol—

(i)mewn penderfyniadau ynghylch y ffordd y mae ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu harfer, a

(ii)wrth adolygu’r arferiad o’r swyddogaethau hynny.

(2)Yn lle adran 161 o Ddeddf 2014 (pwerau mynd i mewn ac arolygu) rhodder—

Gorfodi
161Pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)Caiff person sy’n dod o fewn is-adran (2) awdurdodi arolygydd i fynd i mewn i fangre sy’n dod o fewn is-adran (3) a’i harolygu.

(2)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)Gweinidogion Cymru—

(i)pan fônt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adolygiad a gynhelir o dan adran 149B(1), neu

(ii)yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 155;

(b)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 153 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo i’r contract neu’r trefniant arall ag ef sy’n ofynnol drwy’r cyfarwyddyd;

(c)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 154;

(d)person a enwebir mewn cyfarwyddyd o dan adran 155.

(3)Mae’r mangreoedd a ganlyn o dod o fewn yr is-adran hon—

(a)mangreoedd y mae awdurdod lleol yn berchen arnynt neu’n eu rheoli;

(b)mangreoedd—

(i)sy’n cael eu defnyddio, neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn credu’n rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio, neu y gallant gael eu defnyddio, at y diben hwnnw,

ond nid yw mangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat yn dod o fewn yr is-adran hon ond os yw meddiannydd y fangre yn cydsynio i’r arolygydd fynd i mewn a’i harolygu.

(4)Mae “mangre” yn cynnwys cerbyd.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.

(6)Wrth fynd i mewn i fangre, rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson yn y fangre, gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan is-adran (1).

(7)Caiff yr arolygydd—

(a)archwilio cyflwr y fangre a’r ffordd y caiff ei rheoli ac, os oes unrhyw bersonau yn cael eu lletya yn y fangre neu’n cael gofal a chymorth yno, archwilio’r driniaeth y mae’r personau hynny yn ei chael;

(b)ei gwneud yn ofynnol i reolwr y fangre neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo, neu ei fod yn atebol am, ddogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre, gyflwyno unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn ystyried y gallant fod yn berthnasol i’r aferiad o swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y person a awdurdododd yr arolygydd;

(c)edrych ar unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn ystyried y gallant fod yn berthnasol i’r arferiad o swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y person a awdurdododd yr arolygydd a mynd â chopïau ohonynt;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi i’r arolygydd unrhyw gyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person y mae eu hangen er mwyn galluogi’r arolygydd i gynnal yr arolygiad;

(e)cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal yr arolygiad;

(f)cyf-weld yn breifat—

(i)â rheolwr y fangre neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre;

(ii)ag unrhyw berson sy’n gweithio yno;

(iii)ag unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei gyf-weld sy’n cael ei letya yno neu sy’n cael gofal a chymorth yno.

(8)Mae’r pwerau yn is-adran (7)(b) i (d) yn cynnwys y pŵer—

(a)i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu eu bod yn cael eu defnyddio (neu wedi cael eu ddefnyddio) mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig o’r fath, a

(b)i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

(9)Mae is-adran (10) yn gymwys—

(a)pan fo personau yn cael eu lletya yn y fangre sy’n cael ei harolygu neu’n cael gofal a chymorth yno,

(b)pan fo’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig, ac

(c)pan fo gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu nad yw person sy’n cael ei letya yn y fangre neu sy’n cael gofal a chymorth yno yn cael (neu wedi cael) gofal a chymorth priodol.

(10)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff yr arolygydd gynnal archwiliad preifat o’r person ond dim ond os yw’r person yn rhoi cydsyniad i’r archwiliad.

(11)At ddibenion is-adrannau (7)(f) a (10), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—

(a)os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu

(b)os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.

(12)Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—

(a)y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu

(b)unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,

gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd a roddir o dan is-adran (1) ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.

(13)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygydd orffen arolygiad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd anfon adroddiad ar yr arolygiad at y person a roddodd yr awdurdodiad o dan is-adran (1).

(14)Rhaid i’r person hwnnw anfon copi o adroddiad yr arolygydd—

(a)i’r awdurdod lleol sy’n cael ei adolygu neu sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd, a

(b)os nad Gweinidogion Cymru yw’r person, at Weinidogion Cymru.

(15)Yn yr adran hon ac yn adrannau 161A, 161B a 161C, ystyr “arolygydd” yw unigolyn sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1).

161ACod ymarfer ynghylch arolygiadau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau o fangreoedd o dan adran 161 i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau o’r fath).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.

(3)Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod diweddaraf a gyhoeddwyd wrth gynnal arolygiad o dan adran 161.

161BPŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ddarparu iddynt—

(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol neu gofnodion personol eraill) neu wybodaeth arall⁠—

(i)sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus eu cael at ddibenion adolygiad o dan adran 149A neu 149B;

(b)esboniad am gynnwys—

(i)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall a ddarperir o dan baragraff (a), neu

(ii)unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B.

(2)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)awdurdod lleol;

(b)person sy’n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)ymddiriedolaeth GIG,

ond ni ellir ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG ddarparu esboniad am gynnwys unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161.

(3)Nid yw’n ofynnol i berson ddarparu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall o dan is-adran (1) os yw’r person wedi ei wahardd rhag eu darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

161CTroseddau

(1)Mae’n drosedd i berson—

(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 gan arolygydd, neu

(b)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n cynnal arolygiad o’r fath.

(2)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 161B(1).

(3)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) neu (2) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r gofyniad.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(5)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.”

(3)Yn adran 196(6)(a) o Ddeddf 2014 (rheoliadau nas gwneir ond os yw drafft wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru), ar ôl “135(4),” mewnosoder “149B(5), 149C(1),”.

58Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

Ar ôl adran 94 o Ddeddf 2014 (rheoliadau ynghylch trefniadau asiantaeth) mewnosoder⁠—

Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya
94ARheoleiddio’r arferiad o swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr arferiad gan awdurdodau lleol o swyddogaethau a roddir iddynt gan—

(a)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal), neu

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) sy’n gwneud darpariaeth megis yr hyn a grybwyllir yn adran 92(1), 93 neu 94.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, gynnwys darpariaeth—

(a)o ran y personau sy’n addas i weithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

(b)o ran addasrwydd y mangreoedd sydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny,

(c)o ran rheoli’r arferiad o’r swyddogaethau hynny a’r rheolaeth ar arfer y swyddogaethau hynny,

(d)o ran nifer y personau, neu bersonau o fath penodol, sy’n gweithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

(e)o ran rheoli a hyfforddi’r personau hynny, ac

(f)o ran y ffioedd neu’r treuliau y caniateir iddynt gael eu talu i bersonau sy’n helpu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(a), yn benodol, wneud darpariaeth sy’n pennu nad yw person yn addas i weithio i awdurdod lleol mewn unrhyw swydd a bennir os nad yw’r person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol), neu mewn rhan benodol o’r gofrestr honno.

94BY drosedd o dorri rheoliadau o dan adran 94A

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i berson dorri darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 94A neu fethu â chydymffurfio â darpariaeth o’r fath.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(3)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.

PENNOD 7TROSOLWG O’R FARCHNAD

59Pennu meini prawf ar gyfer cymhwyso cyfundrefn trosolwg o’r farchnad

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu meini prawf ar gyfer dyfarnu a yw (yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (4)) adran 61 yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig.

(2)Wrth bennu’r meini prawf, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion a ganlyn yn benodol—

(a)faint o ofal a chymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth,

(b)crynodiad daearyddol busnes darparwr gwasanaeth, ac

(c)y graddau y mae darparwr gwasanaeth yn arbenigo yn y ddarpariaeth o fathau penodol o wasanaeth rheoleiddiedig.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ar yr adegau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy, adolygu’r meini prawf a bennir am y tro yn y rheoliadau, a

(b)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch sut y mae’r materion a grybwyllir yn is-adran (2), ac unrhyw faterion eraill y maent yn rhoi sylw iddynt wrth bennu’r meini prawf, i gael eu mesur.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw adran 61 yn gymwys, neu nad yw ond yn gymwys i’r graddau a bennir, i ddarparwr gwasanaeth penodedig neu i ddarparwr gwasanaeth o ddisgrifiad penodedig, pa un a fyddai’r darparwr gwasanaeth hwnnw neu ddarparwr gwasanaeth o’r disgrifiad hwnnw yn bodloni’r meini prawf ai peidio.

(5)Mae’r amgylchiadau pan ganiateir i reoliadau gael eu gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys yr amgylchiadau hynny pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwyr gwasanaethau penodol eisoes yn ddarostyngedig i gyfundrefn reoleiddiol sy’n gymaradwy â’r hyn y darperir ar ei chyfer yn adrannau 61 a 62; a chaiff rheoliadau a wneir o dan amgylchiadau o’r fath, er enghraifft, wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig gydweithredu neu rannu gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

60Dyfarnu a yw meini prawf yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu, yn achos pob darparwr gwasanaeth, a yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni un neu ragor o’r meini prawf a bennir mewn rheoliadau o dan adran 59.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dyfarnu bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni un neu ragor o’r meini prawf, mae adran 61 yn gymwys i’r darparwr gwasanaeth hwnnw oni bai bod, neu ac eithrio i’r graddau y mae, rheoliadau o dan adran 59(4) yn darparu nad yw’n gymwys.

(3)Pan fo adran 61 yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r darparwr yn unol â hynny.

61Asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth

(1)Pan fo’r adran hon yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, rhaid i Weinidogion Cymru asesu cynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr gwasanaeth o gynnal gwasanaethau rheoleiddiedig.

(2)Rhaid i asesiad o gynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr gwasanaeth o dan is-adran (1) gynnwys ystyriaeth o’i lywodraethu corfforaethol.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru, yn sgil asesiad o dan is-adran (1), yn meddwl bod risg sylweddol i gynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr gwasanaeth, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth ddatblygu cynllun o ran sut i liniaru neu i ddileu’r risg, a

(b)trefnu, neu ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth drefnu, i berson sydd â’r arbenigedd proffesiynol priodol gynnal adolygiad annibynnol o’r busnes.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gosod gofyniad ar ddarparwr gwasanaeth o dan is-adran (3)(a), cânt hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cydweithredu â hwy wrth ddatblygu’r cynllun, a

(b)cael eu cymeradwyaeth i’r cynllun terfynol.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn trefnu adolygiad o dan is-adran (3)(b), caniateir iddynt adennill oddi wrth y darparwr gwasanaeth unrhyw gostau y maent yn mynd iddynt mewn cysylltiad â’r trefniadau (gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol ar gyfer gwneud y trefniadau y mae’n briodol eu hadennill yn eu barn hwy).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eu galluogi i gael oddi wrth unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy wybodaeth y maent yn credu y bydd yn eu cynorthwyo i asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(8)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud yr asesiadau sy’n ofynnol gan is-adran (1).

62Hysbysu awdurdodau lleol pan fo methiant darparwr gwasanaeth yn debygol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwr gwasanaeth y mae adran 61 yn gymwys iddo yn debygol o beidio â gallu darparu gwasanaeth rheoleiddiedig y mae wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef oherwydd methiant busnes fel a grybwyllir yn adran 189 o Ddeddf 2014 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdodau lleol y maent yn meddwl y bydd yn ofynnol iddynt gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014 os yw’r darparwr gwasanaeth yn peidio â gallu darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig o dan sylw.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n ymwneud â busnes y darparwr gwasanaeth sy’n briodol yn eu barn hwy, ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus iddynt ei chael at ddiben cynorthwyo awdurdod lleol i gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(5)Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (3) yn cynnwys—

(a)pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a

(b)pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.

63Adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol ar unrhyw adegau a ragnodir.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â GCC wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol a chânt gyfarwyddo GCC i lunio ar y cyd â hwy unrhyw ran o’r adroddiad sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3)Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol gynnwys—

(a)asesiad—

(i)o ddigonolrwydd y gofal a’r cymorth (o fewn ystyr Deddf 2014) a ddarperir yng Nghymru yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir,

(ii)o’r graddau y darparwyd gwasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhagnodedig hwnnw gan ddarparwyr gwasanaethau y mae adran 61 yn gymwys iddynt,

(iii)effaith comisiynu gwasanaethau gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (o fewn ystyr Deddf 2014) ar arferiad y swyddogaethau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir, a

(iv)o unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir, a

(b)adroddiad ar unrhyw gamau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 59 i 62 yn ystod y cyfnod a ragnodir o dan baragraff (a)(i).

(4)Wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad leol a gyhoeddwyd gan bob awdurdod lleol o dan adran 144B o Ddeddf 2014 (adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol).

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3)(a)(iv) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

PENNOD 8DEHONGLI

64Dehongli’r Rhan hon

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Gweler adran 189 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dehongli’r geiriau a’r ymadroddion sy’n gymwys i’r Ddeddf gyfan.

RHAN 2TROSOLWG O RANNAU 3 I 8 A’U DEHONGLI

65Trosolwg o Rannau 3 i 8

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 3—

(a)yn rhoi’r enw newydd Gofal Cymdeithasol Cymru (a ddiffinnir gan adran 67 fel “GCC”) i Gyngor Gofal Cymru, a

(b)yn gwneud darpariaeth ar gyfer ei swyddogaethau cyffredinol (gweler, yn benodol, adrannau 68 i 72, gan gynnwys y ddarpariaeth yn Atodlen 2 ynghylch cyfansoddiad GCC a materion eraill sy’n berthnasol i’w weithrediad cyffredinol).

(3)Mae Rhannau 4 i 6 yn rhoi swyddogaethau i GCC mewn perthynas â rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol a phersonau eraill sy’n ymgymryd â darparu gofal a chymorth i bersonau yng Nghymru (sydd wedi eu diffinio, ar y cyd, fel “gweithwyr gofal cymdeithasol” gan adran 79(1)); gan gynnwys—

(a)dyletswydd i gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol penodol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol (gweler, yn benodol, adran 80 o Ran 4);

(b)gofyniad yn adran 81 i GCC benodi cofrestrydd i brosesu ceisiadau ar gyfer cofrestru yn y gofrestr ac fel arall i arfer swyddogaethau o dan Ran 4 mewn perthynas â’r gofrestr, gan gynnwys y swyddogaeth o benderfynu, o dan adran 83, a ddylai personau gael eu derbyn i’r gofrestr.

(4)Mae Rhannau 4 i 6 hefyd yn nodi’r gofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn dod yn gofrestredig a pharhau’n gofrestredig; gan gynnwys—

(a)gofyniad bod y cofrestrydd wedi ei fodloni bod person wedi ei gymhwyso, neu wedi ei hyfforddi’n briodol fel arall, i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol (gweler adran 83 am hyn),

(b)y rhwymedigaethau sydd i’w cyflawni gan bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y gofrestr mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus (gweler adran 113 o Ran 5), ac

(c)rhwymedigaethau mewn cysylltiad ag addasrwydd i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

(5)Mae adran 117 o Bennod 1 o Ran 6 yn nodi’r seiliau dros amhariad posibl ar addasrwydd person i ymarfer at ddibenion bod yn gofrestredig, a pharhau’n gofrestredig; gan gynnwys perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol a chamymddwyn difrifol mewn unrhyw rinwedd.

(6)Mae Pennod 2 o Ran 6 yn darparu ar gyfer system o ystyriaeth ragarweiniol ac, os oes angen, ymchwiliad gan neu ar ran GCC o ran a all fod amhariad ar addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig i ymarfer, ac ar gyfer atgyfeirio achosion penodol i banel addasrwydd i ymarfer.

(7)Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC sefydlu paneli a fydd yn dyfarnu a ddylid derbyn person i’r gofrestr neu ei dynnu oddi arni; yn benodol—

(a)paneli i wneud dyfarniadau o dan Ran 4, gan gynnwys dyfarniadau ynghylch penderfyniadau a wneir gan y cofrestrydd (a ddiffinnir gan adran 174 o Ran 8 fel “paneli apelau cofrestru”),

(b)paneli i wneud dyfarniadau mewn perthynas ag addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig i ymarfer drwy gyfeirio at y seiliau amhariad posibl yn adran 117 (a ddiffinnir gan adran 174 o Ran 8 fel “paneli addasrwydd i ymarfer”), ac

(c)paneli i wneud penderfyniadau wrth aros am ddyfarniad ar fater gan baneli apelau cofrestru neu baneli addasrwydd i ymarfer (a ddiffinnir gan adran 174 o Ran 8 fel “paneli gorchmynion interim”).

(8)Mae Pennod 3 o Ran 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffyrdd y caiff paneli addasrwydd i ymarfer waredu achosion pan fo amheuon ynghylch addasrwydd person i ymarfer, gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i baneli dynnu person oddi ar y gofrestr neu ei atal dros dro o’r gofrestr; ac mae Pennod 5 o Ran 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr adolygiad cyfnodol gan banel addasrwydd i ymarfer o addasrwydd i ymarfer bersonau sydd wedi bod yn ddarostyngedig i achosion o dan Bennod 3 o’r Rhan honno.

(9)Mae adran 104 o Ran 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch apelau i’r tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan y Rhan honno sy’n ymwneud â chofrestru, tra bo Pennod 6 o Ran 6 yn darparu ar gyfer apelau i’r tribiwnlys yn erbyn dyfarniadau paneli addasrwydd i ymarfer o dan y Rhan honno.

(10)Mae adran 111 o Ran 4 yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru fwriadu twyllo rhywun drwy esgus bod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig, ac yn rhinwedd rheoliadau yn ei gwneud yn drosedd i berson fwriadu twyllo rhywun drwy esgus bod yn fath arall o weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig.

(11)Mae Rhan 7 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwy reoliadau awdurdodi paneli addasrwydd i ymarfer i wahardd gweithwyr gofal cymdeithasol nad yw rhan o’r gofrestr yn cael ei chadw mewn cysylltiad â hwy rhag cyflawni gweithgareddau a bennir yn y rheoliadau, ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys ei gwneud yn drosedd i weithiwr gofal cymdeithasol gyflawni’r gweithgareddau hynny tra ei fod yn ddarostyngedig i waharddiad.

(12)Yn ogystal â gwneud darpariaeth ynghylch datblygiad proffesiynol parhaus, mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch cymeradwyo gan GCC gyrsiau ar gyfer personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol (gweler adran 114).

66Dehongli Rhannau 3 i 8

(1)Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—

(2)Gweler adran 189 am ddarpariaeth ynghylch dehongli’r geiriau a’r ymadroddion sy’n gymwys i’r Ddeddf gyfan.

RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Parhad Cyngor Gofal Cymru a’i ailenwi

67Gofal Cymdeithasol Cymru

(1)Mae adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diddymu.

(2)Mae’r corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan yr adran honno i barhau i fodoli.

(3)Ond mae wedi ei ailenwi, a’i enw yw Gofal Cymdeithasol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “GCC”).

(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch GCC.

Amcanion GCC

68Amcanion GCC

(1)Prif amcan GCC wrth gyflawni ei swyddogaethau yw diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru.

(2)Wrth gyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i GCC arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal—

(a)safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth,

(b)safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol,

(c)safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol, a

(d)hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.

(3)Gweler adran 69 am ystyr “gwasanaethau gofal a chymorth” ac adran 79 am ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol”.

Cyngor a chynhorthwy

69Cyngor a chynhorthwy mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth

(1)Caiff GCC roi cyngor neu gynhorthwy arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gofal a chymorth at ddiben annog gwelliant yn y ddarpariaeth o’r gwasanaeth hwnnw.

(2)Caiff GCC atodi unrhyw amodau i grant a roddir o dan is-adran (1) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Ystyr “gwasanaeth gofal a chymorth” yw—

(a)gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(b)unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol.

(4)Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “gofal a chymorth”.

70Astudiaethau o ran darbodaeth, effeithlonrwydd etc.

Caiff GCC hybu neu gynnal astudiaethau cymharol neu astudiaethau eraill sydd wedi eu dylunio er mwyn ei alluogi i wneud argymhellion o dan adran 69 ar gyfer gwella darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y ddarpariaeth o wasanaeth gofal a chymorth.

Ymgysylltu â’r cyhoedd etc.

71Ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol

(1)Rhaid i GCC—

(a)rhoi gwybodaeth am GCC a’r arferiad o’i swyddogaethau ar gael i—

(i)y cyhoedd, a

(ii)gweithwyr gofal cymdeithasol;

(b)llunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol yn yr arferiad o’r swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).

(2)O ran GCC—

(a)caiff ddiwygio ei ddatganiad polisi a rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)caiff gyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol

72Datganiad polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol

(1)Rhaid i GCC lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol ganddo.

(2)Caiff GCC—

(a)diwygio ei ddatganiad polisi a chyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)cyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf hon

73Rheolau: cyffredinol

(1)Rhaid i unrhyw bŵer a roddir i GCC gan neu o dan y Ddeddf hon i wneud rheolau gael ei arfer yn ysgrifenedig drwy offeryn.

(2)Rhaid i offeryn sy’n cynnwys rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani.

(3)I’r graddau nad yw offeryn sy’n cynnwys rheolau yn cydymffurfio ag is-adran (2) mae’n ddi-rym.

(4)Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan GCC i wneud rheolau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon gael ei arfer—

(a)er mwyn gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)er mwyn gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol a throsiannol.

(5)Rhaid i GCC—

(a)cyhoeddi rheolau a wneir ganddo, a

(b)sicrhau bod y rheolau ar gael yn gyhoeddus hyd nes y byddant yn peidio â chael effaith.

(6)Caiff GCC godi ffi am ddarparu i berson gopi o’r rheolau a wneir ganddo.

74Rheolau: ffioedd

(1)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—

(a)GCC;

(b)y cofrestrydd (gweler adran 81).

(2)Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag⁠—

(a)darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;

(b)cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);

(c)cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);

(d)darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);

(e)darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.

(3)Ond ni chaiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â chofrestru ar y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr.

Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.

75Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.

(1)Rhaid i GCC gydymffurfio â gofynion is-adran (2)—

(a)cyn gwneud unrhyw reolau o dan y Ddeddf hon;

(b)cyn cyhoeddi cod ymarfer o dan adran 112 (codau sy’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr);

(c)cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 162 (canllawiau i baneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim mewn cysylltiad ag achosion o dan Ran 6),

oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

(2)Cyn gwneud y rheolau neu gyhoeddi’r cod neu ganllawiau rhaid i GCC—

(a)cyhoeddi drafft o’r rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig yn ogystal ag—

(i)esboniad o ddiben y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig a chrynodeb o effaith fwriadedig y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig;

(ii)hysbysiad sy’n pennu’r cyfnod ar gyfer caniatáu i sylwadau gael eu cyflwyno i GCC ynghylch y cynnig, a

(b)cymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r cynnig a’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i—

(i)gweithwyr gofal cymdeithasol y mae GCC yn meddwl y gall y cynnig effeithio arnynt,

(ii)Gweinidogion Cymru, a

(iii)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn GCC.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw GCC—

(a)wedi ei fodloni bod natur y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig o’r fath fel y byddai ymgynghori yn amhriodol neu’n anghymesur, a

(b)wedi cael cytundeb Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen heb ymgynghori.

(4)Nid yw adran 184 (cyflwyno dogfennau etc.) yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan GCC o dan is-adran (2).

Canllawiau a chyfarwyddydau

76Canllawiau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i GCC roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddant i GCC.

77Cyfarwyddydau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i GCC gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)O ran cyfarwyddyd—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru

78Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru

(1)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn arferadwy gan Weinidogion Cymru os ydynt wedi eu bodloni bod GCC—

(a)wedi methu heb esgus rhesymol â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu

(b)wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 77 mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi datganiad sy’n datgan bod GCC wedi methu, a

(b)cyfarwyddo GCC i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, mewn unrhyw fodd ac o fewn unrhyw gyfnod neu gyfnodau, a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Os yw GCC yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyflawni’r swyddogaethau y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy eu hunain, neu

(b)gwneud trefniadau i unrhyw berson arall gyflawni’r swyddogaethau hynny ar eu rhan.

(4)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” etc.

79Ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” etc.

(1)Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” yw person—

(a)sy’n ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol (y cyfeirir ato yn y Rhannau hynny fel “gweithiwr cymdeithasol”);

(b)sy’n rheoli man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono;

(c)sydd, yn ystod ei gyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr hwnnw;

(d)sydd, o dan gontract am wasanaethau, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)eithrio personau o ddisgrifiad penodedig o’r diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol yn is-adran (1);

(b)darparu bod personau o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau yn is-adran (3), neu gategorïau o berson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau hynny, i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.

(3)Y disgrifiadau o bersonau yw—

(a)person sydd wedi ei ddynodi o dan Bennod 2 o Ran 1 (cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau) yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;

(b)person sy’n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (o fewn ystyr Deddf 2014), neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau sy’n debyg i wasanaethau y caniateir iddynt gael, neu y mae rhaid iddynt gael, eu darparu gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny;

(c)person sy’n darparu gofal a chymorth a fyddai, oni bai am baragraff 8(2)(a) o Atodlen 1, yn gyfystyr â darparu gwasanaeth cymorth cartref;

(d)person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) fel—

(i)gwarchodwr plant, neu

(ii)darparwr gofal dydd i blant;

(e)person sy’n rheoli ymgymeriad, neu sydd wedi ei gyflogi mewn ymgymeriad, sy’n cynnal busnes cyflogi (o fewn ystyr “employment business” yn adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)) sy’n cyflenwi personau i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru;

(f)person sy’n rheoli ymgymeriad, neu sydd wedi ei gyflogi mewn ymgymeriad, sy’n cynnal asiantaeth gyflogi (o fewn ystyr “employment agency” yn yr adran a grybwyllir ym mharagraff (e)) sy’n darparu gwasanaethau at ddiben cyflenwi personau i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru;

(g)person sy’n ymgymryd â chwrs a gymeradwyir gan GCC o dan adran 114 (cyrsiau ar gyfer personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol);

(h)arolygydd sy’n cynnal arolygiadau o wasanaethau rheoleiddiedig ar ran Gweinidogion Cymru o dan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf hon (gwybodaeth ac arolygiadau);

(i)arolygydd sy’n cynnal arolygiadau o dan adran 161 o Ddeddf 2014 (arolygiadau mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol);

(j)person a gyflogir mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Plant 1989 (p.41) (arolygu cartrefi plant etc.);

(k)staff Llywodraeth Cymru sy’n arolygu mangreoedd o dan—

(i)adran 87 o Ddeddf Plant 1989 (lles plant sydd wedi eu lletya mewn ysgolion annibynnol a cholegau), neu

(ii)adran 40 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (arolygu gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru);

(l)person sy’n rheoli staff a grybwyllir ym mharagraff (j) neu (k).

(4)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon ystyr “gwaith cymdeithasol perthnasol” yw gwaith cymdeithasol sy’n ofynnol mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.

(5)Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “darparwr gwasanaeth” a “gofal a chymorth”.

Y gofrestr

80Y gofrestr

(1)Rhaid i GCC gadw cofrestr—

(a)o weithwyr cymdeithasol,

(b)o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ac

(c)o weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90).

(2)Rhaid cadw rhan ar wahân o’r gofrestr—

(a)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol;

(b)ar gyfer pob disgrifiad o weithiwr gofal cymdeithasol a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b);

(c)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.

(3)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—

(a)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” o’r gofrestr;

(b)mae rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(b) yn “rhan ychwanegol” o’r gofrestr;

(c)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(c) yw’r “rhan ymwelwyr Ewropeaidd” o’r gofrestr.

81Dyletswydd i benodi cofrestrydd

(1)Rhaid i GCC benodi cofrestrydd.

(2)Mae person a benodir yn gofrestrydd yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau sy’n briodol ym marn GCC; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch y lefelau tâl, pensiynau, lwfansau a threuliau sy’n daladwy i berson o’r fath neu mewn cysylltiad ag ef.

(3)Gweler paragraff 13 o Atodlen 2 am ddarpariaeth bellach ynghylch staff GCC.

Cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr

82Cais i gofrestru

(1)Mae cais i gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr i’w wneud i’r cofrestrydd.

(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu pob rhan o’r gofrestr y gwneir cais i gofrestru ynddi.

83Cofrestru

(1)Rhaid i’r cofrestrydd ganiatáu cais a wneir o dan adran 82 os yw wedi ei fodloni—

(a)bod y cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC,

(b)bod yr ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac

(c)bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru.

(2)Y gofynion cofrestru yw—

(a)bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol (gweler adran 84),

(b)nad oes unrhyw amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1), ac

(c)bod y person yn bwriadu ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.

(3)At ddibenion is-adran (2)(c) caiff GCC drwy reolau bennu—

(a)gweithgareddau sydd i’w hystyried fel ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan o’r gofrestr;

(b)y meini prawf i’w cymhwyso gan y cofrestrydd ar gyfer dyfarnu a yw person yn bwriadu ymarfer.

“Wedi ei gymhwyso’n briodol”

84“Wedi ei gymhwyso’n briodol”

At ddibenion adran 83 mae person wedi ei gymhwyso’n briodol—

(a)os yw’r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—

(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithwyr cymdeithasol,

(ii)yn bodloni gofynion adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru), neu

(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC eu gosod drwy reolau;

(b)os yw’r ymgeisydd, yn achos ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall—

(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw, neu

(ii)sy’n bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw.

85Cymwysterau a geir y tu allan i Gymru

(1)Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon os yw’r ymgeisydd yn berson esempt sydd, yn rhinwedd Rhan 3 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol, wedi ei ganiatáu i ddilyn proffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl, yn benodol, gwblhau unrhyw gyfnod addasu yn llwyddiannus, neu basio unrhyw brawf tueddfryd, y caiff fod yn ofynnol i’r ymgeisydd ei gwblhau yn unol â’r Rhan honno o’r Rheoliadau hynny).

(2)Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon—

(a)os yw’r ymgeisydd wedi gwneud hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol yn rhywle arall ac eithrio Cymru, a

(b)os, naill ai—

(i)cydnabyddir yr hyfforddiant hwnnw gan GCC fel hyfforddiant o safon sy’n ddigonol ar gyfer cofrestriad o’r fath, neu

(ii)na chydnabyddir yr hyfforddiant yn y fath fodd, ond bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol gan GCC (pa un a yw hynny yng Nghymru neu yn rhywle arall).

Adnewyddu cofrestriad yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr

86Adnewyddu cofrestriad

(1)Caiff GCC drwy reolau—

(a)darparu mai dim ond am gyfnod a bennir yn y rheolau y mae cofnod yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr yn cael effaith, a

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer adnewyddu cofnod o’r fath yn y gofrestr.

(2)Pan fo rheolau wedi eu gwneud o dan is-adran (1), rhaid i’r cofrestrydd, ar gais y person y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef, ganiatáu cais i adnewyddu—

(a)os yw’r cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir gan reolau a wneir gan GCC,

(b)os yw’r ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac

(c)os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion adnewyddu.

(3)Y gofynion adnewyddu yw—

(a)bod yr ymgeisydd wedi bodloni unrhyw ofynion i gyflawni hyfforddiant pellach a osodir gan reolau a wneir o dan adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus), a

(b)bod yr ymgeisydd yn bwriadu ymarfer y gwaith y mae ei gais am adnewyddu yn ymwneud ag ef.

(4)Caiff rheolau a wneir o dan adran 83(3) (meini prawf ar gyfer dyfarniadau’r cofrestrydd ynghylch bwriad ymgeisydd i ymarfer) gynnwys darpariaeth ynghylch dyfarniad cofrestrydd o dan is-adran (3)(b) o’r adran hon.

87Darfodiad cofrestriad

(1)Mae cofrestriad person yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr yn darfod ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan GCC mewn rheolau o dan adran 86(1)(a) os nad yw’r person wedi adnewyddu ei gofrestriad yn unol â rheolau a wneir gan GCC o dan adran 86(1)(b).

(2)Ond nid yw cofrestriad person yn darfod o dan is-adran (1) os yw is-adran (3) yn gymwys i’r person.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n ddarostyngedig i unrhyw achosion o dan Ran 6, gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2 o’r Rhan honno, sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer y gwaith y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef (“y gwaith perthnasol”);

(b)y gwneir penderfyniad mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol y caniateir i apêl gael ei gwneud yn ei erbyn o dan adran 158 (apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer);

(c)y mae gorchymyn cofrestru amodol mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);

(d)y mae gorchymyn atal dros dro mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);

(e)y mae gorchymyn interim mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 144 neu 147.

(4)Mae is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys i berson a ddisgrifir yn is-adran (3)(b)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn adran 158(3) ar gyfer gwneud apêl, neu

(b)pan fo apêl wedi ei gwneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw, pan ddyfernir ar yr apêl.

(5)Mae person y byddai ei gofrestriad yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr wedi darfod o dan is-adran (1) oni bai am is-adran (2) i’w drin fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (6), er gwaethaf bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.

(6)Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddibenion unrhyw achosion o dan Ran 6 (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer y gwaith perthnasol.

Ymdrin â cheisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu

88Rheolau ynghylch ceisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r cofrestrydd i ddyfarnu o dan adran 83 a oes amhariad ar addasrwydd person i ymarfer ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1).

(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais i gofrestru ddarparu gwybodaeth at ddiben dyfarniad y cofrestrydd;

(b)darparu bod yr wybodaeth i’w darparu i’r cofrestrydd drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y person sy’n gwneud y cais.

(3)Rhaid i GCC hefyd drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ymdrin—

(a)â cheisiadau ar gyfer cofrestru mewn rhan o’r gofrestr, a

(b)â cheisiadau ar gyfer adnewyddu, pan fo rheolau o dan adran 86 yn darparu ar gyfer adnewyddu cofnod yn y gofrestr.

(4)Caiff rheolau o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y mae rhaid cydnabod cais i gofrestru neu i adnewyddu cofrestriad ynddo;

(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu gan y cofrestrydd mewn ymateb i gais;

(c)y cyfnod y rhoddir hysbysiad o dan adran 89 ynddo;

(d)yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd ei gwneud yn ofynnol ei fod yn ei chael i ategu cais a’r weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ofyn am yr wybodaeth honno;

(e)yr amgylchiadau pan gaiff y cofrestrydd ddyfarnu nad yw cais wedi bod yn llwyddiannus ar y sail bod y person a wnaeth y cais wedi methu â darparu’r wybodaeth a oedd yn ofynnol gan y cofrestrydd o fewn cyfnod a bennir gan y cofrestrydd;

(f)yr amgylchiadau pan gaiff ffi ar gyfer cofrestru ac, os yw’n berthnasol, ar gyfer adnewyddu, ei chodi a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.

89Hysbysiad o benderfyniadau mewn cysylltiad â chofrestru neu adnewyddu

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—

(a)caniatáu cais i gofrestru, neu

(b)caniatáu cais i adnewyddu cofrestriad.

(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—

(a)gwrthod cais i gofrestru, neu

(b)gwrthod cais i adnewyddu cofrestriad person.

(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi i’r person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef hysbysiad—

(a)o’r penderfyniad,

(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)o’r hawl i apelio o dan adran 101.

Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad

90Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson esempt (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan V fudd rheoliad 8 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw V wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V).

(3)Mae hawlogaeth gan V i gael ei gofrestru yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr, a rhaid i’r cofrestrydd roi effaith i’r hawlogaeth.

(4)Os oes gan V hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae V i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.

(5)Mae hawlogaeth V o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw V yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad 17 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad 8 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.

(6)Os yw V wedi ei gofrestru yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu V oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth V o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).

(7)Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 o’r Rhan hon neu Ran 6 (addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr.

(8)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys ar y gofrestr

91Cynnwys y gofrestr

(1)Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos yr wybodaeth a ganlyn⁠—

(a)y dyddiad pan gofnodwyd y person ar y gofrestr;

(b)cymwysterau’r person i ymarfer gwaith o’r math y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef;

(c)unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall a ragnodir sy’n berthnasol i gofrestriad y person;

(d)unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer a ragnodir.

(2)Caiff GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd, neu ei awdurdodi i—

(a)cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr wybodaeth nad yw’n ofynnol yn rhinwedd is-adran (1);

(b)dileu o gofnod yn y gofrestr wybodaeth o fath a bennir yn y rheolau.

(3)Ni chaiff rheolau o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i gofrestrydd neu awdurdodi’r cofrestrydd i gofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.

Dileu cofnodion o’r gofrestr

92Dileu drwy gytundeb

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer dileu cofnod o ran o’r gofrestr ar gais y person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(2)Rhaid i reolau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan gaiff person wneud cais i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr;

(b)ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;

(c)y meini prawf y caniateir i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cais gael ei wneud drwy gyfeirio atynt;

(d)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad mewn cysylltiad â chais.

(3)Caiff y rheolau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC gyfeirio cais o dan yr adran hon at banel addasrwydd i ymarfer er mwyn dyfarnu arno.

93Marwolaeth person cofrestredig

(1)Pan fo person sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr wedi marw, rhaid i’r cofrestrydd o fewn y cyfnod penodedig ddileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw o’r gofrestr.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu drwy reolau a wneir gan GCC.

94Cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol

(1)Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod mewn rhan o’r gofrestr, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, caiff y cofrestrydd ddileu’r cofnod neu’r anodiad o’r gofrestr.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn meddwl—

(a)y gall cofnod, neu anodiad i gofnod, yn y gofrestr fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,

(b)y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, ac

(c)y gall fod angen gorchymyn interim er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

(3)Caiff y cofrestrydd atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim.

(4)Pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu dileu cofnod mewn cysylltiad â pherson o’r gofrestr o dan yr adran hon, rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r person—

(a)o’r penderfyniad,

(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)o’r hawl i apelio a roddir gan adran 101.

Adfer cofnod i’r gofrestr

95Dyletswydd i adfer cofnod ar gofrestr

Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei ddileu o’r gofrestr mewn camgymeriad, rhaid i’r cofrestrydd adfer y cofnod neu’r anodiad i’r gofrestr.

96Pŵer i adfer cofnod ar gofrestr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cofnod wedi ei ddileu o’r gofrestr o dan—

(a)adran 92 (dileu drwy gytundeb);

(b)adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol).

(2)Caiff y cofrestrydd, ar gais y person yr oedd y cofnod yn ymwneud ag ef, adfer y cofnod i’r gofrestr.

(3)Ni chaiff y cofrestrydd ganiatáu cais i adfer o dan yr adran hon ond os yw wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru a bennir yn adran 83(2).

(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r ymgeisydd o ran a yw ei gais wedi ei ganiatáu.

(5)Os nad yw’r cais i adfer wedi ei ganiatáu rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi i’r ymgeisydd hysbysiad—

(a)o’r rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r penderfyniad.

97Adfer yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn dileu o dan—

(a)adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad);

(b)adran 152(8)(e) (penderfyniadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);

(c)adran 153(9)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion cofrestru amodol);

(d)adran 154(8)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion atal dros dro).

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cofnod mewn cysylltiad â’r person gael ei adfer i’r gofrestr (ond gweler adran 98(4) am ddarpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff panel apelau cofrestru atal person rhag gwneud cais o’r fath).

(3)Ni chaiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef—

(a)gwneud cais i adfer cofnod cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn, neu

(b)gwneud mwy nag un cais i adfer cofnod i’r gofrestr o fewn cyfnod o 12 mis.

(4)Rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio cais a wneir o dan is-adran (2) i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno (gweler adran 98).

(5)Pan fo panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer)—

(a)caiff y person y rhoddir y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cyfarwyddyd gael ei adolygu, a

(b)rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio’r cais i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno.

(6)Ni chaiff person wneud cais o dan is-adran (5)(a)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd, neu

(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.

98Achosion adfer

(1)Pan fo’r cofrestrydd wedi atgyfeirio cais i adfer cofnod person (“P”) i ran o’r gofrestr i banel apelau cofrestru o dan adran 97(4), rhaid i’r panel—

(a)dyfarnu bod y cofnod mewn cysylltiad â P i gael ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr, neu

(b)dyfarnu na chaniateir i’r cofnod mewn cysylltiad â P gael ei adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o ddyfarniad y panel.

(3)Os yw’r panel yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(b) rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—

(a)o’i resymau dros wneud y dyfarniad, a

(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(4)Os yw—

(a)P wedi gwneud dau neu ragor o geisiadau o dan adran 97(2) i adfer i’r un rhan o’r gofrestr, a

(b)panel apelau cofrestru yn gwrthod, ar yr ail gais neu unrhyw gais dilynol, adfer i’r rhan honno o’r gofrestr o dan is-adran (1)(b),

caiff y panel gyfarwyddo na chaiff P wneud ceisiadau pellach o dan adran 97(2) i adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(5)Os yw’r panel apelau cofrestru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P—

(a)o’r cyfarwyddyd hwnnw, a

(b)o hawl P i apelio o dan adran 104.

(6)Os yw panel apelau cofrestru yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(a) rhaid i’r panel gyfarwyddo’r cofrestrydd i adfer cofnod P i’r gofrestr.

99Adolygu ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) mewn cysylltiad â P (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer), a

(b)atgyfeiriad i adolygu’r cyfarwyddyd wedi ei wneud gan y cofrestrydd o dan adran 97(5)(b).

(2)Rhaid i banel apelau cofrestru adolygu’r cyfarwyddyd, a chaiff ei gadarnhau neu ei ddirymu.

(3)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o benderfyniad y panel yn sgil adolygiad.

(4)Pan fo’r panel yn cadarnhau’r cyfarwyddyd, rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P⁠—

(a)o resymau’r panel dros gadarnhau’r cyfarwyddyd, a

(b)o’r hawl i apelio o dan adran 104.

100Rheolau ynghylch ceisiadau o dan adran 96 ac 97

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn mewn cysylltiad â chais—

(a)i adfer o dan adran 96 neu 97;

(b)i adolygu cyfarwyddyd a roddir o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o hawl i wneud cais i adfer).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ar ba ffurf ac ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu i ategu cais;

(c)y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo;

(d)y cyfnod y mae rhaid darparu ynddo unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei roi;

(e)yr amgylchiadau pan ganiateir i gais i adfer o dan adran 96 gael ei atgyfeirio i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno;

(f)y meini prawf y mae panel apelau cofrestru i gyfeirio atynt i ddyfarnu pa un a yw cofnod i gael ei adfer ai peidio neu a yw cyfarwyddyd i gael ei gadarnhau neu ei ddirymu;

(g)yr amgylchiadau pan godir ffi ar gyfer gwneud cais i adfer cofnod i’r gofrestr a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.

Apelau i banel apelau cofrestru

101Apelau yn erbyn penderfyniadau’r cofrestrydd

(1)Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—

(a)o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;

(b)o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;

(c)i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;

(d)o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.

(2)Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—

(a)â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,

(b)â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu

(c)â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.

102Apelau i’r panel apelau cofrestru: y weithdrefn

(1)Rhaid i apêl o dan adran 101 gael ei gwneud drwy roi hysbysiad apelio i’r cofrestrydd.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod perthnasol.

(3)Ond caiff y cofrestrydd ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rhesymau da dros fethu â rhoi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran rhoi hysbysiad ar ôl yr amser priodol).

(4)Yn is-adran (2) ystyr “diwrnod perthnasol” yw—

(a)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn is-adran 101(1)(a) neu (b), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 89,

(b)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(c), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 94, ac

(c)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(d), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 96.

103Penderfyniadau ar apêl i’r panel apelau cofrestru

Ar apêl o dan adran 101, caiff panel apelau cofrestru—

(a)cadarnhau penderfyniad y cofrestrydd,

(b)rhoi penderfyniad arall o fath y gallai’r cofrestrydd fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

(c)anfon yr achos yn ôl at y cofrestrydd i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r panel.

Apelau i’r tribiwnlys

104Apelau yn erbyn penderfyniadau panel apelau cofrestru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel apelau cofrestru—

(a)yn gwneud dyfarniad o dan adran 98(1)(b) na ddylai cofnod yn y gofrestr gael ei adfer am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)yn cyfarwyddo o dan adran 98(4) na chaiff person gyflwyno ceisiadau pellach i adfer i ran o’r gofrestr, neu’n cadarnhau cyfarwyddyd o’r fath o dan adran 99(2);

(c)yn gwneud dyfarniad mewn cysylltiad â chais i adfer a atgyfeirir iddo yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 100(2)(e) am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(d)yn gwneud dyfarniad o dan adran 103 mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd.

(2)Caiff y person y mae penderfyniad y panel yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y panel.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel fod wedi ei wneud yn lle penderfyniad y panel, neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

105Apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo GCC wedi gwneud penderfyniad—

(a)o dan reoliad 9(2) o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol o ran a yw person yn darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol, neu

(b)o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â phrawf tueddfryd, neu gyfnod addasu, mewn cysylltiad â pherson yn cael caniatâd, yn rhinwedd y Rhan honno, i gael mynediad at broffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw.

(2)Caiff y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl o dan is-adran (2) gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr hysbyswyd y person gan GCC am y penderfyniad.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai GCC fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

Hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth etc.

106Dyletswydd i hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth gofrestru

(1)Rhaid i GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr roi hysbysiad i’r cofrestrydd o newidiadau i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y newidiadau i roi hysbysiad yn eu cylch,

(b)ym mha fodd y mae rhaid rhoi hysbysiad a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny, ac

(c)canlyniadau methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys yn y rheolau (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).

107Ceisiadau am wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer

(1)Caiff GCC drwy reolau awdurdodi’r cofrestrydd i wneud cais am wybodaeth oddi wrth bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr sy’n ymwneud â’u haddasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ym mha fodd ac ar ba ffurf y mae cais i gael ei wneud;

(b)amlder y ceisiadau;

(c)yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd wneud cais amdani a’r wybodaeth na chaniateir i’r cofrestrydd wneud cais amdani;

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â chais (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).

Dyletswydd i gyhoeddi’r gofrestr etc.

108Cyhoeddi etc. y gofrestr

(1)Rhaid i GCC gyhoeddi’r gofrestr yn y modd, ac ar yr adegau, sy’n briodol yn ei farn ef.

(2)Rhaid i GCC gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol a wneir gan berson i gael copi o’r gofrestr neu ddarn ohoni.

109Cyhoeddi penderfyniadau penodol panel apelau cofrestru

(1)Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn—

(a)penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(1)(b) i beidio ag adfer person i’r gofrestr;

(b)penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(4) na chaiff person wneud ceisiadau pellach i adfer i’r gofrestr.

(2)Ond ni chaniateir i GCC gyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.

110Rhestr o bersonau sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr

(1)Rhaid i GCC gadw rhestr o’r personau y mae eu cofnodion yn y gofrestr wedi eu dileu o dan yr amgylchiadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn dileu a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer o dan—

(a)adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer), neu

(b)adran 152(8)(e), 153(9)(d) neu 154(8)(d) (gwaredu mewn achos adolygu yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(3)Ni chaniateir i gofnod gael ei wneud yn y rhestr sy’n ymwneud â pherson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu o’r fath hyd nes bod y penderfyniad wedi cymryd effaith o dan adran 141(5) neu 157(6) (yn ôl y digwydd).

(4)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer o dan—

(a)adran 135 (dileu o’r gofrestr ar sail gydsyniol), neu

(b)adran 152(2), 153(2), 154(2), neu 155(5) (gwaredu mewn achos adolygu).

(5)Pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn o’r fath ar gyfer dileu drwy gytundeb rhaid i’r rhestr roi manylion am y datganiad o ffeithiau y cytunwyd arno o dan adran 135(2) neu 150(2) (yn ôl y digwydd).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y rhestr;

(b)cyhoeddi’r rhestr neu wybodaeth benodedig o’r rhestr;

(c)yr amgylchiadau pan fo rhaid dileu cofnod sy’n ymwneud â pherson o’r rhestr.

Diogelu teitl “gweithiwr cymdeithasol” etc.

111Defnyddio teitl “gweithiwr cymdeithasol” etc.

(1)Mae’n drosedd i berson yng Nghymru nad yw wedi ei gofrestru mewn cofrestr berthnasol fel gweithiwr cymdeithasol—

(a)cymryd neu ddefnyddio teitl gweithiwr cymdeithasol,

(b)cymryd neu ddefnyddio unrhyw deitl neu ddisgrifiad sy’n ymhlygu cofrestriad fel gweithiwr cymdeithasol, neu

(c)esgus bod yn weithiwr cymdeithasol mewn unrhyw ffordd arall,

gyda’r bwriad o dwyllo person arall.

(2)Mae’n drosedd i berson yng Nghymru nad yw wedi ei gofrestru mewn cofrestr berthnasol fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir—

(a)cymryd neu ddefnyddio teitl y disgrifiad hwnnw o weithiwr gofal cymdeithasol,

(b)cymryd neu ddefnyddio unrhyw deitl neu ddisgrifiad sy’n ymhlygu cofrestriad fel gweithiwr gofal cymdeithasol o’r fath, neu

(c)esgus bod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r fath mewn unrhyw ffordd arall,

gyda’r bwriad o dwyllo person arall.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)At ddibenion yr adran hon mae cofrestr yn “cofrestr perthnasol” os yw’n gofrestr a gedwir gan—

(a)GCC,

(b)Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal,

(c)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(d)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (4) drwy reoliadau.

RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

112Codau ymarfer

(1)Rhaid i GCC lunio, a chyhoeddi o dro i dro, godau ymarfer sy’n pennu—

(a)safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol;

(b)safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.

(2)Caiff y codau wneud darpariaeth wahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o weithiwr gofal cymdeithasol.

(3)Caiff y codau hefyd bennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd (o fewn ystyr “approved mental health professional” yn adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)).

(4)Rhaid i GCC—

(a)cadw’r codau o dan adolygiad, a

(b)amrywio eu darpariaethau pa bryd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Pan honnir bod person sydd wedi ei gofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw safon sydd wedi ei chynnwys mewn cod a wneir o dan yr adran hon—

(a)nid yw’r methiant hwnnw, ynddo’i hun, i’w gymryd fel pe bai’n berfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu gamymddwyn difrifol at ddibenion adran 117 (addasrwydd i ymarfer), ond

(b)caniateir i’r methiant hwnnw gael ei ystyried mewn achosion o dan y Ddeddf hon sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer.

(6)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymddygiad unrhyw weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n eu cyflogi, os y’i cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i wneud hynny, ystyried unrhyw god a gyhoeddir gan GCC o dan yr adran hon.

113Datblygiad proffesiynol parhaus

(1)Caiff GCC wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr gyflawni hyfforddiant pellach.

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â phersonau sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheolau a wneir gan GCC o dan is-adran (1), gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeiriadau i banel addasrwydd i ymarfer.

(3)Mae is-adran (1), i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson (“P”) sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr yn unig, yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)O ran rheolau a wneir o dan is-adran (1)—

(a)ni chaniateir iddynt osod gofynion ar P os yw’n ofynnol i P gyflawni hyfforddiant pellach, yng Ngwladwriaeth gartref P, mewn perthynas â phroffesiwn gweithiwr cymdeithasol, ond

(b)pan fônt yn gosod gofynion ar P—

(i)rhaid iddynt ystyried y ffaith bod P yn weithiwr cymdeithasol cwbl gymwysedig yng Ngwladwriaeth gartref P, a

(ii)rhaid iddynt bennu y caniateir i’r hyfforddiant y mae’n ofynnol i P ei gyflawni gael ei gyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(5)Yn is-adran (4) ystyr “Gwladwriaeth gartref”, mewn perthynas â P, yw’r Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol lle y mae P wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol.

114Cymeradwyo cyrsiau etc.

(1)Caiff GCC, yn unol â rheolau a wneir ganddo—

(a)cymeradwyo cyrsiau mewn gwaith cymdeithasol perthnasol ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr;

(b)cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr;

(c)cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad nad yw wedi ei bennu yn adran 80(1) neu odani.

(2)Caiff cymeradwyaeth a roddir o dan yr adran hon fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol ym marn GCC.

(3)Caiff rheolau a wneir yn rhinwedd yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch cynnwys cyrsiau a’r dulliau ar gyfer cwblhau cyrsiau;

(b)o ran y ddarpariaeth o wybodaeth am gyrsiau i GCC;

(c)o ran y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau, neu rannau o gyrsiau a bennir yn y rheolau;

(d)o ran niferoedd y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau;

(e)o ran dyfarnu tystysgrifau gan GCC o gwblhau cyrsiau yn llwyddiannus;

(f)ynghylch darfodiad ac adnewyddiad cymeradwyaethau;

(g)ynghylch tynnu cymeradwyaethau yn ôl.

(4)Caiff GCC—

(a)cynnal, neu wneud trefniadau ar gyfer cynnal, archwiliadau mewn cysylltiad â chyrsiau a grybwyllir yn yr adran hon neu yn adran 116;

(b)gwneud gwaith ymchwil, neu helpu personau eraill i wneud gwaith ymchwil, i faterion sy’n berthnasol i hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.

(5)Ni chaniateir i gwrs gael ei gymeradwyo gan GCC o dan yr adran hon oni bai bod GCC yn meddwl y bydd y cwrs yn galluogi personau sy’n ei gwblhau i gyrraedd y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol.

(6)Yn is-adran (5) ystyr “y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol” yw’r safon a ddisgrifir mewn rheolau a wneir gan GCC.

(7)Rhaid i GCC gynnal a chyhoeddi rhestr o’r cyrsiau y mae wedi eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

115Arolygiadau mewn cysylltiad â chyrsiau penodol

(1)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer arolygu mannau lle y gwneir y canlynol neu ar gyfer arolygu sefydliadau y gwneir y canlynol ganddynt neu o dan eu cyfarwyddyd—

(a)y rhoddir, neu y bwriedir rhoi, unrhyw gwrs perthnasol (neu ran o gwrs o’r fath), neu

(b)y cynhelir unrhyw archwiliad, neu y bwriedir cynnal unrhyw archwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs perthnasol.

(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer penodi personau i gynnal arolygiadau (“arolygwyr”);

(b)i adroddiadau gael eu gwneud gan arolygwyr—

(i)ar natur ac ansawdd y cyfarwyddyd a roddir, neu sydd i’w roi, a’r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i’w darparu, yn y man neu gan y sefydliad yr ymwelir ag ef;

(ii)ar unrhyw faterion eraill a bennir yn y rheolau;

(c)i GCC dalu ffioedd, lwfansau a threuliau i bersonau a benodir yn arolygwyr;

(d)i bersonau o’r fath gael eu trin, at ddibenion Atodlen 2, fel aelodau o staff GCC.

(3)Yn is-adran (1) ystyr “cwrs perthnasol”, mewn perthynas â GCC, yw—

(a)unrhyw gwrs y rhoddwyd cymeradwyaeth ar ei gyfer gan GCC, neu y ceisir cymeradwyaeth o’r fath, o dan adran 114, neu

(b)unrhyw hyfforddiant y caiff fod yn ofynnol, yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 113(1), i berson sydd wedi ei dderbyn i ran o’r gofrestr ei gwblhau ar ôl cofrestru.

116Swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant

(1)Os ymddengys i GCC nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer hyfforddi personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad, caiff GCC ddarparu cyrsiau at y diben hwnnw neu sicrhau bod cyrsiau o’r fath yn cael eu darparu.

(2)Caiff GCC hefyd, ar unrhyw delerau ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)gwneud grantiau, a thalu lwfansau teithio a lwfansau eraill, i bersonau sy’n preswylio yng Nghymru er mwyn sicrhau eu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad;

(b)gwneud grantiau i sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.

RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 1SEILIAU AMHARIAD

117Addasrwydd i ymarfer

(1)Dim ond am un neu ragor o’r seiliau a ganlyn y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer at ddibenion y Rhan hon a Rhan 4—

(a)perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(b)camymddwyn difrifol (pa un ai fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu fel arall);

(c)cynnwys y person ar restr wahardd;

(d)dyfarniad gan gorff perthnasol i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;

(e)iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol;

(f)collfarn neu rybuddiad yn y Deyrnas Unedig am drosedd, neu gollfarn neu rybuddiad yn rhywle arall am dramgwydd a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a) caiff “perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol” gynnwys—

(a)achos o esgeuluster,

(b)torri ymgymeriad y cytunir arno â GCC o dan y Ddeddf hon, ac

(c)torri ymgymeriad y cytunir arno â phanel addasrwydd i ymarfer o dan y Ddeddf hon.

(3)Yn is-adran (1)(c) ystyr “rhestr wahardd” yw—

(a)rhestr a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47);

(b)rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14);

(c)rhestr a gynhelir o dan erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007 (O.S. 2007/1351).

(4)Yn is-adran (1)(d) ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;

(b)y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

(c)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban;

(d)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(e)corff y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau a fyddai, yng Nghymru, yn cael eu rheoleiddio gan GCC;

(f)corff rhagnodedig.

(5)Caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer oherwydd materion sy’n codi neu ddigwyddiadau sy’n digwydd—

(a)pa un ai y tu mewn neu y tu allan i Gymru;

(b)pa un a oedd y person wedi ei gofrestru ar y gofrestr ar y pryd ai peidio;

(c)pa un ai cyn neu ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) at ddiben ychwanegu, addasu neu ddileu sail amhariad.

PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.

118Atgyfeirio honiadau etc. o amhariad ar addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo honiad yn cael ei wneud i GCC bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, neu

(b)pan fo gan GCC reswm fel arall dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)O ran GCC—

(a)rhaid iddo atgyfeirio am ystyriaeth ragarweiniol y mater sy’n destun yr honiad neu ei reswm dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a

(b)caiff atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim (gweler Pennod 4).

119Ystyriaeth ragarweiniol

(1)Rhaid i’r person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater a atgyfeirir gan GCC atgyfeirio’r mater hwnnw i ymchwilio iddo o dan adran 125 oni bai—

(a)bod y person yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120, neu

(b)ei bod yn ofynnol i’r person drwy adran 121 atgyfeirio’r mater yn uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater atgyfeirio’r mater, ar unrhyw adeg, i banel gorchmynion interim (yn ychwanegol at wneud atgyfeiriad neu ddyfarniad o dan is-adran (1)).

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ragarweiniol a gaiff, yn benodol, ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—

(a)un neu ragor o bersonau a benodir at y diben hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys tâl) y mae GCC yn penderfynu arnynt;

(b)un neu ragor o aelodau o staff GCC.

(4)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—

(a)person sy’n aelod o—

(i)GCC,

(ii)y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;

(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;

(d)person rhagnodedig.

(5)Rhaid i GCC wneud unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn ef i hwyluso cydweithredu rhwng—

(a)person sydd wedi gwneud honiad bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, a

(b)y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r honiad.

120Cymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaen

(1)Mae mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen oni bai—

(a)bod y mater yn ymwneud ag ymddygiad neu ddigwyddiad a ddigwyddodd 5 mlynedd neu ragor cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes unrhyw un o’r eithriadau yn is-adran (4) yn gymwys,

(b)bod y person a benodir i roi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater yn meddwl bod yr honiad yn flinderus, neu

(c)pan fo honiad wedi ei wneud yn ddienw, neu gan berson sy’n methu â chydymffurfio â’r weithdrefn ystyriaeth ragarweiniol, na all y person a benodir i roi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater ei wirio.

(2)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at atgyfeirio ymlaen yn gyfeiriad at—

(a)atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(3)Yn is-adran (1)(a) ystyr “dyddiad perthnasol” yw—

(a)dyddiad yr honiad o dan adran 118(1)(a), neu

(b)pan na fo honiad wedi ei wneud o dan yr adran honno, y dyddiad y daeth GCC yn ymwybodol o’r mater yn gyntaf.

(4)At ddibenion is-adran (1)(a) yr eithriadau yw—

(a)bod y mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol;

(b)bod y mater yn ymwneud â chynnwys y person cofrestredig ar restr wahardd (fel y’i diffinnir yn adran 117);

(c)bod y mater yn ymwneud â dyfarniad gan gorff perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 117) i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer;

(d)bod y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i’r mater gael ei atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad.

(5)At ddibenion is-adran (4)(a) ac adran 121, trosedd berthnasol yw—

(a)yn achos collfarn gan lys yn y Deyrnas Unedig, trosedd y gosodwyd dedfryd o garchar, neu y gellid bod wedi gosod dedfryd o garchar, mewn cysylltiad â hi, neu

(b)yn achos collfarn gan lys yn rhywle arall, trosedd y gallai dedfryd o garchar fod wedi ei gosod mewn cysylltiad â hi, pe bai’r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru neu Loegr.

(6)Yn is-adran (5), mae i “dedfryd o garchar” yr ystyr a roddir i “custodial sentence” gan adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6).

121Atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer

Rhaid i berson sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater ei atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer—

(a)os yw’r mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol (gweler adran 120(5)), a

(b)o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir gan GCC mewn rheolau.

122Hysbysiad: anghymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaen

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120(1).

(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad o’r dyfarniad i’r personau perthnasol, oni bai bod GCC yn meddwl nad yw er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(3)At ddibenion is-adran (2) “y personau perthnasol” yw—

(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.

(4)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall nad yw mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen pan fo wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cynnwys hysbysiad o dan yr adran hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad.

123Hysbysiad: atgyfeirio ymlaen

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 ddod i ben, pan fo mater yn cael ei atgyfeirio—

(a)i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad—

(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef;

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad;

(c)i bob person y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(d)i bob person sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(e)i unrhyw bersonau eraill a ragnodir.

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad o dan is-adran (2).

(4)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cynnwys hysbysiad;

(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad;

(c)y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo.

124Hysbysiad: atgyfeirio i banel gorchmynion interim

Pan fo person yn atgyfeirio mater i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)(b) neu 119(2), o ran GCC—

(a)rhaid iddo roi hysbysiad o’r atgyfeirio—

(i)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(ii)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad, a

(b)caiff roi hysbysiad o’r atgyfeirio i unrhyw berson arall os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Ymchwilio

125Dyletswydd i ymchwilio

(1)Rhaid i GCC ymchwilio, neu wneud trefniadau ar gyfer ymchwilio, i fater a atgyfeirir o dan adran 119 mewn cysylltiad ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Caiff y person sy’n cynnal ymchwiliad o dan yr adran hon atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim ar unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad.

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau i’r person sy’n cynnal yr ymchwiliad;

(b)i aelod o staff GCC gynnal ymchwiliadau;

(c)ar gyfer penodi un neu ragor o unigolion at ddiben cynnal ymchwiliad;

(d)ar gyfer penodi personau i roi cynhorthwy mewn perthynas ag ymchwiliad.

(5)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ymchwiliad⁠—

(a)person sy’n aelod o—

(i)GCC,

(ii)y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;

(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;

(d)person rhagnodedig.

126Pwerau yn dilyn ymchwiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r ymchwiliad i fater sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer wedi dod i ben.

(2)Rhaid i GCC atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer os yw wedi ei fodloni—

(a)bod rhagolwg realistig i’r panel ddod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a

(b)ei bod er budd y cyhoedd i atgyfeirio’r mater.

(3)Pan na fo’r mater yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, caiff GCC—

(a)penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig;

(b)rhoi cyngor i’r person cofrestredig, neu i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad;

(c)dyroddi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol;

(d)cytuno â’r person cofrestredig y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ymgymeriadau sy’n briodol ym marn GCC;

(e)caniatáu cais o dan adran 92 gan y person cofrestredig i’w gofnod yn y gofrestr gael ei ddileu drwy gytundeb.

127Hysbysiad: atgyfeirio neu waredu

(1)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r personau a restrir yn is-adran (2)—

(a)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim o dan adran 125(2);

(b)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 126(2);

(c)o’r ffordd y mae’r mater wedi ei waredu o dan adran 126(3).

(2)Y personau yw—

(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.

(3)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall o’r atgyfeiriad neu’r gwarediad o fater o dan adran 126 os yw wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon roi’r rhesymau dros yr atgyfeiriad.

128Rhybuddion

(1)Pan fo GCC yn bwriadu dyroddi rhybudd i berson cofrestredig, rhaid i GCC—

(a)hysbysu’r person cofrestredig am ei fwriad, a

(b)hysbysu’r person hwnnw am yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar at ddiben dyfarnu pa un ai i roi rhybudd ai peidio.

(2)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y caniateir i gais am wrandawiad llafar gael ei wneud ynddo;

(b)y trefniadau a’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad llafar.

(3)Rhaid i GCC ganiatáu cais am wrandawiad llafar os gwneir y cais yn unol â gofynion rheolau a wneir o dan is-adran (2).

129Ymgymeriadau

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch cytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn os caiff ymgymeriad ei dorri;

(c)canlyniadau torri ymgymeriad;

(d)adolygiad cyfnodol o ofyniad i gydymffurfio ag ymgymeriad.

130Cyfryngu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, neu awdurdodi GCC drwy reolau i ddarparu, ar gyfer trefniadau i gynnal cyfryngu gydag unrhyw berson cofrestredig yr atgyfeirir mater ar gyfer ymchwiliad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 125.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, neu awdurdodi GCC drwy reolau i wneud darpariaeth, ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan ganiateir cynnal cyfryngu, a

(b)y trefniadau ar gyfer cynnal cyfryngu.

Adolygu

131Adolygu penderfyniadau gan GCC

(1)Rhaid i GCC adolygu penderfyniad y mae is-adran (2) yn gymwys iddo—

(a)os yw’n meddwl y gall fod diffyg perthnasol ar y penderfyniad, neu

(b)os yw’n meddwl y gall penderfyniad gwahanol fod wedi ei wneud ar sail gwybodaeth nad oedd ar gael pan wnaed y penderfyniad.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r penderfyniadau a ganlyn—

(a)penderfyniad i beidio ag atgyfeirio mater i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121 neu 126(2),

(b)penderfyniad i beidio ag atgyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125,

(c)penderfyniad i waredu achos ar ôl ymchwiliad o dan adran 126(3), a

(d)penderfyniad i atgyfeirio achos ar gyfer cyfryngu o dan reoliadau o dan adran 130.

(3)Ni chaiff GCC adolygu penderfyniad ar ôl diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad oni bai bod GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Pan fo GCC yn penderfynu adolygu penderfyniad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r partïon a chanddynt fuddiant—

(a)o’r penderfyniad i gynnal adolygiad, a

(b)o’r rhesymau dros gynnal adolygiad.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “partïon a chanddynt fuddiant” yw—

(a)y person cofrestredig y gwnaed y penderfyniad sy’n cael ei adolygu mewn cysylltiad ag ef,

(b)y person (os oes un) a wnaeth honiad y gwnaed y penderfyniad mewn cysylltiad ag ef, ac

(c)unrhyw berson arall y mae GCC yn meddwl bod ganddo fuddiant yn y penderfyniad.

(6)Yn sgil adolygiad o dan yr adran hon, caiff GCC—

(a)rhoi yn lle’r penderfyniad sy’n cael ei adolygu benderfyniad arall o fath a allai fod wedi ei wneud gan y penderfynwr gwreiddiol,

(b)atgyfeirio’r mater ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125, neu

(c)dyfarnu bod y penderfyniad yn sefyll.

(7)Rhaid i GCC roi hysbysiad o ganlyniad yr adolygiad i’r partïon a chanddynt fuddiant.

(8)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cynnal adolygiad o dan yr adran hon.

(9)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (8), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth gynnal adolygiad (gan gynnwys darpariaeth i’r partïon a chanddynt fuddiant gyflwyno sylwadau i GCC);

(b)cynnwys ac amseriad hysbysiadau sydd i’w rhoi o dan yr adran hon.

132Canslo atgyfeiriad i banel addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121 neu 126(2) neu i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)⁠(b), 119(2) neu 125(2) ac—

(a)nad yw GCC bellach yn meddwl bod rhagolwg realistig y bydd y panel yn dod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, neu

(b)bod GCC fel arall yn meddwl nad yw bellach yn briodol i’r person cofrestredig fod yn ddarostyngedig i achos addasrwydd i ymarfer o dan y Rhan hon.

(2)Caiff GCC—

(a)dyfarnu na chaiff y panel addasrwydd i ymarfer neu’r panel gorchmynion interim ddechrau achos neu barhau ag achos mewn cysylltiad â’r mater, neu

(b)dyfarnu na chaiff yr achos addasrwydd i ymarfer ddechrau neu barhau ond mewn cysylltiad ag unrhyw fanylion y mater y mae GCC yn eu pennu.

(3)Pan fo GCC yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2), caiff atgyfeirio’r mater, neu fanylion penodedig y mater, ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad o ddyfarniad o dan is-adran (2)—

(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef,

(b)pan fo honiad wedi ei wneud, i’r person a wnaeth yr honiad, ac

(c)i unrhyw berson y rhoddwyd hysbysiad o’r atgyfeirio iddo o dan adran 123(2)(c), (d) neu (e) neu 127(3).

(5)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.

(6)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon; yn benodol, darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud dyfarniad o dan is-adran (2), a

(b)cynnwys ac amseriad hysbysiad o dan is-adran (4).

133Atgyfeirio gan GCC ar gyfer achos adolygu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig—

(a)ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a GCC o dan adran 126(3)(d);

(b)ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a phanel addasrwydd i ymarfer o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7);

(c)gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);

(d)gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7).

(2)Os yw GCC yn meddwl ar unrhyw adeg ei bod yn ddymunol y dylai panel addasrwydd i ymarfer adolygu addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff GCC atgyfeirio’r achos i’r panel i gynnal adolygiad (gweler Pennod 5).

(3)Ond rhaid i GCC atgyfeirio achos i banel addasrwydd i ymarfer i gynnal adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig os oes gan GCC reswm dros gredu—

(a)pan fo’r person wedi cytuno ar ymgymeriad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)⁠(a) neu (b), fod y person wedi torri’r ymgymeriad, neu

(b)pan fo’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(c), fod y person wedi torri unrhyw amod o’r gorchymyn.

PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

134Cwmpas Pennod 3 a’i dehongli

(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â mater sydd wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer.

(2)Ond nid yw’n gymwys mewn cysylltiad ag achosion adolygu o dan adran 151 (ac eithrio i’r graddau y caniateir i reolau gael eu gwneud o dan adran 136(4) neu 137(6) ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir, neu rybuddion a roddir, yn sgil adolygiad a gynhelir o dan adran 151).

(3)Nid yw ychwaith yn gymwys mewn cysylltiad ag achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, na’r rhan honno o achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, pan fo’r panel hwnnw yn ystyried—

(a)pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu

(b)adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.

(4)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

135Dileu o’r gofrestr ar sail gydsyniol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)pan fo person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, a

(b)pan fo’r cais hwnnw wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 92(3).

(2)Ni chaiff y panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater y gwnaed yr atgyfeiriad a grybwyllir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef.

(3)Os gwneir gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb, caiff GCC—

(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd sy’n briodol ym marn GCC, a

(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

136Gwaredu cydsyniol arall gan banel addasrwydd i ymarfer: ymgymeriadau

(1)Caiff panel addasrwydd i ymarfer gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer.

(2)Rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo;

(d)a ragnodir.

(3)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.

(4)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt â phanel addasrwydd i ymarfer o dan yr adran hon; a chaiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch y materion a bennir yn adran 129(2) (y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau etc.).

(5)Caiff rheolau o dan is-adran (4) gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 138(4), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7).

137Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(3)Neu, caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—

(a)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (4);

(b)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (5).

(4)Caiff y panel roi cyngor ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r honiad o dan adran 118(1)(a) neu’r wybodaeth a arweiniodd at yr achos o dan adran 118(1)(b) (yn ôl y digwydd)—

(a)i’r person cofrestredig, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r achos.

(5)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(6)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi rhybudd o dan yr adran hon.

(7)Caiff rheolau o dan is-adran (6), yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad o rybudd arfaethedig i’r person cofrestredig, a

(b)sy’n caniatáu i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r rhybudd arfaethedig.

(8)Caiff rheolau o dan is-adran (6) hefyd gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â rhybudd a roddir o dan adran 138(6) neu yn sgil adolygiad o dan adran 152(3)(b)(ii), 153(3)(b)(ii), 154(3)(b)(ii) neu 155(6)(b)(ii).

138Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Rhaid i’r panel waredu’r mater mewn un o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (9).

(3)Caiff y panel wneud gorchymyn o dan adran 135(2) ar gyfer dileu cofnod y person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb.

(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig; yn yr achos hwnnw, mae adran 136(2) a (3) yn gymwys mewn cysylltiad ag ymgymeriadau o’r fath.

(5)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig.

(6)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(7)Caiff y panel wneud gorchymyn cofrestru amodol, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person.

(8)Caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro.

(9)Caiff y panel wneud gorchymyn dileu, sef gorchymyn ar gyfer dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig yn y gofrestr.

(10)Ond ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu os yr unig sail y mae wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer arni yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol.

139Gwarediadau: darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cofrestru amodol a gorchmynion atal dros dro

(1)Rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu—

(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a

(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(2)Caiff gorchymyn cofrestru amodol bennu—

(a)bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn;

(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i orchymyn atal dros dro bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na blwyddyn; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn.

140Gorchmynion effaith ar unwaith ar gyfer cofrestru amodol neu atal dros dro

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 138(7), (8) neu (9) (“y penderfyniad”).

(2)Caiff y panel addasrwydd i ymarfer—

(a)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr fod yn ddarostyngedig i’r amodau gydag effaith ar unwaith, neu

(b)yn achos gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr gael ei atal dros dro gydag effaith ar unwaith.

(3)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn o dan is-adran (2) (“gorchymyn effaith ar unwaith”) ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig bod gorchymyn effaith ar unwaith wedi ei wneud.

(5)Mae gorchymyn effaith ar unwaith yn cael effaith o’r dyddiad yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano—

(a)tan y dyddiad y mae’r penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag adran 141(5), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau.

141Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer: hysbysu a chymryd effaith

(1)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 135 i 138, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.

(2)Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad i’r person cofrestredig gynnwys—

(a)datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a

(b)canfyddiad y panel o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer.

(3)Mae penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 135, 136 neu 137 yn cymryd effaith ar unwaith.

(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9), rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 158.

(5)Nid yw penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9) yn cymryd effaith—

(a)tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu

(b)os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.

142Rheoliadau ynghylch gwarediadau gan baneli addasrwydd i ymarfer

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio adrannau 135 i 138 i ddiwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu mater addasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)ychwanegu pŵer gwaredu newydd at y pwerau a grybwyllir yn yr adrannau hynny, a gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r pŵer hwnnw;

(b)diwygio neu ddiddymu pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny;

(c)diwygio neu ddiddymu darpariaethau yn yr adrannau hynny sy’n gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny.

PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM

143Cwmpas Pennod 4 a’i dehongli

(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys—

(a)pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim, a

(b)pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, i’r achos gerbron y panel addasrwydd i ymarfer, neu’r rhan honno o’r achos hwnnw, pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried—

(i)pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu

(ii)adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.

(2)Yn y Bennod hon—

(3)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

144Gorchmynion interim

(1)Caiff panel mewn achos gorchymyn interim wneud gorchymyn interim mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(2)Caiff panel gorchmynion interim wneud gorchymyn interim pa un a yw’r mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer ai peidio.

(3)Pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, rhaid i unrhyw orchymyn interim gael ei wneud cyn i’r panel addasrwydd i ymarfer waredu’r mater yn unol ag unrhyw un neu ragor o adrannau 135 i 138.

(4)Y ddau fath o orchymyn interim yw—

(a)gorchymyn atal dros dro interim, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro;

(b)gorchymyn cofrestru amodol interim, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person cofrestredig.

(5)Ni chaiff panel wneud gorchymyn interim ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(6)O ran gorchymyn interim—

(a)mae’n cymryd effaith ar unwaith, a

(b)ni chaniateir iddo gael effaith am gyfnod sy’n hwy na 18 mis (oni bai ei fod yn cael ei estyn; gweler adran 148 (estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlys)).

(7)Pan fo gorchymyn interim yn cael ei wneud mewn cysylltiad â pherson cofrestredig, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person—

(a)o’r penderfyniad,

(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)o’r hawl i apelio o dan adran 145 yn erbyn y penderfyniad.

145Apelau yn erbyn gorchmynion interim

(1)Pan fo panel wedi gwneud gorchymyn interim o dan adran 144 mewn cysylltiad â pherson cofrestredig, caiff y person hwnnw apelio yn erbyn y gorchymyn i’r tribiwnlys.

(2)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 144(7).

(3)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(4)Ar apêl, caiff y tribiwnlys—

(a)dirymu’r gorchymyn interim,

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod,

(c)rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim,

(d)rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim,

(e)amrywio’r cyfnod y mae’r gorchymyn interim i gael effaith ar ei gyfer,

(f)anfon yr achos yn ôl i GCC er mwyn iddo ei waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys, neu

(g)peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn interim.

146Adolygiadau o orchmynion interim: amseriad

(1)Rhaid i banel adolygu’n gyntaf orchymyn interim a wneir o dan adran 144 o fewn chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

(2)Pan fo gorchymyn interim a wneir o dan adran 144 wedi ei amrywio neu ei amnewid gan y tribiwnlys ar apêl o dan adran 145, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y dyddiad y gwnaed y gorchymyn i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad penderfyniad y tribiwnlys.

(3)Mae is-adran (4) yn nodi amseriad yr adolygiad cyntaf o orchymyn interim ar ôl i’r tribiwnlys ei estyn neu ei estyn ymhellach (gweler adran 148), ac ystyr “penderfyniad y tribiwnlys” yw’r penderfyniad i estyn y gorchymyn neu i estyn y gorchymyn ymhellach (yn ôl y digwydd).

(4)Rhaid i banel adolygu’r gorchymyn interim—

(a)os nad oedd unrhyw adolygiad o’r gorchymyn wedi digwydd cyn penderfyniad y tribiwnlys, o fewn chwe mis sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y tribiwnlys, neu

(b)os oedd adolygiad o’r gorchymyn wedi digwydd cyn penderfyniad y tribiwnlys, o fewn tri mis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(5)Mae is-adran (6) yn nodi amseriad yr adolygiad cyntaf o orchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol yn sgil adolygiad (“y gorchymyn amnewidiol”) (gweler adran 147(1)(c) a (d)).

(6)Rhaid i banel adolygu’r gorchymyn amnewidiol—

(a)os nad oedd unrhyw adolygiad o’r gorchymyn sydd wedi ei amnewid wedi digwydd cyn yr adolygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn amnewidiol, o fewn chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn amnewidiol, neu

(b)os oedd adolygiad o’r gorchymyn sydd wedi ei amnewid wedi digwydd cyn yr adolygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn amnewidiol, o fewn tri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn amnewidiol.

(7)Ar ôl yr adolygiad cyntaf o orchymyn interim o dan is-adran (1), (4) neu (6), rhaid i banel adolygu’r gorchymyn (am gyhyd ag y mae mewn grym)—

(a)o fewn chwe mis sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad yr adolygiad diweddaraf, neu

(b)os yw’r person cofrestredig yn gofyn am adolygiad cynharach ar ôl diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8)Caiff panel adolygu gorchymyn interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.

(9)Mewn is-adrannau (7) ac (8), mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at⁠—

(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys,

(b)gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac

(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.

147Adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posibl

(1)Ar ôl i banel gwblhau adolygiad o orchymyn interim, caiff y panel—

(a)dirymu’r gorchymyn interim;

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod;

(c)rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim;

(d)rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim;

(e)peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r gorchymyn interim.

(2)Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(b), (c), (d) neu (e) ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(3)Mae gorchymyn amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d) yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y gorchymyn y mae’n cymryd ei le yn cael effaith ar ei gyfer (oni bai ei fod yn cael ei estyn o dan adran 148).

(4)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d);

(b)mae cyfeiriad at orchymyn cofrestru amodol interim neu orchymyn atal dros dro interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)gorchymyn interim o’r math hwnnw fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)gorchymyn amnewidiol o’r math hwnnw a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d).

148Estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlys

(1)Caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys i orchymyn interim gael ei estyn neu ei estyn ymhellach.

(2)Ar gais, caiff y tribiwnlys—

(a)dirymu’r gorchymyn interim,

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, dirymu neu amrywio unrhyw amod,

(c)estyn, neu estyn ymhellach, y gorchymyn am hyd at 12 mis, neu

(d)peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn nac i’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.

(3)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach o dan yr adran hon,

(b)gorchymyn interim a amrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac

(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(c) neu (d)).

149Dirymu gorchmynion interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)bo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu mater mewn cysylltiad â pherson cofrestredig mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a nodir yn adrannau 135 i 138, a

(b)ar yr adeg honno, fo’r person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn interim (gweler adran 144).

(2)Rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer, ar yr un pryd ag y mae’n gwaredu’r mater, ddirymu’r gorchymyn interim.

(3)Mae’r dirymiad o’r gorchymyn interim yn cymryd effaith ar y dyddiad y mae’r panel yn gwaredu’r mater fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(a).

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol (gweler adrannau 147 a 148)—

(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(b)gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad;

(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.

PENNOD 5ACHOSION ADOLYGU

150Achosion adolygu: dehongli a chyffredinol

(1)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae ei addasrwydd i ymarfer yn ddarostyngedig i adolygiad o dan adran 151.

(2)Ni chaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn ar gyfer dileu cofnod person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 152(2), 153(2), 154(2) neu 155(5) ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater.

(3)Os gwneir gorchymyn o’r fath o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny, caiff GCC—

(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd y mae’n meddwl ei fod yn briodol, a

(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn cytuno ar ymgymeriadau neu’n eu cadarnhau, neu’n cytuno ar unrhyw amrywiad o ymgymeriadau, o dan adran 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7), rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC,

(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol,

(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo, a

(d)a ragnodir.

(5)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.

151Achosion adolygu

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng panel addasrwydd i ymarfer a pherson cofrestredig o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn cael effaith.

(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn yr ymgymeriadau hynny.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(4)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn cofrestru amodol.

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(6)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn atal dros dro.

(7)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer hefyd gynnal adolygiad o addasrwydd person cofrestredig i ymarfer mewn achos y mae GCC yn ei atgyfeirio iddo o dan adran 133.

152Adolygu ymgymeriadau: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(2) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sydd wedi cytuno ar ymgymeriadau.

(2)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r ymgymeriadau, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)Os yw’r person cofrestredig yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, caiff y panel wneud gwarediad a bennir yn is-adran (5) neu (6).

(5)Caiff y panel gytuno â’r person cofrestredig fod yr ymgymeriadau yn parhau i gael effaith heb unrhyw amrywiadau.

(6)Caiff y panel gytuno â’r person cofrestredig y caniateir i’r naill neu’r llall neu’r ddau o’r amrywiadau a ganlyn gael eu gwneud i unrhyw ymgymeriad—

(a)amrywio ei delerau;

(b)estyn neu leihau’r cyfnod y mae i gael effaith ar ei gyfer.

(7)O dan is-adran (6)(b), ni chaiff estyniad o’r cyfnod y mae unrhyw ymgymeriad i gael effaith ar ei gyfer fod am fwy na 3 blynedd.

(8)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff y panel ddirymu’r ymgymeriadau a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)gwneud gorchymyn cofrestru amodol,

(d)gwneud gorchymyn atal dros dro, neu

(e)yn ddarostyngedig i is-adran (9), gwneud gorchymyn dileu.

(9)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

153Adolygu gorchmynion cofrestru amodol: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(4) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol.

(2)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn cofrestru amodol, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(5)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adrannau (6), (7) neu (9).

(6)Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn cofrestru amodol heb unrhyw amrywiadau.

(7)Caiff y panel wneud unrhyw un neu ragor neu’r cwbl o’r canlynol mewn cysylltiad â’r gorchymyn cofrestru amodol—

(a)dirymu unrhyw amod;

(b)amrywio unrhyw amod;

(c)estyn neu leihau’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.

(8)O dan is-adran (7)(c) ni chaiff estyniad o’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer fod am fwy na 3 blynedd.

(9)Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn cofrestru amodol a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)gwneud gorchymyn atal dros dro, neu

(d)yn ddarostyngedig i is-adran (10), gwneud gorchymyn dileu.

(10)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

154Adolygu gorchmynion atal dros dro: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(6) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro.

(2)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i‘r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(5)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adrannau (6), (7), (8) neu (10).

(6)Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro heb unrhyw amrywiadau.

(7)Caiff y panel—

(a)estyn y cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro i gael effaith ar ei gyfer am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis, neu

(b)lleihau’r cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro i gael effaith ar ei gyfer.

(8)Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)gwneud gorchymyn cofrestru amodol, neu

(d)gwneud gorchymyn dileu.

(9)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

(10)Os yw’r amodau yn is-adran (11) wedi eu bodloni, caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro amhenodol, sef gorchymyn sy’n atal dros dro gofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr am gyfnod amhenodol.

(11)Yr amodau yw—

(a)bod y panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall a bennir yn adran 117,

(b)bod y person, ar ddyddiad penderfyniad y panel, wedi ei atal dros dro am o leiaf 2 flynedd, ac

(c)bod y gorchymyn atal dros dro y mae’r person yn ddarostyngedig iddo i fod i ddod i ben o fewn 2 fis i ddyddiad penderfyniad y panel.

155Adolygu gorchmynion atal dros dro amhenodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn atal dros dro amhenodol.

(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol ar gais y person cofrestredig.

(3)Ni chaiff y person cofrestredig wneud cais am adolygiad—

(a)cyn i’r cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn ddod i ben, neu

(b)o fewn y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.

(4)Mae’r is-adrannau a ganlyn yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan is-adran (2).

(5)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(6)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(7)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(8)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adran (9) neu (10).

(9)Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro amhenodol.

(10)Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol, neu

(c)gwneud gorchymyn cofrestru amodol.

156Adolygiadau: darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cofrestru amodol a gorchmynion atal dros dro

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys i orchymyn cofrestru amodol a wneir o dan adran 152(8)(c), 154(8)(c) neu 155(10)(c).

(2)Rhaid i’r gorchymyn bennu—

(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a

(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(3)Caiff y gorchymyn bennu—

(a)bod rhaid ei adolygu yn unol â threfniadau a bennir yn y gorchymyn;

(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (2)(b).

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 152(8)(d) neu 153(9)(c).

(5)Rhaid i’r gorchymyn bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(6)Caiff y gorchymyn bennu bod rhaid ei adolygu yn unol â threfniadau a bennir yn y gorchymyn.

157Penderfyniadau mewn achosion adolygu: hysbysu a chymryd effaith

(1)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 152 i 155, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.

(2)Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad a roddir i’r person cofrestredig gynnwys—

(a)datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a

(b)rhesymau’r panel dros ei ganfyddiad.

(3)Mae penderfyniad i waredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 152 i 155, ac eithrio’r gwarediadau hynny a bennir yn is-adran (4), yn cymryd effaith ar unwaith.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn—

(a)adran 152(8),

(b)adran 153(6), (7) neu (9),

(c)adran 154(6), (7), (8) neu (10), neu

(d)adran 155(9) neu (10).

(5)Rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio o dan adran 158 yn erbyn y penderfyniad.

(6)Nid yw penderfyniad i waredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn is-adran (4) yn cymryd effaith—

(a)tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu

(b)os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys—

(a)pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c), a

(b)pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 153(6), (7) neu (9)(c) neu (d) (“y penderfyniad”).

(8)Mae cofrestriad amodol y person cofrestredig o dan y gorchymyn fel y’i crybwyllir yn is-adran (7)(a) yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes bod y penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag is-adran (6), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau,

er gwaethaf y ffaith y byddai’r cofrestriad amodol, pe na bai am yr is-adran hon, yn peidio â chael effaith cyn y dyddiad hwnnw.

(9)Pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol fel y’i crybwyllir yn is-adran (7)(a) a bod panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu drwy estyn cyfnod y gorchymyn cofrestru amodol o dan adran 153(7)(c) mae’r cyfnod estynedig hwnnw o gofrestriad amodol i gael ei drin fel pe bai wedi dechrau ar y dyddiad y byddai’r cyfnod blaenorol o gofrestriad amodol, pe na bai am is-adran (8), wedi peidio â chael effaith.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys—

(a)pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7), neu orchymyn atal dros dro amhenodol o dan adran 154(10) neu 155(9), a

(b)pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 154(6), (7), (8)(c) neu (d) neu (10) neu 155(10)(c) (“y penderfyniad”).

(11)Mae ataliad dros dro’r person cofrestredig o dan y gorchymyn fel y’i crybwyllir yn is-adran (10)(a) yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes bod y penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag is-adran (6), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau,

er gwaethaf y ffaith y byddai’r ataliad dros dro, pe na bai am yr is-adran hon, yn peidio â chael effaith cyn y dyddiad hwnnw.

(12)Pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7) a bod panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu drwy estyn cyfnod y gorchymyn atal dros dro o dan adran 154(7)(a) mae’r cyfnod estynedig hwnnw o ataliad dros dro i gael ei drin fel pe bai wedi dechrau ar y dyddiad y byddai’r cyfnod blaenorol o ataliad dros dro, pe na bai am is-adran (11), wedi peidio â chael effaith.

PENNOD 6APELAU AC ATGYFEIRIADAU I’R TRIBIWNLYS

158Apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer—

(a)ar ôl dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer (“canfyddiad o amhariad”), yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach o dan adran 138(5);

(b)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn rhoi rhybudd o dan adran 138(6);

(c)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn cofrestru amodol o dan adran 138(7);

(d)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn atal dros dro o dan adran 138(8);

(e)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn dileu o dan adran 138(9);

(f)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 152(8) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);

(g)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 153(6), (7) neu (9) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn cofrestru amodol);

(h)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 154(6), (7), (8) neu (10) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro);

(i)yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 155(9) neu (10) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro amhenodol).

(2)Caiff y person y gwnaed penderfyniad o fath a restrir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl gael ei dwyn o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad i’r person o dan sylw.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel addasrwydd i ymarfer fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

PENNOD 7CYFFREDINOL AC ATODOL

159Datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer

Caiff GCC gyhoeddi neu ddatgelu i unrhyw berson wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer os yw’n meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

160Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu

(1)At ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i⁠—

(a)person cofrestredig, neu

(b)unrhyw berson arall (ac eithrio un o Weinidogion y Goron),

y mae GCC yn meddwl ei fod yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ymddangos ei bod yn berthnasol i arfer unrhyw swyddogaeth o’r fath, gyflenwi’r wybodaeth honno neu gyflwyno’r ddogfen honno.

(2)Caiff GCC, yn benodol, ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig yr ymchwilir i’w addasrwydd i ymarfer, ddarparu manylion unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo;

(b)sydd â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu sy’n caniatáu, unrhyw ddatgeliad o wybodaeth a waherddir drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Ond pan fo gwybodaeth yn cael ei chadw ar ffurf y mae’r gwaharddiad yn gweithredu ynddi oherwydd bod yr wybodaeth yn gallu golygu bod modd adnabod unigolyn, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi ar ffurf nad yw’n gallu golygu bod modd adnabod yr unigolyn hwnnw.

(5)Os yw person yn methu â chyflenwi unrhyw wybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen o fewn 14 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y mae GCC yn ei bennu, i’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person wneud hynny o dan yr adran hon, caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei chyflenwi neu i’r ddogfen gael ei chyflwyno.

161Cyhoeddi penderfyniadau addasrwydd i ymarfer

(1)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136.

(2)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 137 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o ddim amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(3)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 138 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(4)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achosion adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.

(5)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140.

(6)Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer—

(a)penderfyniad i wneud gorchymyn interim o dan adran 144;

(b)penderfyniad i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim yn sgil adolygiad o dan adran 147.

(7)Rhaid i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud—

(a)i ddyroddi rhybudd o dan adran 126(3)(c) (pwerau GCC pan na fo’r achos yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer),

(b)i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d), neu

(c)i ganiatáu cais i ddileu cofnod o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 126(3)(e).

(8)Mae is-adrannau (1) i (7) yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) a (10).

(9)Nid yw’n ofynnol i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 137(2), 138(5), 152(8)(a), 153(9)(a), 154(8)(a) neu 155(10)(a); ond caiff wneud hynny.

(10)Rhaid i GCC beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.

162Canllawiau ynghylch addasrwydd i ymarfer

(1)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wneud neu gadarnhau gorchymyn interim o dan Bennod 4.

(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Bennod 4.

(3)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)cyrraedd gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136;

(b)rhoi cyngor neu rybudd o dan adran 137;

(c)gwaredu unrhyw fater mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adran 138(3) i (9);

(d)gwneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140;

(e)gwaredu mater yn sgil adolygiad mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.

(4)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)ymgymeriadau penodol, neu fathau penodol o ymgymeriadau, y caniateir i banel addasrwydd i ymarfer gytuno arnynt, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cytuno ar yr ymgymeriadau hynny;

(b)amodau penodol, neu fathau penodol o amodau, y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn cofrestru amodol, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cynnwys yr amodau hynny;

(c)y cyfnod o amser y dylai unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael effaith ar ei gyfer⁠—

(i)ymgymeriadau;

(ii)amodau a gynhwysir mewn gorchymyn cofrestru amodol;

(iii)gorchymyn atal dros dro.

(5)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau y mae’n meddwl y dylid eu hystyried wrth ddyfarnu pa un a oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol ai peidio.

(6)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adrannau (3) i (5) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon.

163Atal dros dro: atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â pherson sy’n ddarostyngedig—

(a)i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 138(8) (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);

(b)i orchymyn atal dros dro a wneir, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7);

(c)i orchymyn atal dros dro amhenodol a wneir neu a gadarnheir yn sgil adolygiad o dan adran 154(10) neu 155(9);

(d)i orchymyn atal dros dro interim a wneir, a gadarnheir neu a amrywir o dan adran 144 neu 147.

(2)Mae’r person i’w drin at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (3) fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y gofrestr er gwaethaf y ffaith bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.

(3)Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddiben—

(a)unrhyw achosion o dan y Rhan hon (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)cais a wneir o dan reolau o dan adran 92 i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr drwy gytundeb;

(c)achosion o dan adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol) sy’n ymwneud â chofnod mewn rhan o’r gofrestr.

164Ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6

Yn y Rhan hon, ystyr “person cofrestredig” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol, mewn rhan ychwanegol neu yn y rhan ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr; ac mae’n cynnwys person—

(a)y byddai ei gofrestriad wedi darfod o dan adran 87(1) oni bai am y ffaith bod is-adran (2) o’r adran honno yn gymwys i’r person;

(b)y mae gorchymyn atal dros dro yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);

(c)y mae gorchymyn atal dros dro interim yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 144 neu 147.

RHAN 7GORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG

165Dynodi gweithgaredd rheoleiddiedig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)dynodi gweithgaredd y mae is-adran (2) yn gymwys iddo fel gweithgaredd rheoleiddiedig at ddibenion y Rhan hon, a

(b)awdurdodi i orchmynion gwahardd gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r gweithgaredd rheoleiddiedig.

(2)Y gweithgareddau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad rhagnodedig;

(b)cyflawni gweithgaredd rhagnodedig fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(c)y defnydd gan unigolyn o deitl rhagnodedig sy’n ymwneud â gweithgaredd o fewn paragraff (a) neu (b).

(3)Yn is-adran (2) nid yw’r cyfeiriadau at “gweithiwr gofal cymdeithasol” yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)gweithiwr cymdeithasol, neu

(b)gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad a bennir am y tro drwy reoliadau o dan adran 80(1)(b) (disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae GCC yn cadw rhan ychwanegol o’r gofrestr mewn cysylltiad â hwy).

(4)Yn y Rhan hon ystyr “gorchymyn gwahardd” yw gorchymyn a wneir gan panel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

166Amodau ar gyfer gwneud gorchymyn gwahardd

(1)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 165 ragnodi’r amgylchiadau pan gaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn gwahardd.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd mewn cysylltiad â pherson oni bai bod un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)bod y person wedi ei gollfarnu o drosedd o fath rhagnodedig;

(b)bod y person wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd o fath rhagnodedig;

(c)bod y person wedi ei gynnwys ar restr wahardd;

(d)bod corff perthnasol wedi gwneud dyfarniad i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;

(e)bod y panel wedi ei fodloni bod y person wedi methu â chyrraedd unrhyw safon ymddygiad a bennir o dan adran 173;

(f)bod y panel yn meddwl bod gwneud y gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.

(3)Yn is-adran (2) mae i “corff perthnasol” a “rhestr wahardd” yr un ystyr ag yn adran 117 (seiliau amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

167Gorchmynion gwahardd interim

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 165 awdurdodi i orchmynion gwahardd interim gael eu gwneud.

(2)Mae gorchymyn gwahardd interim yn orchymyn a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i wneud gorchymyn gwahardd ai peidio.

(3)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd interim oni bai ei fod yn meddwl bod gwneud gorchymyn ar frys yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.

168Gorchmynion gwahardd: darpariaeth atodol

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth o ran yr amser pan fydd gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch yr adolygiad o orchymyn gwahardd gan banel addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys—

(i)yr amgylchiadau y caniateir i orchymyn gwahardd gael ei adolygu odanynt,

(ii)y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am adolygiad,

(iii)amseriad adolygiad, a

(iv)pwerau’r panel mewn adolygiad (gan gynnwys pŵer i neilltuo’r gorchymyn gwahardd);

(c)ei gwneud yn ofynnol i GCC gyhoeddi gwybodaeth ragnodedig ynghylch dyfarniadau a wneir gan baneli addasrwydd i ymarfer mewn cysylltiad â gorchmynion gwahardd a gorchmynion gwahardd interim;

(d)ei gwneud yn ofynnol i GCC roi gwybodaeth ragnodedig o’r fath ar gael—

(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu

(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.

169Gorchmynion gwahardd interim: adolygu

(1)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)os yw’r person y gwneir y gorchymyn mewn cysylltiad ag ef yn gofyn am adolygiad, a

(b)os gofynnir am yr adolygiad heb fod yn gynharach na 3 mis ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

(2)Os adolygir gorchymyn gwahardd interim o dan is-adran (1), rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn o fewn pob cyfnod dilynol o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad o dan yr is-adran honno.

(3)Caiff panel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.

(4)Yn dilyn adolygiad, caiff y panel neilltuo gorchymyn gwahardd interim.

170Apelau

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 165 ddarparu ar gyfer hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn⁠—

(a)gorchymyn gwahardd;

(b)penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd mewn adolygiad;

(c)penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd interim mewn adolygiad.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth o ran—

(a)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei gwneud ynddo;

(b)ar ba seiliau y caniateir i apêl gael ei gwneud;

(c)y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl;

(d)pwerau’r tribiwnlys ar apêl.

171Troseddau

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â—

(a)gorchymyn gwahardd, neu

(b)gorchymyn gwahardd interim.

(2)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau greu troseddau diannod sy’n ymwneud â chyflogi neu benodi person i wneud unrhyw beth y gwaherddir y person rhag ei wneud drwy—

(a)gorchymyn gwahardd, neu

(b)gorchymyn gwahardd interim.

(4)Ni chaiff rheoliadau sy’n creu trosedd ddarparu i’r drosedd fod yn drosedd y gellir ei chosbi ac eithrio drwy ddirwy (pa un a yw’r ddirwy yn ddirwy ddiderfyn neu’n ddirwy nad yw’n fwy na lefel benodedig ar y raddfa safonol).

Darpariaeth atodol

172Rhestr o bersonau sydd wedi eu gwahardd

(1)Rhaid i GCC sefydlu a chynnal rhestr o bersonau y mae gorchymyn gwahardd neu orchymyn gwahardd interim yn cael effaith mewn cysylltiad â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y rhestr;

(b)pa un a yw’r rhestr, neu wybodaeth benodedig o’r rhestr, i’w chyhoeddi ai peidio;

(c)rhoi’r rhestr ar gael—

(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu

(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.

173Safonau ymddygiad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i GCC benderfynu ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth berson sy’n cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.

(2)O ran GCC—

(a)rhaid iddo gadw’r safonau o dan adolygiad, a

(b)caiff newid neu ddisodli’r safonau.

(3)Rhaid i GCC gyhoeddi—

(a)y safonau, a

(b)os caiff y safonau eu newid neu eu disodli, y safonau sydd wedi eu newid neu’r safonau newydd.

(4)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ar y safonau.

(5)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (4), yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch y meini prawf y penderfynir ar y safonau drwy gyfeirio atynt;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cadw’r safonau o dan adolygiad.

RHAN 8GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU: DYLETSWYDD I SEFYDLU PANELI ETC.

174Dyletswydd i sefydlu paneli etc.

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth bod—

(a)paneli i wneud dyfarniadau o dan Ran 4 mewn perthynas â chofrestru cychwynnol yn y gofrestr, aros arni ac adfer personau iddi (“paneli apelau cofrestru”),

(b)paneli i wneud dyfarniadau mewn perthynas ag addasrwydd personau sydd wedi eu cofrestru yn y gofrestr i ymarfer fel gweithwyr gofal cymdeithasol (“paneli addasrwydd i ymarfer”), ac

(c)paneli i atal dros dro gofrestriad person yn y gofrestr neu i atodi amodau i’w gofrestriad wrth aros am ddyfarniad gan baneli o’r math a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) (“paneli gorchmynion interim”).

(2)Rhaid i banel a sefydlir yn rhinwedd is-adran (1) gael o leiaf 3 aelod, gan gynnwys aelod a benodir i gadeirio’r panel.

(3)Rhaid i’r aelodau fod yn unigolion.

(4)Rhaid i aelodaeth panel gael mwyafrif o bersonau nad ydynt wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr ac nad ydynt erioed wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran ohoni.

(5)Ni chaniateir i’r personau a ganlyn fod yn aelodau o banel—

(a)person sy’n aelod neu’n aelod o staff—

(i)GCC,

(ii)Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person rhagnodedig.

(6)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)penodi personau yn aelodau o banel (gan gynnwys, yn ddarostyngedig i is-adran (2), nifer y personau y caniateir iddynt gael eu penodi neu y mae rhaid eu penodi);

(b)y cworwm ar gyfer arfer swyddogaethau’r paneli;

(c)tymor swydd person fel aelod neu gadeirydd panel;

(d)y seiliau ar gyfer atal aelod o’i swydd dros dro neu ei symud o’i swydd.

(7)Rhaid i GCC hefyd drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)datgan a chofrestru buddiannau preifat aelodau paneli;

(b)cyhoeddi cofnodion a gofnodwyd yn y gofrestr o fuddiannau aelodau.

(8)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth arall ynghylch cyfansoddiad a gweithrediad paneli; ond mae unrhyw reolau yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 175 (rheoliadau ynghylch achosion panel).

(9)Yn benodol, caiff rheolau o dan is-adran (8) ddarparu ar gyfer—

(a)penodi cynghorwyr cyfreithiol neu gynghorwyr eraill;

(b)penodi aseswyr neu archwilwyr;

(c)categorïau o berson y caniateir iddynt gael eu penodi i gadeirio paneli;

(d)ffioedd, treuliau neu daliadau eraill sydd i’w gwneud gan GCC i unrhyw aelod o banel.

175Achosion gerbron paneli

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn eu barn hwy ar gyfer achosion ac mewn cysylltiad ag achosion sydd wedi eu dwyn o dan y Ddeddf hon gerbron—

(a)paneli apelau cofrestru;

(b)paneli gorchmynion interim;

(c)paneli addasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y rheoliadau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag achosion o’r fath.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i berson roi tystiolaeth neu gyflwyno dogfen neu dystiolaeth berthnasol arall na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei chyflwyno mewn achosion sifil mewn llys yng Nghymru a Lloegr.

(4)Safon y prawf sy’n gymwys i’r achosion a grybwyllir yn is-adran (1) yw’r un sy’n gymwys i achosion sifil.

RHAN 9CYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.

176Y cyrff rheoleiddiol

Yn y Rhan hon—

(a)y cyrff rheoleiddiol yw—

(i)Gweinidogion Cymru, a

(ii)GCC;

(b)ystyr “swyddogaethau perthnasol” yw—

(i)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, eu swyddogaethau rheoleiddiol;

(ii)mewn perthynas â GCC, ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;

(c)ystyr “amcanion cyffredinol” yw—

(i)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yr amcanion a grybwyllir yn adran 4;

(ii)mewn perthynas â GCC, yr amcan a grybwyllir yn adran 68(1).

177Awdurdodau perthnasol

(1)Yn y Rhan hon yr awdurdodau perthnasol yw—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,

(b)Cyngor y Gweithlu Addysg,

(c)pob awdurdod lleol,

(d)pob Bwrdd Iechyd Lleol,

(e)Ymddiriedolaeth GIG,

(f)awdurdod tân ac achub Cymreig,

(g)Cyngor Iechyd Cymuned, ac

(h)unrhyw berson arall a ragnodir.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei chyfansoddi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

(b)ystyr “awdurdod tân ac achub Cymreig” yw awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei gyfansoddi drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(c)ysytr “Cyngor Iechyd Cymuned” yw Cyngor Iechyd Cymuned sy’n parhau neu a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

178Cydweithredu wrth arfer swyddogaethau

(1)Rhaid i’r cyrff rheoleiddiol gydweithredu â’i gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol os ydynt yn meddwl y bydd cydweithredu o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, neu

(b)yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion cyffredinol.

(2)Rhaid i gorff rheoleiddiol, wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol, geisio cydweithredu ag awdurdod perthnasol os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl y bydd cydweithredu o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer ei swyddogaethau, neu

(b)yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(3)Pan fo corff rheoleiddiol yn gofyn am gydweithrediad awdurdod perthnasol o dan is-adran (2) rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cais oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi ei atal rhag cydweithredu yn y modd y gofynnir amdano drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall,

(b)bod yr awdurdod yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath fel arall yn anghydnaws â’i swyddogaethau ei hun, neu

(c)bod yr awdurdod yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau.

(4)Os yw awdurdod perthnasol yn gofyn am gydweithrediad corff rheoleiddiol, rhaid i’r corff gydymffurfio â’r cais hwnnw oni bai—

(a)bod y corff wedi ei atal rhag cydweithredu yn y modd y gofynnir amdano drwy unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) neu reol gyfreithiol arall,

(b)bod y corff yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath fel arall yn anghydnaws â swyddogaethau’r corff rheoleiddiol ei hun, neu

(c)bod y corff yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath yn cael effaith andwyol—

(i)ar swyddogaethau’r corff, neu

(ii)ar gyflawni amcanion cyffredinol y corff.

179Arfer swyddogaethau ar y cyd

(1)Caiff un corff rheoleiddiol (“A”) drefnu gyda’r corff rheoleiddiol arall (“B”) i A a B weithredu gyda’i gilydd wrth arfer ar y cyd un neu ragor o swyddogaethau perthnasol A gydag un neu ragor o swyddogaethau perthnasol B.

(2)Ni chaiff corff rheoleiddiol ymrwymo i drefniant o dan yr adran hon ond os yw’n meddwl y bydd y trefniant—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer y swyddogaeth, neu

(b)yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(3)Caiff trefniadau o dan yr adran hon—

(a)cynnwys sefydlu cyd-bwyllgor er mwyn arfer y cyd-swyddogaethau perthnasol ar ran y cyrff rheoleiddiol, a

(b)bod ar unrhyw delerau ac amodau eraill (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.

180Dirprwyo swyddogaethau i gorff rheoleiddiol arall

(1)Caiff corff rheoleiddiol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau perthnasol i’r corff rheoleiddiol arall os ydynt yn cytuno y bydd dirprwyo o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r swyddogaeth i’w harfer, neu

(b)yn helpu’r corff sy’n dirprwyo i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(2)Ond ni chaniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo i’r corff rheoleiddiol arall os yw’r corff arall yn meddwl y gall dirprwyo o’r fath fod yn niweidiol—

(a)i’r modd y mae’r corff arall yn arfer ei swyddogaethau, neu

(b)i gyflawni amcanion cyffredinol y corff arall.

(3)Er gwaethaf is-adran (1), ni chaiff GCC ddirprwyo—

(a)ei swyddogaethau gwneud rheolau, neu

(b)ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag achosion addasrwydd i ymarfer.

(4)Caiff dirprwyo o dan is-adran (1) fod ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.

(5)Caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo o dan is-adran (1) yn gyfan gwbl neu i unrhyw raddau llai y cytunir arnynt gan y cyrff rheoleiddiol.

(6)Nid yw dirprwyo o dan is-adran (1) yn effeithio—

(a)ar unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb sydd gan y corff sy’n dirprwyo’r swyddogaeth am ei harfer, nac

(b)ar allu’r corff hwnnw i arfer y swyddogaeth honno neu i wneud trefniadau eraill mewn perthynas â hi.

181Rhannu gwybodaeth

(1)Caiff corff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth i gorff rheoleiddiol arall neu awdurdod perthnasol yn unol â threfniant a wneir o dan y Rhan hon i gydweithredu, i arfer swyddogaethau ar y cyd neu i ddirprwyo swyddogaethau.

(2)Ni chaniateir i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol os yw’r person sydd â’r wybodaeth wedi ei wahardd rhag ei darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)Yn achos gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn, ni chaniateir i’r wybodaeth gael ei darparu i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod yr wybodaeth wedi ei darparu ar ffurf sy’n golygu nad oes modd adnabod yr unigolyn, neu

(b)bod y person sydd â’r wybodaeth yn cael cydsyniad yr unigolyn i’w darparu.

(4)At ddibenion is-adran (3)(a), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—

(a)o’r wybodaeth, a

(b)o wybodaeth arall a ddarperir i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol gan yr un corff rheoleiddiol.

(5)Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir yn unol â threfniant o dan y Rhan hon gael ei defnyddio gan y person y darperir yr wybodaeth iddo ond at ddibenion cydweithredu, arfer swyddogaethau ar y cyd neu arfer swyddogaethau dirprwyedig yn unol â’r trefniant.

(6)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar ddyletswydd y cyrff rheoleiddiol i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion diogelu llesiant unigolyn.

182Rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu llesiant

(1)Rhaid i gorff rheoleiddiol ddatgelu gwybodaeth y mae wedi ei chael wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol i unrhyw berson arall os yw’n meddwl bod datgeliad o’r fath yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn diogelu llesiant unigolyn yng Nghymru.

(2)Ond ni chaniateir i wybodaeth gael ei datgelu o dan is-adran (1) os yw datgelu’r wybodaeth wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)Yn achos gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn, ni chaniateir iddi gael ei datgelu mewn modd sy’n golygu y gellir adnabod yr unigolyn ond os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl bod adnabod yr unigolyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu llesiant unrhyw unigolyn.

(4)At ddibenion is-adran (3), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—

(a)o’r wybodaeth, a

(b)o wybodaeth arall a ddatgelir gan y corff rheoleiddiol i’r person arall y cyfeirir ato yn is-adran (1).

RHAN 10AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

183Ymchwiliadau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â darparu gofal a chymorth.

(2)Cyn i ymchwiliad ddechrau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ei fod i’w gynnal yn breifat.

(3)Os na roddir cyfarwyddyd, caiff y person sy’n cynnal yr ymchwiliad benderfynu cynnal yr ymchwiliad, neu ran ohono, yn breifat.

(4)Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (pwerau mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol) yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad lleol o dan yr adran honno.

(5)Rhaid cyhoeddi adroddiad y person sy’n cynnal yr ymchwiliad oni bai bod Gweinidogion Cymru yn meddwl bod amgylchiadau eithriadol dros beidio â’i gyhoeddi (neu unrhyw ran ohono).

184Cyflwyno dogfennau etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau neu reolau a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i Weinidogion Cymru, GCC neu’r cofrestrydd—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (gan gynnwys copi o ddogfen neu ddogfen ddiwygiedig).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i’r person o dan sylw—

(a)drwy ddosbarthu’r hysbysiad neu’r ddogfen â llaw i’r person;

(b)drwy adael yr hysbysiad neu’r ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person;

(c)drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen drwy’r gwasanaeth danfon cofnodedig—

(i)i gyfeiriad cywir y person, neu

(ii)pan fo’r person o dan sylw yn ddarparwr gwasanaeth, i gyfeiriad man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono;

(d)os yw is-adran (3) yn gymwys, drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig i gyfeiriad a ddarperir at y diben hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person y mae’r hysbysiad i’w roi iddo neu y mae’r ddogfen i’w rhoi iddo wedi cytuno i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen ar ffurf electronig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir dosbarthu â llaw hysbysiad neu ddogfen a roddir i gorff corfforaethol drwy roi’r hysbysiad neu’r ddogfen i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(5)At ddibenion is-adran (2)(b), pan adewir hysbysiad neu ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person mae i’w drin fel pe bai’r hysbysiad wedi ei roi neu’r ddogfen wedi ei rhoi ar yr amser y gadawyd yr hysbysiad neu’r ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.

(6)Yn is-adran (2)(c), ystyr “gwasanaeth danfon cofnodedig” yw—

(a)gwasanaeth eitemau cofrestredig fel y diffinnir “registered items service” yn adran 32(4) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p.5), neu

(b)unrhyw wasanaeth post arall sy’n darparu ar gyfer cofnodi’r dosbarthiad.

(7)At ddibenion is-adran (2), cyfeiriad cywir person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)yn achos awdurdod lleol, cyfeiriad swyddfa cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod;

(d)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(8)Pan roddir hysbysiad neu ddogfen fel y’i crybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d) rhaid barnu bod yr hysbysiad wedi ei gael neu’r ddogfen wedi ei chael 48 awr ar ôl anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen oni ddangosir i’r gwrthwyneb.

(9)Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”, adran 3 am ystyr “darparwr gwasanaeth” ac adran 81 am ystyr “cofrestrydd”.

RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

185Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 3 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

186Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol neu sydd wedi ei wneud odani.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon).

187Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)adran 2(1)(i) (rheoliadau sy’n pennu gwasanaethau gofal a chymorth eraill fel gwasanaethau rheoleiddiedig);

(b)adran 2(3) (rheoliadau sy’n rhagnodi pethau nad ydynt i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig);

(c)adran 3(3) (rheoliadau sy’n rhagnodi pethau nad ydynt i’w trin fel gofal a chymorth);

(d)adran 9(9) (rheoliadau sy’n amrywio’r dystiolaeth sydd i’w hystyried wrth ddyfarnu a yw person yn berson addas a phriodol);

(e)adran 11(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi terfyn amser y mae rhaid gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol amnewidiol ynddo);

(f)adran 27(1) (rheoliadau sy’n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau);

(g)adran 28(1) (rheoliadau sy’n gosod gofynion ar unigolion cyfrifol);

(h)adran 37(1) (rheoliadau ynghylch graddau arolygu);

(i)adran 40(1) (rheoliadau ynghylch codi ffioedd);

(j)adran 45 (rheoliadau sy’n creu troseddau am fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau);

(k)adran 46 (rheoliadau sy’n creu troseddau am fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol);

(l)adrannau 59(1) a (4) a 61(6) a (9) (rheoliadau ynghylch y gyfundrefn trosolwg o’r farchnad);

(m)adran 79(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi disgrifiadau o bersonau sydd i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol);

(n)adran 80(1)(b) (rheoliadau sy’n rhagnodi disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae rhaid i GCC gadw cofrestr mewn cysylltiad â hwy);

(o)adran 111(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi teitlau a ddiogelir ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac eithrio gweithwyr cymdeithasol);

(p)adran 117 (diwygio ar ba seiliau y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer);

(q)adran 130 (trefniadau ar gyfer cyfryngu);

(r)adran 136(2)(d) (personau y caniateir i ymgymeriadau gael eu datgelu iddynt gan GCC);

(s)adran 142 (diwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu materion);

(t)adran 165 (dynodi gweithgareddau rheoleiddiedig etc. at ddibenion gorchmynion gwahardd o dan Ran 7);

(u)adran 171(3) (creu troseddau mewn perthynas â chyflogi neu benodi personau sy’n ddarostyngedig i orchmynion gwahardd etc.);

(v)adran 177(1)(h) (rheoliadau sy’n rhagnodi personau eraill yn awdurdodau perthnasol at ddibenion Rhan 9);

(w)paragraff 7 o Atodlen 1 (rheoliadau sy’n pennu gwasanaethau penodol fel gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig).

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 186.

188Dod i rym

(1)Daw darpariaethau’r Ddeddf hon (ac eithrio’r adran hon ac adrannau 186, 187, 189 a 190) i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2)Mae’r adran hon ac adrannau 186, 187, 189 a 190 yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion neu ardaloedd gwahanol;

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

189Dehongli cyffredinol

Yn y Ddeddf hon—

190Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 2(2))

ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

Gwasanaethau cartrefi gofal

1(1)“Gwasanaeth cartref gofal” yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen.

(2)Ond nid yw llety ynghyd â nyrsio neu ofal a ddarperir yn y mannau a ganlyn yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal—

(a)ysbyty;

(b)ysgol (ond gweler is-baragraff (3));

(c)canolfan breswyl i deuluoedd;

(d)man sy’n darparu gwasanaeth llety diogel;

(e)man sy’n darparu llety ar gyfer oedolyn a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion.

(3)Mae llety ynghyd â nyrsio neu ofal a ddarperir mewn ysgol yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal os, ar yr adeg y darperir llety ar gyfer plant yn yr ysgol—

(a)yw llety wedi ei ddarparu yn yr ysgol neu o dan drefniadau a wneir gan berchennog yr ysgol ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis blaenorol, neu

(b)bwriedir i lety o’r fath gael ei ddarparu ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis dilynol.

(4)Nid yw’r ddarpariaeth o lety a gofal i blentyn gan riant, perthynas neu riant maeth yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal.

(5)Yn is-baragraff (2)(b), mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

(6)Yn is-baragraff (4), ystyr “rhiant” yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn (o fewn yr ystyr a roddir i “parent” a “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41)).

(7)At ddibenion is-baragraff (4) mae person yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn os yw’r person—

(a)yn rhiant maeth awdurdod lleol, neu

(b)yn maethu’r plentyn yn breifat.

Gwasanaethau llety diogel

2“Gwasanaeth llety diogel” yw’r ddarpariaeth o lety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant mewn mangreoedd preswyl yng Nghymru lle y darperir gofal a chymorth i’r plant hynny.

Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

3(1)“Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” yw’r ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni mewn man yng Nghymru—

(a)lle y mae galluedd y rhieni i ymateb i anghenion y plant ac i ddiogelu eu llesiant yn cael ei fonitro neu ei asesu, a

(b)lle y rhoddir i’r rhieni unrhyw ofal a chymorth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “rhiant” mewn perthynas â phlentyn yw unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.

Gwasanaethau mabwysiadu

4Mae “gwasanaeth mabwysiadu” yn wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan—

(a)cymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr “adoption society” yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) sy’n sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr y Ddeddf honno, neu

(b)asiantaeth cymorth mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption support agency” gan adran 8 o’r Ddeddf honno.

Gwasanaethau maethu

5Ystyr “gwasanaeth maethu” yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol—

(a)lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol;

(b)arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â’r lleoliad hwnnw.

Gwasanaethau lleoli oedolion

6(1)Ystyr “gwasanaeth lleoli oedolion” yw gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “cytundeb gofalwr” yw cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

Gwasanaethau eirioli

7(1)Mae “gwasanaeth eirioli” yn wasanaeth a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaniateir i wasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli oni bai bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth, ac i’r graddau y maent wedi eu bodloni felly.

(3)Y gofyniad cyntaf yw bod y gwasanaeth yn wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion, neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu pa un a yw’r anghenion hynny’n bodoli).

(4)Yr ail ofyniad yw nad yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan berson sydd, yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol (o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29))—

(a)yn berson awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu

(b)yn Gyfreithiwr Ewropeaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “European lawyer” yng Ngorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) (O.S. 1978/1910)).

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-baragraff hwnnw, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i‘w diwygio.

Gwasanaethau cymorth cartref

8(1)“Gwasanaeth cymorth cartref” yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i berson nad yw, oherwydd ei hyglwyfedd neu ei angen (ac eithrio hyglwyfedd neu angen nad yw ond yn codi oherwydd bod y person yn ifanc), yn gallu ei ddarparu ar ei gyfer ef ei hun ac a ddarperir yn y man yng Nghymru lle y mae’r person yn byw (gan gynnwys gwneud trefniadau ar gyfer neu ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath).

(2)Ond nid yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn gyfystyr â gwasanaeth cymorth cartref⁠—

(a)os y’i darperir gan unigolyn heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i “employment agency” ac “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)), ac sy’n gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy’n cael y gofal a’r cymorth, neu

(b)os y’i darperir—

(i)mewn man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu lety a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion, neu

(ii)mewn ysbyty.

(3)Nid yw person sy’n cyflwyno unigolion sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref i unigolion a all ddymuno ei gael ond nad oes ganddo unrhyw rôl barhaus yng nghyfarwyddyd neu reolaeth y gofal a’r cymorth a ddarperir i’w drin fel pe bai’n darparu gwasanaeth cymorth cartref (ni waeth pa un a yw’r cyflwyniad er elw ai peidio).

Dehongli

9Yn yr Atodlen hon—

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 67(4))

ATODLEN 2GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

RHAN 1STATWS

Statws

1(1)Nid yw GCC i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo GCC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

RHAN 2AELODAETH

Aelodau

2(1)Mae GCC i gael—

(a)aelod i gadeirio GCC (“yr aelod-gadeirydd”), a

(b)dim mwy na 14 o aelodau eraill.

(2)Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau GCC.

(3)Ni chaniateir i berson sy’n aelod o staff GCC gael ei benodi’n aelod o GCC ac ni chaiff person o’r fath ddal swydd fel aelod o GCC.

(4)Mae aelodau GCC i ddal swydd ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

(5)Cyn gwneud penodiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb penodi aelodaeth amrywiol sydd â mwyafrif o bersonau nad ydynt, ac nad ydynt wedi bod, yn weithwyr gofal cymdeithasol neu’n gynrychiolwyr gweithwyr gofal cymdeithasol.

Tâl etc. aelodau

3(1)Caiff GCC dalu i’w haelodau unrhyw dâl, treuliau a lwfansau y mae Gweinidogion yn penderfynu arnynt.

(2)Mae GCC i dalu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw bensiwn, lwfans neu arian rhodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt i berson sy’n aelod o GCC, neu sydd wedi bod yn aelod o GCC, neu mewn cysylltiad â pherson o’r fath.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn i berson sy’n peidio â dal swydd fel aelod-gadeirydd GCC gael digollediad, rhaid i GCC dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu i’r person unrhyw ddigollediad y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno.

Tymor y swydd

4Mae person a benodir yn aelod o GCC yn dal swydd am unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno wrth wneud y penodiad; ond ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy na 4 blynedd.

Ymddiswyddo

5(1)Caiff yr aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff ymddiswyddo—

(a)fel aelod-gadeirydd, neu

(b)fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.

(3)Caiff aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

Diswyddo

6(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo’r aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau’n aelod-gadeirydd, neu

(b)nad yw’n gallu gweithredu fel aelod-gadeirydd neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Cânt ddiswyddo’r aelod-gadeirydd o’i swydd—

(a)fel aelod-gadeirydd, neu

(b)fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’n gallu gweithredu fel aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

RHAN 3PWERAU CYFFREDINOL

Pwyllgorau

7(1)Caiff GCC sefydlu pwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (1) sefydlu is-bwyllgorau.

(3)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o GCC neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(4)Caiff GCC dalu tâl, treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o GCC nac yn aelod o’i staff.

Dirprwyo

8(1)Caiff GCC drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb GCC am arfer swyddogaethau dirprwyedig nac ar ei allu i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

Pwerau atodol

9Caiff GCC wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

RHAN 4TRAFODION ETC.

Gweithdrefn

10(1)Mae GCC i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm); ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir odani.

(2)Mae GCC i reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm)—

(a)ei bwyllgorau, a

(b)ei is-bwyllgorau.

Gosod y sêl

11(1)Caiff GCC fod â sêl.

(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)unrhyw aelod o GCC, neu

(b)unrhyw berson arall a awdurdodir gan GCC at y diben hwnnw.

Tystiolaeth

12Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl GCC neu wedi ei llofnodi ar ei ran i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei chymryd fel ei bod wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

RHAN 5PRIF WEITHREDWR A STAFF ERAILL

Prif weithredwr a staff eraill

13(1)Rhaid i GCC benodi prif weithredwr.

(2)Caiff GCC benodi unrhyw staff eraill sy’n briodol yn ei farn ef; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 81 (dyletswydd GCC i benodi cofrestrydd).

(3)Cyflogir person a benodir yn brif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r penodiad (gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau’r penodiad).

(4)Cyflogir unrhyw staff eraill a benodir o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch lefelau’r tâl, y pensiynau, y lwfansau a’r treuliau sy’n daladwy i staff o’r fath, neu mewn cysylltiad â hwy.

RHAN 6MATERION ARIANNOL AC ADRODDIADAU BLYNYDDOL ETC.

Taliadau gan Weinidogion Cymru

14Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i GCC o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau ac ar unrhyw amodau (os oes rhai), sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Swyddog cyfrifyddu

15(1)Mae’r prif weithredwr i weithredu fel swyddog cyfrifyddu GCC.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid GCC, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid GCC;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd GCC o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

Cyfrifon ac archwilio

16(1)Rhaid i GCC ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)ym mha fodd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

Adroddiadau blynyddol etc.

17(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd ei swyddogaethau eu harfer yn ystod y flwyddyn honno (“adroddiad blynyddol”).

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl i adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi, rhaid i GCC anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i GCC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw adroddiadau eraill a gwybodaeth arall sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 185)

ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU

Deddf Safonau Gofal 2000

1Mae Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2Yn adran 1—

(a)yn is-adran (1), ar y diwedd mewnosoder “as it applies in relation to England”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “establishment” mewnosoder “in England”;

(c)mae is-adran (4) wedi ei diddymu;

(d)yn is-adran (4A), mae’r geiriau “in England” wedi eu diddymu;

(e)daw pennawd yr adran yn “Children’s homes in England”.

3Yn adran 3—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “establishment” mewnosoder “in England”;

(b)mae is-adran (3) wedi ei diddymu;

(c)yn is-adran (4), mae’r geiriau “in England” wedi eu diddymu;

(d)daw pennawd yr adran yn “Care homes in England”.

4Yn adran 4—

(a)yn is-adran (2), ar ôl “establishment” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (3), ar ôl “persons” mewnosoder “in England”;

(c)yn is-adran (4)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “authorities” mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “organisation” mewnosoder “in England”;

(d)mae is-adran (5) wedi ei diddymu;

(e)yn is-adran (7), ar y diwedd mewnosoder “whose principal office is in England”;

(f)yn is-adran (7A), yn lle “has” rhodder “means an undertaking in England which is an adoption support agency within”;

(g)yn is-adran (8)(a)—

(i)yn is-baragraff (i), ar y diwedd mewnosoder “in England”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar ôl “home” mewnosoder “in England”;

(iii)mae is-baragraff (vi) wedi ei diddymu;

(iv)yn is-baragraff (vii), ar y diwedd mewnosoder “in England”;

(h)yn is-adran (9)(a), mae is-baragraffau (ii) a (iii) wedi eu diddymu;

(i)yn is-adran (10), ar ôl “services” lle y mae’n digwydd yn gyntaf mewnosoder “in England”.

5Yn adran 5—

(a)yn is-adran (1)(b), yn lle “in any other case” rhodder “in the case of establishments mentioned in subsection (1B)”;

(b)yn is-adran (1A), ar ôl “agencies” mewnosoder “mentioned in subsection (1)(a)”;

(c)ar ôl is-adran (1A), mewnosoder—

(1B)The establishments mentioned in subsection (1)(b) are—

(a)independent hospitals in Wales;

(b)independent clinics in Wales.;

(d)mae is-adran (2) wedi ei diddymu.

6Yn adran 8(6)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “section 5(b)” rhodder “section 5(1)(b)”;

(b)ym mharagraff (b), yn lle is-baragraffau (i) a (ii) rhodder by the Care Quality Commission—

(i)under Chapters 2 and 3 of Part 1 of the Health and Social Care Act 2008 in relation to health care in England, or

(ii)under the Mental Health Act 1983 in relation to England.

7Yn adran 14(2), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)an offence under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

8Yn adran 22—

(a)yn is-adran (1), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)regulations made by the Welsh Ministers—

(i)may make provision only in relation to establishments for which the Welsh Ministers are the registration authority, and

(ii)may in particular make any provision such as is mentioned in subsection (2), (7) or (8) in so far as relevant to those establishments.;

(b)mae is-adrannau (3) a (4) wedi eu diddymu.

9Yn adran 22B—

(a)yn is-adran (1), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”;

(b)yn is-adran (3)(c), yn lle “registration authority’s” rhodder “CIECSS’s”;

(c)yn is-adran (4)(b), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”;

(d)yn is-adran (5)(a), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”;

(e)yn is-adran (6), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”;

(f)yn is-adran (8)—

(i)ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), ar y diwedd mewnosoder “in England”.

10Yn adran 23, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1ZA)But the Welsh Ministers may prepare and publish such a statement only in relation to establishments for which the Welsh Ministers are the registration authority.

11Yn adran 30A—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “agency” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”;

(c)yn is-adran (3), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”;

(d)yn is-adran (7), yn y diffiniad o “prescribed”, mae paragraff (b) wedi ei ddiddymu.

12Mae adran 36A wedi ei diddymu.

13Yn adran 42—

(a)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)This subsection applies to persons who provide services which are similar to services which may or must be provided by Welsh NHS bodies.;

(b)yn is-adran (7), mae’r diffiniad o “Welsh local authorities” wedi ei ddiddymu.

14Yn adran 43, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)“Local authority” means a local authority in England.

15Yn adran 50(1), yn lle “registration authority” rhodder “CIECSS”.

16Mae adran 79(3) wedi ei diddymu.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003

17Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

18Mae Pennod 6 o Ran 2 (gwasanaethau cymdeithasol: swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru) wedi ei diddymu.

19Yn adran 142, ym mharagraff (a)—

(a)yn is-baragraff (i), hepgorer “and 6”;

(b)yn is-baragraff (ii), yn lle “section 5(b)” rhodder “section 5(1)(b)”.

20Yn adran 143(2), mae paragraff (b) wedi ei ddiddymu.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

21Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

22Yn adran 41(6) (cydweithredu rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru mewn astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc. mewn gwasanaethau), yn lle’r geiriau o “sections 94 and 95” hyd at y diwedd rhodder “sections 149A and 149B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (reviews of studies and research and other reviews relating to local authority social services functions carried out by the Welsh Ministers).”

23Yn adran 42(4) (cydweithredu rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru mewn astudiaethau ynghylch effaith darpariaethau statudol), yn lle’r geiriau o “section 95(2)” hyd at y diwedd rhodder “sections 149A and 149B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (reviews of studies and research and other reviews relating to local authority social services functions carried out by the Welsh Ministers).”

Deddf Plant 2004

24Yn adran 30 o Ddeddf Plant 2004 (p.31) (arolygu swyddogaethau o dan Ran 3), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)The Welsh Ministers’ functions under Part 8 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (anaw 4) may be exercised as if anything done by a local authority in Wales in the exercise of functions to which this section applies was in the exercise of a social services function of the local authority (within the meaning of that Act).

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

25Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

26Yn adran 34R (ystyr “cartref gofal” a “darparwr cartref gofal”)—

(a)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “has” hyd at y diwedd rhodder “means premises at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;”

(b)yn is-adran (3), yn lle “carries on a care home” rhodder “is a service provider of a care home service within the meaning of Part 1 of that Act where the service is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over”;

(c)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau o “personal” hyd at ddiwedd paragraff (a) rhodder “care in a care home in Wales for an individual because of the individual’s vulnerability or need,”;

(d)ar ôl is-adran (5), mewnosoder—

(6)“Care” has the same meaning as in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

27Yn adran 42(4A) (ystyr “cyn-ddarparwr cartref gofal”), yn lle’r geiriau o “personal” hyd at ddiwedd paragraff (a) rhodder “care of a particular description at a care home in Wales (see section 32R),”.

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

28Ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) (gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant), yn is-baragraff (9B)—

(a)yn lle is-is-baragraff (h) rhodder—

(h)an inspection in Wales under section 33 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (inspections of regulated care and support services) of a residential family centre service, a fostering service, or an adoption service (each of which has the meaning given in Schedule 1 to that Act);

(b)yn lle is-is-baragraff (j) rhodder—

(j)a review under section 149B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (reviews of local authority social services functions in Wales);

(c)yn is-is-baragraff (k), yn lle “or investigation under section 94” rhodder “under section 149B”.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

29Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

30Yn adran 1 (trosolwg)—

(a)yn is-adran (9)—

(i)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn llunio—

(i)adroddiadau blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a

(ii)adroddiadau ar sefydlogrwydd marchnadoedd lleol ar gyfer darparu gofal a chymorth,

(adrannau 144A a 144B);

(ii)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adrannau 149A a 149B);

(iii)ym mharagraff (d), yn lle “161).” rhodder 160);

(da)yn caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu arfer pwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny, ac i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o’r fath ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adrannau 161 i 161C).;

(b)yn is-adran (15)(c), yn lle “sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000)” rhodder “darparwr gwasanaeth (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)”.

31Mae adran 183 (rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofal) wedi ei diddymu.

32Yn adran 188(1) (diffiniadau at ddibenion adrannau 185 i 187), yn y diffiniad o “llety cadw ieuenctid”, yn lle paragraff (a) rhodder—

“(a)

gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016);.

33Yn adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.;

(b)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “person” hyd at “asiantaeth” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth”;

(c)yn is-adran (5)(a), yn lle “person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig”;

(d)yn is-adran (9)—

(i)cyn y diffiniad o “gofalwr perthnasol” rhodder—

(ii)cyn y diffiniad o “person cofrestredig” mewnosoder—

(iii)mae’r diffiniad o “person cofrestredig” wedi ei ddiddymu.

34Yn adran 190(1) (methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro), yn lle “person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig”.

35Yn adran 191 (methiant darparwr: materion atodol)—

(a)yn is-adran (6), yn lle “person cofrestredig, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y sefydliad neu’r asiantaeth” rhodder “darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y darparwr gwasanaeth”;

(b)yn is-adran (7), yn lle “rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparu gwasanaeth rheoleiddiedig”.

36Yn adran 197(1) (diffiniadau)—

(a)yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” rhodder y diffiniad a ganlyn—

(b)yn y diffiniad o “cartref plant”, yn lle’r geiriau o “cartref plant” hyd at y diwedd rhodder “mangre lle y mae gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant;”.

RHAN 2GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Deddf Iechyd Meddwl 1983

37Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

38Yn adran 114A (cymeradwyo cyrsiau i weithwyr proffesiynol iechyd meddwl: Cymru)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”;

(b)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)For that purpose—

(a)subsections (2), (3), (4)(a) and (7) of section 114 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 apply as they apply to approvals given, rules made and courses approved under that section, and

(b)sections 73 to 75 and section 115 of that Act apply accordingly.;

(c)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “for” hyd at y diwedd rhodder “for the purposes of Parts 3 to 8 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”;

(d)yn is-adran (5), yn lle “Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

39Yn adran 130H(7)(b) (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i Gymru: pwerau a dyletswyddau atodol), yn lle’r geiriau o “principal” hyd at y diwedd rhodder “social worker part or the visiting European part of the register kept under section 80(1) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”

Deddf Safonau Gofal 2000

40Mae Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

41Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu diddymu—

(a)adrannau 56 (y gofrestr) i 66 (ymwelwyr ar gyfer cyrsiau gwaith cymdeithasol penodol);

(b)adrannau 68 (apelau i’r tribiwnlys), 69 (cyhoeddi etc. y gofrestr) ac 71 (rheolau);

(c)adran 113 (pwerau diofyn y Gweinidog priodol);

(d)y cofnod ar gyfer Cyngor Cymru yn y tabl yn adran 121(13) (dehongli cyffredinol etc.);

(e)Atodlen 1 (Cyngor Cymru).

42Yn adran 55 (dehongli)—

(a)yn lle is-adrannau (2), (3) a (4) rhodder—

(2)“Social care worker” means a person (other than a person excepted by regulations) who—

(a)engages in social work which is required in connection with any health, education or social services provided in England (referred to in this Part as a “social worker”),

(b)is employed at a children’s home in England, a care home in England or a residential family centre in England,

(c)manages a home or centre of a kind mentioned in paragraph (b),

(d)is employed for the purposes of a domiciliary care agency, a fostering agency, a voluntary adoption agency or an adoption support agency, in so far as the agency provides services to persons in England,

(e)manages an agency of the kind mentioned in paragraph (d), or

(f)is supplied by a domiciliary care agency to provide personal care in their own homes for persons in England who by reason of illness, infirmity or disability are unable to provide it for themselves without assistance.

(3)Regulations may provide that persons of any of the following descriptions shall be treated as social care workers—

(a)a person engaged in work for the purposes of a local authority in England’s social services functions;

(b)a person engaged in work in England comprising the provision of services similar to services which may or must be provided by a local authority in England in the exercise of its social services functions;

(c)a person engaged in the provision of personal care for any person in England;

(d)a person who is employed in an undertaking (other than an establishment or agency) which consists of or includes supplying, or providing services for the purpose of supplying, persons to provide personal care to persons in England;

(e)a person who manages an undertaking of the kind mentioned in paragraph (d);

(f)a person who is employed in connection with the discharge of the functions of the Secretary of State under section 80 of the 1989 Act (inspection of children’s homes etc.);

(g)a person who is employed as a member of staff of the Office for Standards in Education, Children’s Services and Skills who inspects premises under—

(i)section 87 of the 1989 Act (welfare of children accommodated in independent schools and colleges),

(ii)section 31 of this Act (inspection of establishments and agencies by persons authorised by registration authority), or

(iii)section 139 of the Education and Inspections Act 2006 (inspection by Chief Inspector);

(h)a person who is employed as a member of staff of the Care Quality Commission who, under Part 1 of the Health and Social Care Act 2008, inspects premises used for or in connection with the provision of social care (within the meaning of that Part);

(i)a person who manages employees mentioned in paragraph (g) or (h);

(j)a person employed in a day centre in England;

(k)a person participating in a course approved by the Health and Care Professions Council under article 15 of the Health and Social Work Professions Order 2001 for persons wishing to become social workers., a

(b)hepgorer is-adrannau (6), (7) ac (8).

43Yn adran 67 (swyddogaethau’r Gweinidog priodol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “appropriate Minister” rhodder “Secretary of State”,

(b)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)The Secretary of State shall encourage persons to take part in—

(a)courses approved by the Health and Social Care Professions Council under article 15 or by virtue of article 19(4) of the Health and Social Care Work Professions Order 2001 for persons who are or wish to become social workers, and

(b)other courses relevant to the training of persons who are or wish to become social care workers.;

(c)yn is-adran (3)—

(i)yn lle “appropriate Minister” yn y man cyntaf lle y mae’n ymddangos rhodder “Secretary of State”, a

(ii)yn lle “appropriate Minister” yn yr ail fan lle y mae’n ymddangos rhodder “Secretary of State”;

(d)yn is-adran (4)—

(i)yn lle “appropriate Minister” yn y man cyntaf lle y mae’n ymddangos rhodder “Secretary of State”,

(ii)yn lle “the Minister” rhodder “he or she”, a

(iii)ym mharagraff (a), hepgorer “and Wales,”;

(e)hepgorer is-adran (6);

(f)yn is-adran (7)—

(i)ym mharagraff (a), hepgorer “or (6)(b)”,

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “appropriate Minister” rhodder “Secretary of State”, a

(iii)yn y geiriau ar ôl paragraff (b), yn lle “and, in respect of an authorisation given by the Assembly, references to a Minister included the Assembly; and in subsection (5)(b) and (6)(b)” rhodder “and in subsection (5)(b)”;

(g)yn lle’r pennawd, rhodder “Functions of the Secretary of State”.

44Yn Atodlen 2A (personau sy’n ddarostyngedig i adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru), ym mharagraff 14, yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002

45Mae Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

46Yn adran 10(2) (rheoli etc. asiantaethau), yn lle “section 56(1) of the Care Standards Act 2000 (c. 14)” rhodder “section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (anaw 2)”.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

47Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

48Yn adran 41 (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc. mewn gwasanaethau), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Subsection (8) applies in respect of the discharge of social services functions by local authorities in Wales.

(8)The Auditor General and Social Care Wales must co-operate with each other with respect to the exercise of their respective functions under this section and section 70 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (studies by SCW as to economy etc.).

(9)In subsection (7) “social services functions” has the same meaning as in the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

49Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

50Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006

51Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

52Yn Atodlen 2 (personau y mae eu swyddogaethau yn ddarostyngedig i adolygiad gan y Comisiynydd), yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

53Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

54Yn adran 41 (cofrestrau: pŵer i atgyfeirio gwybodaeth i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd), yng nghofnod rhif 8 yn y tabl yn is-adran (7)—

(a)yng ngholofn 1, yn lle “under section 56 of the Care Standards Act 2000 (c. 14)” rhodder “under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (anaw 20)”, a

(b)yng ngholofn 2, yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “the registrar appointed under section 81 of that Act”.

55Yn Rhan 3 o Atodlen 3 (rhestrau gwahardd: darpariaeth atodol)—

(a)ym mharagraff 16(4)(l), yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”, a

(b)ar ôl paragraff 16(4) mewnosoder—

(4A)The reference in sub-paragraph (4) to “any of its committees” is, in respect of Social Care Wales, to be read as if it were a reference to “any panel established under Part 8 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

56Yn Rhan 2 o Atodlen 4 (gweithgaredd rheoleiddiedig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf)—

(a)ar ddechrau paragraff 7(3C) mewnosoder “In relation to a vulnerable adult in England,”, a

(b)ar ôl paragraff 7(3C) mewnosoder—

(3CA)In relation to a vulnerable adult in Wales, relevant social work has the meaning given by section 79(4) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, and social care worker means a person who is a social care worker by virtue of section 79(1)(a) of that Act.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008

57Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

58Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu diddymu—

(a)adran 124 (rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol);

(b)adran 125 (safon y prawf mewn achosion sy’n ymwneud â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol);

(c)adran 126 (addysg a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd);

(d)is-adran (3)(b) (a’r “or” yn union o’i blaen) o adran 163 (gorchmynion a rheoliadau: rheolaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);

(e)is-adran (4)(za) o adran 171 (yr awdurdod priodol sy’n gwneud y gorchymyn cychwyn);

(f)Atodlen 9 (rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol: Cymru).

RHAN 3AMRYWIOL

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

59Yn adran 33 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) (cyhoeddusrwydd ar gyfer gweithdrefnau cwynion), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)This section applies to a care home provider (see section 34R), a domiciliary care provider (see section 34S) or an independent palliative care provider (see section 34T) as it applies to a listed authority.

(9)But in its application in accordance with subsection (8), the reference to “relevant services” in subsection (2)(a)(i) is to be read as a reference to the matters to which Part 2A applies (see section 34A).

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

60Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

61Yn y testun Cymraeg o adran 21(3)(b) (dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth), yn lle “, rhieni’r plentyn neu unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn” rhodder “neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn”.

62Yn adran 42 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth)—

(a)yn is-adran (4)(a)(i), yn lle “41(5)” rhodder “43(5)”;

(b)yn is-adran (4)(a)(ii), yn lle “41(1)” rhodder “43(1)”;

(c)yn is-adran (4)(b)(i), yn lle “41(5)” rhodder “43(5)”;

(d)yn is-adran (4)(b)(ii), yn lle “41(3)” rhodder “43(3)”;

(e)yn is-adran (4)(c)(i), yn lle “41(10)” rhodder “43(10)”;

(f)yn is-adran (4)(c)(ii), yn lle “41(3)” rhodder “43(3)”.

63Yn y testun Cymraeg o adran 46(3) (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), yn lle’r geiriau o “For” hyd at “question” rhodder “At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw”.

64Yn y testun Cymraeg o adran 147(3) (gwyro oddi wrth ofynion mewn codau), ar ôl “gategori” mewnosoder “penodol”.

65Yn adran 197(1) (dehongli cyffredinol), yn y diffiniad o “sefydliad gwirfoddol”, yn lle “breifat” rhoddir “awdurdod lleol”.