RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU
PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)
Rhwymedigaethau’r landlord o ran cyflwr annedd
94Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu, at ddibenion adran 91(1), a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.
(2)
Wrth arfer y pŵer yn is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau—
(a)
drwy gyfeirio at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) (ystyr perygl categori 1 (“category 1 hazard”) a pherygl categori 2 (“category 2 hazard”));
(b)
a allai godi oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 92.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—
(a)
gosod gofynion ar landlordiaid at ddiben atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai olygu nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi;
(b)
rhagnodi, os na chydymffurfir â gofynion a osodir o dan baragraff (a) mewn cysylltiad ag annedd, bod yr annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.