Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

93Rhwymedigaethau o dan adrannau 91 a 92: atodolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r landlord unioni unrhyw ddifrod a achosir gan waith ac atgyweiriadau a wneir er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92.

(2)Ni chaiff y landlord osod unrhyw rwymedigaeth ar ddeiliad y contract os bydd deiliad y contract yn gorfodi neu’n dibynnu ar rwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 93 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2