RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Rhwymedigaethau’r landlord o ran cyflwr annedd

92Rhwymedigaeth y landlord i gadw annedd mewn cyflwr da

(1)

Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—

(a)

cadw’r strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)

cadw’r gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(2)

Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, rhaid i’r landlord—

(a)

cadw’r strwythur a’r tu allan i unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)

cadw unrhyw osodiadau gwasanaeth sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—

(i)

yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu

(ii)

yn eiddo i’r landlord neu o dan reolaeth y landlord,

mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(3)

Y safon sy’n ofynnol yn ôl is-adrannau (1) a (2), o ran cyflwr yr annedd, yw’r hyn sy’n rhesymol o ystyried oed a chymeriad yr annedd, a’r cyfnod y mae’r annedd yn debygol o fod ar gael i’w meddiannu fel cartref.

(4)

Yn y Rhan hon, ystyr “gosodiad gwasanaeth” yw gosodiad i gyflenwi dŵr, nwy neu drydan, ar gyfer glanweithdra, i gynhesu lle neu i gynhesu dŵr.

(5)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.