RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Rhwymedigaethau’r landlord o ran cyflwr annedd

91Rhwymedigaeth y landlord: annedd ffit i bobl fyw ynddi

(1)

Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi—

(a)

ar ddyddiad meddiannu’r contract, a

(b)

tra pery’r contract.

(2)

Mae’r cyfeiriad at yr annedd yn is-adran (1) yn cynnwys, os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, strwythur yr adeilad a’r tu allan i’r adeilad, ynghyd â’r rhannau cyffredin.

(3)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.