xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi—
(a)ar ddyddiad meddiannu’r contract, a
(b)tra pery’r contract.
(2)Mae’r cyfeiriad at yr annedd yn is-adran (1) yn cynnwys, os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, strwythur yr adeilad a’r tu allan i’r adeilad, ynghyd â’r rhannau cyffredin.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 91 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2