RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 1RHAGARWEINIAD

90Contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnod

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion canfod am ba hyd y gwneir contract safonol cyfnod penodol.

(2)

Os yw contract safonol cyfnod penodol yn denantiaeth, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau pan gafodd y denantiaeth ei rhoi.

(3)

Os yw contract safonol cyfnod penodol yn drwydded, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.

(4)

Mae contract safonol cyfnod penodol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd os yw’n opsiwn i’r landlord ei derfynu cyn diwedd y cyfnod o saith mlynedd sy’n dechrau pan fydd cyfnod y contract yn dechrau.

(5)

Os yw contract safonol cyfnod penodol yn rhoi opsiwn i ddeiliad y contract adnewyddu’r contract am gyfnod a fyddai, o’i gyfuno â chyfnod gwreiddiol y contract, yn dod i saith mlynedd neu ragor, nid yw i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd (oni bai bod is-adran (4) yn gymwys).