RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 10DIGOLLEDU
88Yr hawl i osod yn erbyn
(1)
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87, caiff deiliad y contract osod yr atebolrwydd hwnnw yn erbyn rhent.
(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.