RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 10DIGOLLEDU
87Digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.
1
Mae’r adrannau canlynol yn nodi’r amgylchiadau y gall landlord ddod yn atebol i dalu tâl digolledu o dan yr adran hon—
a
adran 35 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31);
b
adran 36 (darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn);
c
adran 37 (darparu datganiad ysgrifenedig anghywir);
d
adran 40 (methiant i ddarparu gwybodaeth am y landlord o dan adran 39);
e
adran 110 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract diogel);
f
adran 129 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract safonol cyfnodol);
g
adran 137 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract safonol cyfnod penodol).
2
Pan fo’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan yr adran hon, mae swm y tâl digolledu sy’n daladwy ar gyfer diwrnod penodol yn gyfwerth â swm y rhent sy’n daladwy o dan y contract ar gyfer y diwrnod hwnnw.
3
Os yw’r contract yn darparu bod rhent i’w dalu ar gyfer cyfnodau heblaw diwrnod, swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer un diwrnod yw’r gyfran briodol o’r rhent sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod y mae’r diwrnod hwnnw’n perthyn iddo.
4
Os yw tâl digolledu yn daladwy oherwydd adran 35, 110, 129 neu 137 (methiant i ddarparu datganiad) caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n cynyddu swm y tâl digolledu ar y sail fod methiant y landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig yn fwriadol.
5
Os yw tâl digolledu yn daladwy oherwydd adran 36 neu 37 (datganiad anghyflawn neu anghywir), caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n cynyddu swm y tâl digolledu.
6
Os gwneir cais o dan is-adran (4) neu (5), caiff y llys gynyddu swm y tâl digolledu sy’n daladwy ar gyfer diwrnod penodol o unrhyw ganran sy’n briodol yn ei farn, heb fod yn fwy na 100 y cant.