86Cydsyniad y landlord: amseriadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os yw teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud gyda chydsyniad y landlord, caiff y landlord gydsynio ar ôl i’r peth gael ei wneud.
(2)Ond nid yw hyn yn gymwys i—
(a)adran 49 (ychwanegu cyd-ddeiliad contract), neu
(b)unrhyw deler o’r contract meddiannaeth sy’n caniatáu trosglwyddo’r contract, neu drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 86 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2