Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

85Cais i’r llys yn ymwneud â chydsyniadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r landlord, o dan adran 84, yn rhoi datganiad ysgrifenedig o resymau dros wrthod cydsynio neu dros gydsynio yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caiff y person a wnaeth y cais am gydsyniad wneud cais i’r llys ar y sail—

(a)ei bod yn afresymol bod y landlord wedi gwrthod cydsynio, neu

(b)bod un neu ragor o’r amodau a osodwyd yn afresymol.

(3)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(a) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod y landlord wedi gwrthod cydsyniad yn afresymol, a chaiff hefyd—

(a)datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau, neu

(b)cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.

(4)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(b) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod un neu ragor o’r amodau yn afresymol, a chaiff hefyd—

(a)datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny nas datganwyd yn afresymol, neu

(b)cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.

(5)Os yw’r llys yn gwneud datganiad o dan is-adran (3) neu (4) caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 85 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2