RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Olynu
82Hysbysiad o hawliau o dan adran 80
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord o dan gontract meddiannaeth—
(a)
yn derbyn hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract, neu
(b)
yn cytuno â deiliad y contract i ddod â’r contract i ben,
yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn adran 80(1)(a) a (b).
(2)
Rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn derbyn hysbysiad O neu (yn ôl y digwydd) â’r diwrnod y gwneir y cytundeb, roi hysbysiad i—
(a)
meddianwyr yr annedd (ac eithrio O), a
(b)
unrhyw olynwyr posibl nad ydynt yn meddiannu’r annedd, y mae eu cyfeiriad yn hysbys i’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, i unrhyw un ohonynt).
(3)
Person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol o dan adran 80 yw olynydd posibl.
(4)
Rhaid i’r hysbysiad—
(a)
datgan bod O wedi rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu dod â’r contract i ben neu fod O a’r landlord wedi cytuno i ddod â’r contract i ben, a
(b)
egluro effaith adran 80.