xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8LL+CDELIO

OlynuLL+C

80Amnewid olynydd ar ôl terfynu’n gynnarLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person (“O”) yn olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 78(2) (olynwyr â blaenoriaeth),

(b)pan fo O, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â marwolaeth y deiliad contract blaenorol, yn rhoi hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract ei fod yn bwriadu terfynu’r contract, neu’n cytuno â’r landlord y dylai’r contract ddod i ben, ac

(c)pan fyddai’r contract wedi dod i ben, oni bai am yr adran hon, yn unol â darpariaeth hysbysiad deiliad y contract neu â’r cytundeb.

(2)Nid yw’r contract yn dod i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.

(3)Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.

(4)Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78(4) yn olynu i’r contract.

(5)Dyfernir a oes person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol drwy gymhwyso adran 74 mewn perthynas â’r deiliad contract blaenorol; ond mae O i’w drin fel pe na bai’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.

(6)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 80 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2