RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Olynu
80Amnewid olynydd ar ôl terfynu’n gynnar
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo person (“O”) yn olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 78(2) (olynwyr â blaenoriaeth),
(b)
pan fo O, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â marwolaeth y deiliad contract blaenorol, yn rhoi hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract ei fod yn bwriadu terfynu’r contract, neu’n cytuno â’r landlord y dylai’r contract ddod i ben, ac
(c)
pan fyddai’r contract wedi dod i ben, oni bai am yr adran hon, yn unol â darpariaeth hysbysiad deiliad y contract neu â’r cytundeb.
(2)
Nid yw’r contract yn dod i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.
(3)
Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.
(4)
Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78(4) yn olynu i’r contract.
(5)
Dyfernir a oes person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol drwy gymhwyso adran 74 mewn perthynas â’r deiliad contract blaenorol; ond mae O i’w drin fel pe na bai’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.
(6)
Yn yr adran hon—
ystyr “y deiliad contract blaenorol” (“the preceding contract-holder”) yw’r deiliad contract yr olynodd O i’r contract o ganlyniad i’w farwolaeth, ac
ystyr “darpariaeth hysbysiad deiliad y contract” (“contract-holder’s notice provision”) yw adran 163 neu 168 (hysbysiad deiliad y contract i derfynu contract diogel neu gontract safonol cyfnodol) neu gymal terfynu deiliad y contract (o dan gontract safonol cyfnod penodol).