RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8DELIO

Olynu

79Effaith olyniaeth

(1)

Mae person sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 73(2) neu adrannau 73(3) a 78(2) yn dod yn ddeiliad y contract ar y dyddiad perthnasol.

(2)

Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adrannau 73(3) a 78(3) neu (4) yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)

y dyddiad perthnasol, a

(b)

y dyddiad y deuir i gytundeb neu’r diwrnod y mae’r landlord yn dethol rhywun.

(3)

Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth yn dilyn apêl o dan adran 78(5) neu (6) yn erbyn detholiad y landlord yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)

y dyddiad perthnasol, a

(b)

y diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

(4)

Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y byddai’r contract wedi dod i ben o dan adran 155 pe na byddai unrhyw un yn gymwys i olynu i’r contract.

(5)

Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben pan fydd person (neu bersonau) yn dod yn ddeiliad y contract o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)

nid yw’r olynwyr perthnasol i’w trin fel tresmaswyr mewn perthynas â’r annedd, a

(b)

at ddibenion unrhyw atebolrwydd o dan y contract, mae’r olynwyr perthnasol i’w trin fel pe baent yn gyd-ddeiliaid contract o dan y contract.

(6)

“Yr olynwyr perthnasol” yw’r personau—

(a)

sy’n gymwys i olynu deiliad y contract a fu farw, a

(b)

sy’n byw yn yr annedd.