RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8DELIO

Olynu

78Mwy nag un olynydd cymwys

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract.

(2)

Os yw un o’r personau yn olynydd â blaenoriaeth, mae’r olynydd â blaenoriaeth yn olynu i’r contract.

(3)

Os yw dau neu ragor o’r personau yn olynwyr â blaenoriaeth, y person (neu’r personau) sy’n olynu i’r contract yw—

(a)

yr olynydd (neu’r olynwyr) â blaenoriaeth sydd wedi ei ddethol (neu eu dethol) drwy gytundeb rhwng yr olynwyr â blaenoriaeth, neu

(b)

os ydynt yn methu â chytuno (neu’n methu â hysbysu’r landlord o gytundeb) o fewn cyfnod rhesymol, pa un bynnag ohonynt y mae’r landlord yn ei ddethol.

(4)

Os yw’r holl bersonau yn olynwyr wrth gefn, y person (neu’r personau) sy’n olynu i’r contract yw—

(a)

y person (neu’r personau) sydd wedi ei ddethol (neu eu dethol) drwy gytundeb rhwng yr olynwyr wrth gefn, neu

(b)

os ydynt yn methu â chytuno (neu’n methu â hysbysu’r landlord o gytundeb) o fewn cyfnod rhesymol, pa un bynnag ohonynt y mae’r landlord yn ei ddethol.

(5)

Pan fo’r landlord yn dethol o dan is-adran (3)(b), caiff olynydd â blaenoriaeth nad yw’n cael ei ddethol apelio i’r llys yn erbyn detholiad y landlord.

(6)

Pan fo’r landlord yn dethol o dan is-adran (4)(b), caiff olynydd wrth gefn nad yw’n cael ei ddethol apelio i’r llys yn erbyn detholiad y landlord.

(7)

Rhaid gwneud cais am apêl o dan is-adran (5) neu (6) cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn hysbysu’r person nad yw wedi ei ddethol.

(8)

Rhaid i’r llys ddyfarnu’r apêl ar sail ei rinweddau (ac nid drwy adolygiad).