xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8LL+CDELIO

OlynuLL+C

76Olynydd wrth gefn: aelod o’r teuluLL+C

(1)Mae person yn olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract os nad yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract ac—

(a)os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu,

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract, ac

(c)os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu oherwydd adran 250(1)(c) (aelodau o’r teulu heblaw priod, partner sifil etc.), ei fod hefyd yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol.

(2)Mae person yn bodloni’r amod aelod o’r teulu os yw’n aelod o deulu deiliad y contract.

(3)Mae person yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol os oedd, drwy gydol y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract—

(a)yn meddiannu’r annedd, neu

(b)yn byw gyda deiliad y contract.

(4)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn is-adrannau (2) a (3)(b) yn cynnwys y person a olynwyd gan ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 76 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2