RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Olynu
75Olynydd â blaenoriaeth
(1)
Mae person yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract—
(a)
os yw—
(i)
yn briod neu’n bartner sifil i ddeiliad y contract, neu
(ii)
os yw’n byw gyda deiliad y contract fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, a
(b)
os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract.
(2)
Ond nid oes unrhyw berson yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.