xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

Valid from 01/12/2022

PENNOD 8LL+CDELIO

OlynuLL+C

75Olynydd â blaenoriaethLL+C

(1)Mae person yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract—

(a)os yw—

(i)yn briod neu’n bartner sifil i ddeiliad y contract, neu

(ii)os yw’n byw gyda deiliad y contract fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, a

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract.

(2)Ond nid oes unrhyw berson yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)