RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Olynu
I2I174Personau sy’n gymwys i olynu
1
Mae person yn gymwys i olynu deiliad y contract os yw’r person hwnnw—
a
yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract, a
b
heb ei eithrio gan is-adran (3) na (4).
2
Ond os oedd deiliad y contract yn olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, nid oes unrhyw berson yn gymwys i’w olynu.
3
Mae person wedi ei eithrio os nad yw wedi cyrraedd 18 oed ar adeg marwolaeth deiliad y contract.
4
Mae person wedi ei eithrio os oedd, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract, yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni o dan gontract isfeddiannaeth.
5
Nid yw person wedi ei eithrio gan is-adran (4)—
a
os yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract, neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract sy’n bodloni’r amod aelod o’r teulu yn adran 76(2) oherwydd adran 250(1)(a) neu (b) (priod, partner sifil etc.), a
b
os daeth y contract isfeddiannaeth yr oedd yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni oddi tano i ben cyn marwolaeth deiliad y contract.