RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Olynu
73Olynu yn dilyn marwolaeth
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys yn dilyn marwolaeth yr unig ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adran 139(2), sy’n ymwneud â chontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth benodol ynghylch trosglwyddiad yn dilyn marwolaeth unig ddeiliad contract).
(2)
Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu deiliad y contract mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.
(3)
Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78 yn olynu i’r contract.