xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

Valid from 01/12/2022

PENNOD 8LL+CDELIO

OlynuLL+C

73Olynu yn dilyn marwolaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys yn dilyn marwolaeth yr unig ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adran 139(2), sy’n ymwneud â chontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth benodol ynghylch trosglwyddiad yn dilyn marwolaeth unig ddeiliad contract).

(2)Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu deiliad y contract mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.

(3)Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78 yn olynu i’r contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)