RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 1CONTRACTAU MEDDIANNAETH

7Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth

(1)

Mae tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth—

(a)

os yw o fewn is-adran (2) neu (3), a

(b)

os oes rhent neu gydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani.

(2)

Mae tenantiaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)

os yw wedi ei gwneud rhwng landlord ac unigolyn, a

(b)

os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn feddiannu annedd fel cartref.

(3)

Mae tenantiaeth neu drwydded o fewn yr is-adran hon—

(a)

os yw wedi ei gwneud rhwng landlord a dau neu ragor o bersonau, a bod o leiaf un o’r rheini yn unigolyn, a

(b)

os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn (neu i un neu ragor ohonynt, os oes mwy nag un unigolyn) feddiannu annedd fel cartref.

(4)

Ond mae eithriadau i is-adran (1) yn Atodlen 2, sy’n darparu—

(a)

yn Rhan 1, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol nad ydynt o fewn is-adran (2) neu (3) fod yn gontractau meddiannaeth os rhoddir hysbysiad,

(b)

yn Rhan 2, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn is-adran (2) neu (3) yn gontractau meddiannaeth oni bai y rhoddir hysbysiad,

(c)

yn Rhan 3, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol byth yn gontractau meddiannaeth,

(d)

yn Rhannau 4 a 5, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol fod yn gontractau meddiannaeth, ond bod rheolau arbennig yn gymwys mewn perthynas â hwy, ac

(e)

yn Rhan 6, y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen honno.

(5)

Mae pob person y mae landlord yn gwneud contract meddiannaeth ag ef yn ddeiliad contract o dan y contract meddiannaeth.

(6)

Ond ni all unigolyn fod yn ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os nad yw wedi cyrraedd 18 oed.