RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Contractau isfeddiannaeth
67Rhwymedïau’r deiliad contract sydd wedi ei wahardd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn yn erbyn D o dan adran 66(9).
(2)
Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff D wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).
(3)
Y seiliau yw—
(a)
bod I wedi methu â rhoi hysbysiad i D o dan adran 66(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 66(5);
(b)
bod D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract neu’r contract isfeddiannaeth neu’r ddau ohonynt a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 66(3);
(c)
nad oedd gan I, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod D yn ystyried nad oedd yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.
(4)
Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi, caiff—
(a)
dadwneud ei orchymyn o dan adran 66(9) drwy orchymyn, a gwneud datganiad bod y prif gontract yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd, a
(b)
gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.